Wedi’i gosod yng nghalon y ddinas, mae Oriel Cyngor Abertawe, y Glynn Vivian yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol ac yn oriel o safon fyd-eang ar gyfer Cymru.
Mae’r Oriel yn fan celf bywiog ac ysbrydoledig am ddim i bawb sydd yn darparu lle ar gyfer arddangosfeydd celf hanesyddol, fodern a chyfoes, sgyrsiau, darlithoedd a chynadleddau, cerddoriaeth fyw, perfformiadau a digwyddiadau yng nghalon ardal artistig brysur Abertawe.
Agorodd Oriel Gelf eiconig Glynn Vivian yn Abertawe i’r cyhoedd ar ddydd Sadwrn 15 Hydref, 2016 yn dilyn prosiect ailddatblygu ac adfer gwerth miliynau o bunnoedd.
Bydd ardaloedd newydd ar gyfer darlithoedd, gwaith cadwraeth arbenigol, arddangosiadau teithiol ac arddangos casgliadau ymysg y gwelliannau y gall ymwelwyr edrych ymlaen at eu gweld.
Bydd estyniad o’r safon orau’n cysylltu â’r adeiladau hanesyddol, gan gynnwys oriel restredig gradd dau sy’n dyddio o 1911, sydd wedi elwa o waith adfer cyflawn a gwelliannau i gyfleusterau a mynediad. Bydd hyn i gyd yn sicrhau bod Oriel Gelf Glynn Vivian yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.
Mae storfa gasglu newydd ar gyfer gwaith celf hefyd wedi’i hychwanegu, yn ogystal â mynedfa gwbl hygyrch sy’n golygu y bydd mwy o bobl nag erioed yn gallu cael mynediad gwell i’r gweithiau celf.
Roedd ailddatblygiad yr Oriel yn cynnwys:
- Gwaith cadwraeth i’r adeilad Gradd II* rhestredig a agorwyd ym 1911
- Mynedfa newydd a siop ar lefel y stryd
- Ail-ddylunio estyniad yr oriel a adeiladwyd ym 1974 ac adeiladu strwythur cysylltu gwydr newydd
- Lifft newydd i bobl i ganiatáu mynediad llawn i’r holl arddangosfeydd a’r orielau casgliadau ac i bob cyfleuster addysg ac astudio yn ogystal ag ardaloedd eraill
- Mwy o le i ddangos casgliadau ac arddangosfeydd
- Ardal storio a chadwraeth fwy hwylus er mwyn datblygu casgliadau yn y dyfodol
- Ardaloedd technegol newydd a swyddfeydd gweinyddol
- Adnewyddu’r ystafell addysg bresennol a gwella’r cyfleusterau i weithio gyda cholegau ac ysgolion a’n cyfranogwyr
- Darlithfa ac ystafell gymunedol newydd
- Llyfrgell a chanolfan archifau pwrpasol at ddibenion ymchwil ymwelwyr
- Caffi newydd a siop gyda mynediad wi-fi
Ariannwyd y prosiect ailddatblygu ac adfer gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Abertawe, Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Sicrhawyd arian hefyd trwy gynllun grant y Rhaglen Gwella Adeiladau sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Abertawe a’i ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop.
Rhoddwyd cyllid hefyd yn hael gan Gyfeillion y Glynn Vivian i gefnogi cadwraeth eitemau yn y casgliad, darparu cyfarpar ar gyfer y stiwdio ddysgu newydd a chefnogi rhaglenni dysgu cymunedol.