Mae Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe’n oriel leol ac yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol yn Abertawe. Mae hefyd yn chwarae rôl hollbwysig yn ecosystem celfyddydau Cymru gyfan a’r tu hwnt.
Mae ein rhaglen artistig yn cynnwys arddangosfeydd, cydweithrediadau a phrosiectau sy’n cynnwys y gymdeithas. Wrth wraidd ein holl waith yw’r gred y gall celf a chreadigrwydd fod o fudd enfawr i’n cymdeithasau, gan helpu i lywio’n dyfodol a’r lleoedd rydym yn byw ynddynt.
Rydym yn cefnogi artistiaid lleol newydd a sefydledig yn ogystal â chroesawu rhai o artistiaid mwyaf adnabyddus y byd i Gymru – gan gyflwyno arddangosfeydd enwog a chomisiynu gwaith rhagorol sy’n benodol i safle ac sy’n cynnwys y gymdeithas.
Mae gennym gasgliad anhygoel o gelfweithiau a cherameg yn ogystal â gwaith ar bapur, sy’n ffurfio rhan bwysig o “gof diwylliannol” y ddinas. Rydym yn arddangos llawer o’r gwaith hwn yn ein casgliad parhaol ond hefyd yn annog artistiaid, curaduron ac aelodau’r cyhoedd i guradu arddangosfeydd.
Cred Glynn Vivian yw y ‘gall celf newid eich bywyd’. Rydym yn ymfalchïo yn ein rhaglen dysgu a chynnwys, sy’n cyrraedd dros 16,000 o bobl y flwyddyn. Rydym yn cynnig nifer o ffyrdd o gymryd rhan, gan gynnwys sgyrsiau, teithiau, gweithdai a gweithgareddau, nosweithiau hwyr a digwyddiadau drwy’r flwyddyn. Rydym yn cynnig sawl ffordd o gynnwys ymwelwyr rheolaidd â’r oriel a’r rheini nad ydynt mor gyfarwydd â’n gwaith.
Mae croeso i bawb. Rydym o’r farn y dylai celf a chreadigrwydd fod ar gael i bawb, ni waeth beth yw eu hoed, eu rhyw, eu hil, eu hanabledd, eu crefydd neu eu tueddfryd rhywiol.
Os hoffech gysylltu neu os oes gennych ymholiad am ein gwaith, cysylltwch ag aelod o dîm yr oriel drwy ffonio 01792 516900 neu drwy e-bostio glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk