Teithiau rhwng Bywyd a Chelf: Richard Glynn Vivian (1835-1910)
Richard Glynn Vivian (1835–1910) oedd sylfaenydd ein horiel yn Abertawe. Wedi’i eni yn Abaty Singleton, roedd Glynn yn bedwerydd mab y teulu Vivian cefnog, perchnogion gwaith mwyndoddi copr mwyaf llwyddiannus y byd yn y 19eg ganrif.
Gadawodd Glynn ei gasgliad celf cyfan ‘er mwynhad pobl Abertawe’ ym 1908, ac agorodd yr oriel ym 1911, flwyddyn ar ôl ei farwolaeth .
Bu Glynn Vivian yn casglu trwy gydol ei fywyd, gan deithio’n helaeth ar agerlongau a threnau, a chaffael gwrthrychau a gwaith celf o bob gwlad yr ymwelodd â hi. Mae ‘Teithiau rhwng Celf a Bywyd’ yn cyflwyno ei gasgliad ac yn dathlu ei fywyd am y tro cyntaf mewn dros 100 mlynedd.
Yn dilyn ôl troed ei dad, mae casgliad Glynn yn eithriadol oherwydd ei fod yn caffael gwrthrychau ymhell cyn yr oedd hi’n ffasiynol gwneud hynny, gyda cherameg o Tsieina a chrochendai Ewrop, gwyntyllau a thecstilau, portreadau miniatur, llestri arian a phaentiadau, gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith yn dyddio o’r 18fed ganrif a chyn hynny, gan fod Glynn yn casáu ‘pob peth modern’.
Cafodd Glynn ei addysgu yng Ngholeg Eton ac astudiodd ddyniaethau ym Mhrifysgol Caergrawnt. Pan fu farw ei dad ym 1855, etifeddodd gyfran chwarter ym musnes y teulu, ond gan nad oedd wedi cael ei hyfforddi mewn meteleg, nid ymunodd â’i frodyr yn Abertawe, gan benderfynu teithio’r byd i gasglu celf yn lle hynny.
Adnoddau cysylltiedig: Lawrlwythwch am ddim, mae ar gael o iTunes a Google Play.
Cefnogwyd y prosiect yn hael gan un o grantiau Cronfa Treftadaeth y Loteri.