Mae agor meddyliau ac ehangu gorwelion wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud wrth i niymdrechu i rymuso disgyblion a gwneud celf yn rhywbeth difyr, cyffrous ac ysbrydoledig.
Oriel Gelf Glynn Vivian yw’r arweinydd yng Nghymru ar gyfer darparu rhagoriaeth gyson yn ei rhaglenni dysgu, cyfranogiad a chynnwys, ac mae wedi cael ei chydnabod am ei hymagwedd arobryn o safon at ddysgu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Gweithdai a theithiau
Cysylltwch â ni i drafod anghenion eich ysgol a sut y gallwn ddod â’r oriel yn fyw!
E-bostiwch ni: glynn.vivian@abertawe.gov.uk
Ffoniwch ein Tîm Dysgu ar 01792 516900
Mae gweithdai’n para awr o hyd
Dewiswch o blith y canlynol:-
1) Archwilio’r casgliad
Dewch o hyd i wybodaeth am y celfweithiau a’r gwrthrychau sydd yng nghasgliad parhaol yr oriel a chreu eich gwaith celf eich hun mewn ymateb.
2) Taith o gwmpas arddangosfa
Ewch y tu ôl i’r llenni i gael rhagor o wybodaeth am yr artistiaid a’r celfweithiau y mae’r oriel yn eu harddangos yn ein rhaglen arddangosfeydd dros dro, dan arweiniad Tîm Dysgu’r oriel.
3) Sesiwn grefftau ymarferol
Yn seiliedig ar gasgliad yr oriel neu arddangosiadau arddangosfeydd, crëwch eich gwaith celf eich hun yn y sesiwn greadigol, estynedig hon sy’n canolbwyntio ar grefftau. Sesiwn bwrpasol wedi’i chynllunio o gwmpas pwnc presennol eich ysgol.
Mae adnoddau ar gael ar gyfer athrawon gyda gweithgareddau cyn y sesiwn yn ymwneud â’n harddangosfeydd cyfredol a’n casgliad parhaol.
Gellir teilwra pob sesiwn i gyd-fynd â phynciau a themâu eich ysgol, ond efallai y bydd angen rhagor o amser ar y tîm er mwyn iddynt allu paratoi ar gyfer y rheini.