Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn cynnig lleoliad unigryw ar gyfer eich digwyddiad. Mae’r adeilad sydd wedi’i ailddatblygu’n ddiweddar yn lleoliad perffaith ar gyfer cyfarfodydd busnes ac achlysuron cymdeithasol gyda’i atriwm hyfryd a’i bensaernïaeth Edwardaidd.
Gellir trefnu i logi’r lleoliad yn ystod ein horiau agor, ddydd Mawrth i ddydd Sul, rhwng 10:00 a 17:00.
Am ymholiadau cychwynnol, e-bostiwch: Glenda.Jones@abertawe.gov.uk
Ystafell 1
Mae theatr ddarlithio’r Oriel a adeiladwyd at y diben (Ystafell 1) yn lle hyblyg ac amlbwrpas y gellir ei addasu i ddiwallu anghenion eich digwyddiad. Mae’r lle’n cynnwys technoleg integredig a ddyluniwyd ar gyfer cyflwyniadau, darllediadau a chynadleddau.
Gellir ei ddefnyddio ar gyfer derbyniadau, digwyddiadau rhwydweithio, lansio llyfrau, dosbarthiadau ioga, seremonïau gwobrwyo, sgyrsiau, darlithiau, cynadleddau, gweithdai a darllediadau.
Yr offer sydd ar gael: taflunydd digidol, sgrîn, meicroffonau, darllenfa, ceblau a chysylltyddion gliniaduron, MacBook, seinyddion, Wi-Fi am ddim, byrddau, cadeiriau, chwaraewr blu-ray, siart troi a phennau ysgrifennu.
Cynhwysedd: Mae’r lle’n mesur 55.9m² ac mae lle i hyd at 90 o bobl yn eistedd mewn arddull Theatr Ddarlithio.
Ystafell yr Ardd
Mae Ystafell yr Ardd yn lle perffaith ar gyfer digwyddiadau llai, mwy anffurfiol, gyda ffenestri mawr a mynediad hawdd at ardd yr Oriel. Mae’r lle golau a hamddenol hwn yn cynnig defnydd hyblyg o’i ddodrefn a rennir yn ddwy ardal ar wahân sy’n cynnwys byrddau a chadeiriau ffurfiol, a hefyd gadeiriau meddal a gall ddarparu ar gyfer amrywiaeth o arddulliau a chynlluniau.
Defnydd o’r ystafell: gweithdai, cyfarfodydd bach (ffurfiol ac anffurfiol), gweithgareddau anffurfiol, derbyniadau diod bach, mannau ymneilltuo ac arlwyaeth ar gyfer digwyddiadau yn Ystafell 1
Yr offer sydd ar gael: Wi-Fi am ddim, byrddau, cadeiriau (ffurfiol a chadeiriau meddal), siartiau troi a phennau ysgrifennu, cyfrifiadur (ar gael ar gais)
Lle: Mae lle i uchafswm o 60 o bobl yn yr ystafell.
Llyfrgell
Mae’r llyfrgell yn lle clyd gyda ffenestri mawr a digon ac olau naturiol, ac yn fan delfrydol ar gyfer cyfarfodydd bach a thrafodaethau grŵp.
Defnydd o’r ystafell: Cyfarfodydd a thrafodaethau bach (lle nad oes angen offer clywedol), gweithdai bach.
Yr offer sydd ar gael: Wi-Fi am ddim, byrddau, cadeiriau, siartiau troi a phennau ysgrifennu.
Lle: Mae lle i uchafswm o 12 o bobl yno.
Mae gan Oriel Gelf Glynn Vivian hefyd le amgaeedig yn yr awyr agored, gan gynnwys gardd deras renciog.
Mae dwy gilfach fysus y tu allan i fynedfa’r Oriel lle gellir gollwng neu gasglu pobl. Mae lle parcio tymor hir ar gael i geir ger gorsaf drenau Abertawe.
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian 5 munud o orsaf drenau Abertawe a 15 munud o’r orsaf fysus ganolog ar droed. Am fwy o fanylion, ewch i’n tudalen ‘Ymweld‘
Mae’r holl incwm o Logi Ystafelloedd yn cyfrannu’n uniongyrchol at raglen ddysgu, arddangosfeydd a chasgliadau Oriel Gelf Glyn Vivian. Nid sefydliad er elw yw’r Oriel ac felly mae ein ffïoedd llogi’n rhesymol.