Blitz Tair Noson Abertawe
Mae 80 mlynedd wedi mynd heibio ers Blitz Tair Noson Abertawe, tair noson o fomio trwm a hirfaith gan Luftwaffe’r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Digwyddodd y bomio ar 19, 20 a 21 Chwefror 1941. Llwyddodd yr artist lleol Will Evans i gofnodi’r golygfeydd dinistriol trwy gyfres o baentiadau sy’n rhan o Gasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian: Dinas a Sir Abertawe. Ewch i’n horiel ar-lein i ddarganfod mwy.
Will Evans (1888-1957)
Roedd Will Evans, a aned yn Waun Wen Abertawe ym 1888, yn arlunydd nodedig a baentiai olygfeydd o’r dref a chefn gwlad. Roedd hefyd yn lithograffwr ac yn athro celf mawr ei barch.
Ym 1937, sefydlodd yr adran lithograffi yn Ysgol Gelf Abertawe, ar gais y Prifathro, William Grant Murray (1877-1950). Agorwyd ysgol argraffu newydd yn Rutland Street ym mis Chwefror 1940 ar ôl bron degawd o’i gynllunio, ond yn anffodus fe’i dinistriwyd yn ystod Blitz Tair Noson Chwefror 1941 flwyddyn yn ddiweddarach.
Roedd yr ymosodiadau ar Abertawe wedi gwneud argraff ddofn ar Will Evans a oedd yn byw yn Stanley Terrace yn Mount Pleasant lle’r oedd ganddo olwg oddi uchod dros y ddinas o’i gartref. Dogfennodd ganlyniadau’r Blitz mewn cyfres o baentiadau dyfrlliw sy’n dangos y dinistr a ddioddefodd Abertawe oherwydd bomio parhaus gan Luftwaffe’r Almaen.
Maer celfweithiau hyn o bwys hanesyddol mawr i Abertawe, cofnod gwerthfawr mewn paent, ac mae sawl enghraifft yng nghasgliad y Glynn Vivian.
Pob llun © Anne Sandifer a Jennifer Cockle. Dinas a Sir Abertawe: Casgliad Oriel Gelf Glynn Vivan.