Mae ein cynorthwywyr oriel cyfeillgar bob amser yn barod i roi croeso cynnes i chi, a’ch help i wneud yn fawr o’ch ymweliad. Mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth am y celfweithiau sy’n cael eu harddangos, yr adeilad a’n rhaglen o weithgareddau ychwanegol.
Gallwch ddod o hyd i gynorthwywyr yr oriel wrth y dderbynfa ac yn yr orielau.
Beth bynnag y mae ei angen arnoch, mae tîm yr oriel yn barod i’ch helpu ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i Oriel Gelf Glynn Vivian.

Parcio Hygyrch
Mae parcio am ddim ar gael yn syth y tu allan i’r oriel i nifer cyfyngedig o gerbydau.
Mae tri lle parcio (cyfnod aros o awr) y tu allan i brif fynedfa’r oriel, ac mae dau lle i ddeiliaid bathodynnau glas o flaen gardd yr oriel (cyfnod aros o dair awr ar y mwyaf). Hefyd mae dwy gilfach gollwng i goetsys hurio preifat y tu allan i fynedfa 1911 yr oriel.
Mae dau faes parcio NCP yn yr ardal. Ewch i we-dudalen meysydd parcio canol y ddinas i gael mwy o wybodaeth. Mae parcio am ddim ar gael ym maes parcio’r Stryd Fawr ar ddydd Sul.

Prif fynedfa
Mae’r oriel ar Heol Alexandra, gyferbyn ag adeilad Alex Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae gan yr oriel fynedfa heb risiau ar y llawr gwaelod.
Mae’r brif fynedfa’n arwain at yr ardal groesawu sy’n cynnwys y dderbynfa, siop, caffi ac ardal eistedd.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw fynediad i’r adeilad drwy’r fynedfa 1911 wreiddiol. Mae’r fynedfa hon ar agor mewn argyfwng yn unig.
Anifeiliaid Cymorth
Mae croeso i gŵn tywys, cŵn clywed a chŵn cymorth cofrestredig .
Gwasanaeth Tywys
Os hoffech gael eich tywys o gwmpas yr adeilad, trefnwch hyn ymlaen llaw. Yn anffodus, ni allwn warantu cymorth i ymwelwyr nad ydynt wedi trefnu ymlaen llaw. Ffoniwch 01792 516900
Cadeiriau Olwyn a Sgwteri Symudedd
Mae gan yr oriel lwybrau clir sy’n 1.5 metr o led ac sy’n addas i gadeiriau olwyn a sgwteri symudedd.
Nid oes unrhyw gadeiriau olwyn ar gael i’w defnyddio yn yr oriel.
Gallwch logi sgwteri a chadeiriau olwyn pweredig gan Logi Cyfarpar Symudedd Abertawe yng ngorsaf fysus Abertawe. Ffoniwch 01792 461785


Derbynfa
Mae desg y dderbynfa bellter byr o’r brif fynedfa, ac mae ganddi ddau uchder sef 100cm a 76cm fel y gall pobl sy’n defnyddio cadair olwyn fynd ati’n hawdd.
Mynediad Lifft
Mae ein prif fynedfa ar lefel y stryd ac mae’r holl orielau’n hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae gan y lifftiau ddangosydd lloriau gweledol a theclyn cyhoeddi clywedol.
Mae’r botymau galwad allanol ar lefel isel ac mae lefel y golau yn y lifftiau’n llachar.

Caffi
Mae’r caffi i’r chwith o ddesg y dderbynfa ac mae ganddo fynediad gwastad.
Mae lle i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn symud o gwmpas ac nid yw’r celfi’n sefydlog.

Siop
Mae’r siop i’r chwith o ddesg y dderbynfa ac mae ganddo fynediad gwastad. Mae lle i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn symud o gwmpas ac nid yw’r celfi’n sefydlog.
Efallai bydd rhai eitemau allan o gyrraedd pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn, fodd bynnag mae ein cynorthwywyr oriel cyfeillgar bob amser ar gael i helpu.
Induction Loops
Bydd angen i chi ddewis y gosodiad ‘T’ ar eich dolen glyw. Mae dolenni clyw ar gael o’r ardaloedd canlynol:
- Desg y dderbynfa
- Ystafell 1 – Theatr Ddarlithio
- Mannau manwerthu
Cyfarpar gwella sain
Mae siaradwyr sy’n rhoi sgyrsiau yn yr orielau’n gwisgo dolenni clyw cludadwy. Mae pedwar derbynnydd cludadwy, sydd ar gael o ddesg y dderbynfa.
Print Bras
Gallwch ofyn am wybodaeth print bras am arddangosfeydd, digwyddiadau a chyfleusterau drwy ffonio 01792 516900 neu e-bostio’n tîm.
Mae labeli arddangosfa a thestunau dehongli print bras ar gael yn yr oriel. Gofynnwch i un o gynorthwywyr yr oriel neu gofynnwch wrth y dderbynfa.
Os oes angen fformat arall arnoch, e-bostiwch glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
Loceri
Mae loceri ar gael ar y llawr gwaelod isaf, y mae angen mynd i lawr 9 gris i’w cyrraedd. Os nad ydych yn gallu defnyddio’r grisiau, mae’r cynorthwywyr oriel ar gael i’ch helpu. Gofynnwch wrth y dderbynfa.
Mae tri maint gwahanol o loceri ar gael, sef 40cm x 84cm, 30cm x 40cm, a 30cm x 56cm.
Pris un locer yw £1, sy’n ad-daladwy.
Caiff y loceri eu gwacáu ar ddiwedd bob dydd a’r holl eitemau eu tynnu allan ohonynt. Mae rheseli cotiau ychwanegol ar gael yn ystod rhagarddangosfeydd a digwyddiadau arbennig.
Toiledau Cyhoeddus
Mae toiledau hygyrch, cyfleusterau Changing Places a chyfleusterau newid cewynnau babanod ar gael ar y llawr gwaelod. Gallwch ddod o hyd iddynt yn ardal y brif fynedfa, i’r chwith o’r dderbynfa. Gallwch gael mynediad i’r cyfleuster Changing Places gydag allwedd radar. Gofynnwch i aelod o staff am fwy o wybodaeth.
Mae toiledau cyhoeddus hefyd ar y llawr gwaelod isaf. Gallwch gyrraedd y rhain drwy fynd i lawr naw gris o’r brif fynedfa.
Mae tri thoiled hygyrch yn yr adeilad, gyda dau ohonynt ar y llawr gwaelod yn ardal y brif fynedfa ac un arall ar yr ail lefel, rhwng y lifft ac Ystafell 9. Mae gan yr holl doiledau hygyrch larwm argyfwng, bachau cotiau a chanllawiau ar y waliau.


Golau
Mae pob ardal o’r oriel wedi’i goleu’n dda, gyda golau dydd naturiol a llachar ym mhob ystafell heblaw am ein Stiwdio Ddysgu (Ystafell 2) a’n Horiel Arddangos (Ystafell 3). Ambell waith defnyddir y sgrîn yn y theatr ddarlithio (Ystafell 1) i greu amgylchedd tywyll sy’n addas ar gyfer dangos ffilmiau a chyflwyniadau.
Mae’r grisiau wedi’u marcio’n glir ac mae canllawiau ar y ddwy ochr.
Seddi
Mae nifer o seddi cludadwy ar gael i’w defnyddio yn yr orielau, gofynnwch i aelod o staff am gymorth.
Mae meinciau yn y brif fynedfa ac yn rhai o’n horielau. Mae amrywiaeth o seddi yn yr Atriwm ac Ystafell yr Ardd, gan gynnwys soffas.
Mae detholiad o feinciau pren yn ein gardd derasog, yn ogystal â meinciau haearn unigryw a wnaed â llaw gan Mark Dyvig, ac sy’n rhan o’n casgliad.
Mannau ar gyfer Digwyddiadau
Cynhelir y rhan fwyaf o’n digwyddiadau yn yr Atriwm, Ystafell yr Ardd, y Theatr Ddarlithio (Ystafell 1), y Stiwdio Ddysgu (Ystafell 2) neu’r Llyfrgell.
Mae’r holl ystafelloedd ar lefel 0 a gellir eu cyrraedd yn hawdd mewn cadair olwyn.
Bydd rhai gweithgareddau’n cynnwys ardaloedd eraill o’r oriel, y gellir cyrraedd pob un ohonynt drwy ddefnyddio’r lifft.
Allanfeydd Tân
Mae llwybrau gadael amrywiol drwy’r adeilad i’w defnyddio os bydd argyfwng. Mae’r allanfeydd wedi’u marcio’n glir ag arwyddion gwyrdd, llachar â ‘dyn yn rhedeg’.
Bydd staff yn helpu i sicrhau bod yr holl ymwelwyr yn gadael yr adeilad yn brydlon ac yn ddiogel os bydd argyfwng.
Mae cadeiriau dianc ar gael i helpu ymwelwyr anabl.
Mewn argyfwng, bydd y lifft yn codi’n awtomatig i lefel 4 lle mae’r stiwdios cadwraeth, a bydd aelod o staff yn cwrdd â chi ac yn eich arwain allan o’r adeilad yn ddiogel.