Gohiriwyd ein holl raglenni dysgu gan fod yr Oriel ar gau dros dro.
Mae iechyd a lles ein hymwelwyr a’n staff o’r pwys mwyaf a byddwn yn gweithio gyda Chyngor Abertawe, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru i ailgyflwyno’r holl weithgareddau dysgu pan fydd yn ddiogel ac yn briodol i’w wneud hynny.
Yn y cyfamser, gallwch ymuno â ni ar-lein; ewch i’n tudalennau Dysgu Glynn Vivian a Glynn Vivian Gartef i gadw mewn cysylltiad dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yn yr Oriel yn y dyfodol agos.
Creu, dysgu a darganfod drwy ein rhaglen gyfranogol llawn dychymyg sy’n addas i bawb.
Rydym yn gweithio’n agos gydag ymwelwyr ac artistiaid i ddatblygu a chreu profiadau dysgu newydd ar gyfer pob oedran, gallu a diddordeb, gan gynnwys y rheini sydd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd yn y rhanbarth.
Rydym yn ceisio sicrhau bod pob un o’n gweithdai a’n gweithgareddau mor hygyrch â phosib. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch hygyrchedd, cysylltwch â’r oriel a bydd aelod o staff yn hapus i siarad â chi. Rydym bob amser yn ymdrechu i wneud addasiadau rhesymol i hwyluso’ch profiad a’ch cyfranogiad yn yr Oriel.
Caiff ein rhaglenni dysgu ac addysgol eu cefnogi’n hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyfeillion Oriel Glynn Vivian.