Rydym wedi paratoi rhestr o’r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir gan ymwelwyr â’r Glynn Vivian. Gwyddwn fod gan ein hymwelwyr amrywiaeth o bethau yr hoffent wybod, ond, os na allwch ddod o hyd i’r ateb yma, neu os oes gennych ymholiad arall, cysylltwch â’r tîm o staff cyfeillgar a gwybodus sydd wrth law i’ch helpu â’ch ymholiad.
Hoffwn…
Wneud cais am arddangosfa
Os hoffech gyflwyno cais am arddangosfa yn Oriel Gelf Glynn Vivian, cyflwynwch yr wybodaeth angenrheidiol i oriel.glynn.vivian@abertawe.gov.uk
Dylai ceisiadau am arddangosfeydd gynnwys amlinelliad bras o’ch cynnig, CV, o leiaf chwe sleid o ddelweddau o’r gwaith, ynghyd ag unrhyw gyhoeddiadau neu ddeunydd perthnasol arall.
Dylid nodi’ch cais neu’ch gohebiaeth â’r geiriau Cynnig ar gyfer Arddangosfa.
Anfonir cydnabyddiaeth atoch i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich cynnig maes o law.
Gallwn dderbyn cynigion am arddangosfeydd drwy e-bost yn unig ar hyn o bryd.
Dod i’n rhagarddangosfeydd
Mae ein ‘Partïon Agoriadol’ am ddim, does dim angen gwahoddiad swyddogol ac mae croeso i bawb. I dderbyn hysbysiadau e-bost am ein Partïon Agoriadol ar gyfer Arddangosfeydd, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio.
Gofyn am wybodaeth y wasg
Ffoniwch ein Swyddog Marchnata, Laura Gill, ar 01792 516900 neu e-bostiwch oriel.glynn.vivian@abertawe.gov.uk
Cyflwyno anrheg celfwaith i’r Oriel
Mae’r oriel yn fodlon ystyried derbyn anrhegion a rhoddion i’r casgliad parhaol, fodd bynnag, hyn a hyn o le sydd ar gael. Ystyrir yr holl gynigion caffael gan Banel Casgliadau’r oriel, sy’n cwrdd bob deufis.
Os hoffech i ni ystyried caffael eitem ar gyfer y casgliad, anfonwch ddelwedd a gwybodaeth am y gwaith, gan gynnwys dimensiynau a manylion ynghylch ei tharddiad, i: oriel.glynn.vivian@abertawe.gov.uk
Os hoffai’r Panel Casgliadau fwrw ymlaen â’ch cynnig ymhellach, yna byddwn yn cysylltu â chi.
Cyflwyno rhodd i’r oriel
Mae llawer o ffyrdd i chi gyflwyno rhodd i’r oriel. I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyflwyno Rhodd.
Os ydych yn holi ynghylch rhoddion etifeddiaeth neu nawdd, cysylltwch â ni drwy ffonio’r oriel ar 01792 516900, ebost oriel.glynn.vivian@abertawe.gov.uk
Cael gwybodaeth am ddarn penodol o waith celf yn y casgliad
Gallwch weld uchafbwyntiau’n casgliadau ar ein gwefan neu, os hoffech holi ynghylch darn penodol o waith, e-bostiwch oriel.glynn.vivian@abertawe.gov.uk.
Cael gwybodaeth am gelfwaith neu wrthrych sy’n perthyn i chi
Nid yw Oriel Gelf Glynn Vivian yn darparu gwasanaeth dilysu neu brisio ar gyfer celfweithiau. Gellir cael gwybodaeth o’r fath gan dai arwerthu lleol neu werthwyr celfyddyd gain.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am artist penodol neu gelfwaith rydych yn berchen arno, e-bostiwch ni yn oriel.glynn.vivian@abertawe.gov.uk.
Siarad â’n Gwarchodwr
Fel rhan o raglen ddigwyddiadau’r oriel, rydym yn cynnal sesiynau arbenigol gyda’r Swyddog Cadwraeth.
Mae Crefft Cadwraeth yn canolbwyntio ar fynd y tu ôl i’r llenni a gweld sut rydym yn gofalu am y casgliad.
Mae ein Cymhorthfa Gadwraeth yn gyfle i chi gwrdd â gwarchodwr yr oriel a gofyn cwestiynau am sut i ofalu am eich casgliad celf eich hun.
Llogi’r lleoliad
Gallwch logi’n horiel am unrhyw achlysur, gan gynnwys cyfarfodydd bach a derbyniadau corfforaethol. Ceir mwy o wybodaeth ar ein tudalen Llogi.
Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, siaradwch ag aelod o staff yn ystod eich ymweliad, e-bostiwch oriel.glynn.vivian@abertawe.gov.uk a byddwn yn gwneud ein gorau i ddiwallu’ch anghenion.
Cael mynediad i wasanaeth llyfrgell ac archifau’r oriel
Mae llyfrgell Glynn Vivian yn adnodd arbenigol sy’n gysylltiedig â hanes yr oriel gelf.
Mae gan y llyfrgell gasgliad o lyfrau a chyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â gwaith cerameg yr oriel o’r 18fed a’r 19eg ganrif, ynghyd ag artistiaid o’r 20fed a’r 21ain ganrif, sydd wedi’u cynrychioli yng nghasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian.
Mae’r archif yn cynnwys:
- Llyfrau, pamffledi, catalogau arddangosfeydd
- Ffeiliau hanes celf sy’n cynnwys gohebiaeth wreiddiol a deunydd argraffedig
- Toriadau o bapurau newydd o 1911 ymlaen – dyma adnodd sy’n croniclo digwyddiadau a datblygiadau artistig a diwylliannol yn ne Cymru hyd heddiw
Ceir hefyd gatalogau sy’n ymwneud â sefydliadau megis Cymdeithas Gelfyddydau Abertawe, casgliad Glynn Vivian o lyfrau ac amrywiaeth eang o effemera.
Archif gyfeiriol yn unig yw hon a cheir mynediad ati drwy e-bostio’r Swyddog Dogfennaeth yn oriel.glynn.vivian@abertawe.gov.uk
Argymhellwn eich bod yn trefnu apwyntiad cyn i chi ymweld â ni gan fod y llyfrgell ar agor ar adegau dynodedig yn unig.
Defnyddio ffotograffau o waith celf o gasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian
Ceir mwy o wybodaeth am ein gwasanaeth ffotograffiaeth yma.
Trefnu ymweliad addysgol
Trefnwch ymweliad â’n hartist-addysgwyr yn yr oriel ar gyfer eich ysgol neu’ch coleg. I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Dysgu.
Cymryd rhan mewn gweithdai a digwyddiadau
Ceir gwybodaeth am ein gweithgareddau, ein gweithdai a’n digwyddiadau ein calendr digwyddiadau.
Ymuno â’r rhestr bostio
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr. Ymunwch â’n rhestr e-bostio heddiw i dderbyn gwybodaeth am y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf.
Ymuno â Chyfeillion y Glynn Vivian
Mae Cyfeillion y Glynn Vivian yn cefnogi’r oriel mewn sawl ffordd wahanol.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Cyfeillion y Glynn Vivian
Cael gwybodaeth am fynediad i’r oriel
Ewch i’n tudalen Mynediad i gael mwy o wybodaeth a dadlwythwch ein dogfen Polisi Mynediad.