Mae casgliad Oriel Gelf Glynn Vivian yn cynnig amrywiaeth o gelf weledol, o gymynrodd wreiddiol Richard Glynn Vivian (1835-1910) i gelf gyfoes a Chymreig o’r 20fed ganrif.
Mae casgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian yn gartref i lawer o gelfweithiau, y maent yn cael eu harddangos yn eu tro ar draws yr orielau. Mae’r rhain yn cael eu newid bob tymor, felly gwiriwch cyn i chi gyrraedd os ydych yn bwriadu ymweld â ni i weld darn o gelfwaith neu artist penodol.
Ni allwn sicrhau y bydd holl uchafbwyntiau’r casgliad yn cael eu harddangos, felly cysylltwch â’r oriel wrth i chi gynllunio’ch ymweliad. Ffoniwch ni ar 01792 516900, neu e-bostiwchglynn.vivian@abertawe.gov.uk