Cyngor Abertawe – Datganiad y Gwasanaethau Diwylliannol
Yng Nghymru, ar draws y DU ac ym mhob rhan o’r byd, mae pobl wedi bod yn dangos eu dicter wrth lofruddiaeth George Floyd. Mae Cyngor Abertawe’n condemnio gorthrwm a thrais hiliol yn eu holl ffurfiau. Rydym yn cydnabod bod angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb systemig yn ein cymuned a’n sefydliadau cyhoeddus, a chael gwared arnynt.
Hoffem eich sicrhau ein bod yn cymryd y mater hwn o ddifrif.
Mae ein staff yn ymroddedig i adolygu’r gwaith rydym yn ei wneud ar hyn o bryd, yn arbennig yn lleoliadau diwylliannol Abertawe, er mwyn newid y rhagfarn wreiddiedig, yr ymwybodol a’r anymwybodol fel ei gilydd, er mwyn cael gwared ar hiliaeth a gadael i gydraddoldeb ffynnu.
Mae ein staff ar draws adrannau wedi dechrau cymryd camau pellach i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol yn ein gweithlu, ac yn ein digwyddiadau, ein harddangosfeydd a’n perfformiadau, yn ogystal â’n rhaglenni allgymorth a dysgu. Rydym am adolygu cerfluniau cyhoeddus y ddinas, casgliadau’n harchifau ac unrhyw waith a gaiff ei gomisiynu ac a ddaw i’n meddiant yn y dyfodol.
Rydym yn ymwybodol bod angen i ni newid pethau ar frys, a byddwn yn gwneud popeth y gallwn i wneud hyn mor gyflym â phosib. Gellir gwneud rhai pethau’n gyflym; ond bydd angen rhagor o amser, ymchwil, addysg a dealltwriaeth arnom i ymdrin â phethau eraill. Ond, rydym yn hollol ymroddedig i hyn. Gwyddom fod diwylliant a’r celfyddydau’n dod â phobl ynghyd i rannu syniadau, trafod, dadlau, cyfnewid syniadau a chreu ffyrdd newydd o weithio a byw ar y cyd. Mae amgueddfeydd, orielau, theatrau a lleoliadau’r cyngor yn cydweithio ag ysgolion, prifysgolion, sector y celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, ond yn bwysicach fyth, gyda’n cymunedau lleol er mwyn helpu i gyflwyno newid cadarnhaol drwy ein dinas a’n cymdeithas ehangach.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Teimlwn ei bod hi’n bwysig i ni rannu’r camau rydym wedi dechrau eu cymryd i fynd i’r afael eto ag anghydraddoldeb hiliol yn ein sefydliad, a sut gallwn wneud newidiadau cadarnhaol i’n ffyrdd o weithio, ein rhaglenni cyhoeddus a’n casgliadau parhaol, er mwyn cael gwared ar hiliaeth ym mhob rhan o’n gwaith a chaniatáu i gydraddoldeb ffynnu.
- Rydym wedi trefnu cyfres o gyfarfodydd o fewn y tîm, gyda’i staff, gyda’r panel ymgynghorol dysgu a chynnwys a chyda grwpiau ehangach yn y gymuned i fynd i’r afael â’r materion hyn yn rhagweithiol. Byddwn yn parhau â’r gwaith hwn ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud.
- Rydym yn archwilio’n ffyrdd presennol o weithio yn ogystal â’n holl bolisïau – caffaeliadau, arddangosfeydd, dysgu, cyflogaeth, gwirfoddoli.
- Hoffem glywed eich barn, eich profiadau a’ch syniadau chi hefyd, a byddwn yn eich gwahodd i gyfres o sgyrsiau fel y gallwch rannu eich profiadau, eich meddyliau a’ch barn a gweithredu arnynt. (Byddwn yn cynnal y sgyrsiau hyn yn yr oriel wedi iddi ailagor ar ôl codi cyfyngiadau symud COVID, neu efallai ar-lein, gan ddibynnu ar amserlenni).
- Rydym yn dra ymwybodol bod y ffordd rydym yn arddangos ein casgliad parhaol, a’r ffordd y mae’n cael ei ddeall, yn ogystal â sut y mae hanes Glynn Vivian a’i deulu’n cael ei adrodd ar hyn o bryd, yn hollol annigonol. Fel nifer o orielau a dinasoedd yn y DU a sefydlwyd ar ffortiynau gwladychiaeth yn y 19eg a’r 20fed ganrif, enillodd Vivian ei gyfoeth drwy’r diwydiant gweithgynhyrchu, a oedd yn ei dro yn dibynnu ar drais a gorthrwm y lliaws er cyfoeth yr ychydig. Byddwn yn cynnal cyfarfodydd, ymgynghoriadau a seminarau i ystyried hyn a’r mater ehangach o ddadwladychu casgliadau.
- Rydym ar hyn o bryd yn adolygu’n polisïau caffael. Hoffem eich sicrhau o hyn ymlaen, pan fyddwn yn cael gafael ar waith celf, byddwn yn cynnwys gwaith artistiaid du yn ein casgliadau yn ogystal â grwpiau eithriedig eraill. Rydym hefyd am eich sicrhau ein bod ni’n gwneud y newidiadau angenrheidiol i’n polisïau er mwyn galluogi hyn.
- Rydym yn adolygu’r holl arddangosfeydd dros dro, ein prosesau a’n polisïau fel mater o frys. Er bod sicrhau cydraddoldeb ar draws ein harddangosfeydd bob amser wedi bod o bwys mawr i ni, gwyddom y gallwn wneud llawer mwy i sicrhau ein bod yn adlewyrchu ac yn cynrychioli pob un o’n cymunedau.
- Rydym yn frwd dros gyfranogiad, dysgu a chyrraedd pawb. Drwy ein rhaglenni dysgu, cynnwys ac allgymorth rydym yn ceisio annog cynhwysiad a chyfranogiad gyda phobl o bob cefndir, hil a chrefydd, a’r rheini ag anghenion a galluoedd gwahanol.
- Rydym am edrych ar ffyrdd o gynnig cyfleoedd i gymunedau, grwpiau a gweithredwyr y celfyddydau ddefnyddio’r ystafelloedd sydd ar gael gennym, am ddim, i gynnal cyfarfodydd a sgyrsiau pellach er mwyn mynd i’r afael â hiliaeth systematig.
- Rydym am gefnogi artistiaid y mae eu gwaith yn ymdrin â rhai o faterion pwysicaf ein hoes ac yn mynd i’r afael â hwy – hiliaeth systematig, materion amgylcheddol, tlodi a chyfalafiaeth, gan ein bod yn deall eu pŵer i gyfrannu at newid cymdeithasol.
- Rydym yn adolygu’n siop ac yn ystyried sut gall y cynnyrch rydym yn ei werthu a’r cwmnïau rydym yn eu cefnogi fod yn rhan o’r newid cadarnhaol hwn.
- Byddwn yn adolygu’n holl drefniadau cyflogaeth a gwirfoddoli a’n rhaglenni interniaeth i sicrhau cyfle a chynhwysiad cyfartal.
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn rhan o Gyngor Abertawe ac yn lleoliad sy’n rhan o’r Gwasanaethau Diwylliannol. Mae ein hymroddiad yn cefnogi Strategaeth Gwasanaethau Diwylliannol ehangach y ddinas.
Datganiad o Fwriad
Yma yn Abertawe rydym yn falch o’n hamrywiaeth ac yn ei ystyried yn ffynhonnell o gryfder diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd. Byddwn yn gweithio’n ddi-baid i sicrhau cyfle cyfartal i bawb, ac yn ymgorffori’r egwyddor bod mynediad at ddiwylliant a chyfranogiad ynddo yn hawl dynol sylfaenol, nid braint.
Byddwn yn anelu at gael amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol sy’n cynrychioli ac yn diwallu anghenion holl sectorau’r gymuned, gan gymryd camau i ddiwallu anghenion y bobl a chanddynt nodweddion gwarchodedig, sef oedran; anabledd; ailbennu rhywedd; priodas a phartneriaeth sifil; beichiogrwydd a mamolaeth; hil; crefydd neu gred; rhyw a thueddfryd rhywiol – yn ogystal â’r rheini sy’n byw dan anfantais economaidd, y mae eu hanghenion yn wahanol i anghenion pobl eraill.”
Mae’r camau rydym wedi’u cymryd hyd yn hyn ar draws y Gwasanaethau Diwylliannol yn cynnwys:
Mabwysiadu’r Addewid Amrywiaeth;
Rydym eisoes wedi ymgymryd â rhaglen o waith tymor hir i amrywio’n cynulleidfaoedd a chreu amgylchedd diogel a chroesawgar i’n holl gymunedau. Gwnaed hyn o ganlyniad i’n cyfranogiad mewn rhaglen traws-Ewropeaidd â’r nod o wreiddio mynediad at ddiwylliant ym mholisïau ein dinas. Roedd yr ymgynghoriad a gafwyd yn sgîl y gwaith hwn, yn ogystal â’r partneriaethau a ddatblygwyd, yn amlygu’r diffyg amrywiaeth yn ein darpariaeth ddiwylliannol o ran cynhyrchwyr a chynulleidfaoedd, ac amlinellir ein hymrwymiad i fynd i’r afael â hyn yn ein haddewid amrywiaeth, sy’n barod i’w fabwysiadu. Mae’n stori lwyddiannus am weithio mewn partneriaeth gydag amrywiaeth o gymunedau i sicrhau y cydnabyddir y newidiadau y mae angen eu gwneud i sicrhau y deellir ac y cefnogir hawliau, cyfrifoldebau a galluoedd unigol, fel y gellir meithrin mwy o gyfranogaeth gan ein cymuned gyfan yn ein bywyd diwylliannol.
Datblygu’r Hwb Diwylliannol a Digidol yn Theatr y Grand Abertawe;
Rydym wedi creu lle newydd ar gyfer celfyddydau amrywiol yn Theatr y Grand Abertawe. Caiff y ganolfan newydd hon ei rhedeg ochr yn ochr â’r awditoriwm a’r theatr bresennol gan ganolbwyntio ar waith newydd sy’n amlygu ac yn dathlu amrywiaeth ein cymuned ehangach; bydd yn darparu caffi cymunedol a chyngor perthnasol ar faterion sy’n ymwneud â hil; cynhwysiad; troseddau casineb; cydraddoldeb a chydlyniant.
Cynnal Adolygiad o Leoedd, Isadeiledd Diwylliannol, Treftadaeth, Cofadeiladau a Chasgliadau;
Rydym wedi dechrau adolygiad cyflawn o’n casgliadau; blaenoriaethau comisiynu; marcwyr creu lleoedd a threftadaeth, er mwyn i ni allu deall arferion presennol yn well a gwneud argymhellion deallus ar gyfer newid:
- Rhoi cyd-destun i’n cyfeiriadau hanesyddol. Ceir enghreifftiau yng nghasgliadau Gwaith Copr yr Hafod a chasgliadau celf yr amgueddfa, yr archifau ac Oriel Gelf Glynn Vivian. Mae rhaglenni dysgu ac arddangos newydd yn cael eu datblygu o gwmpas rhoi cyd-destun i berchnogaeth, hanes a chyfrifoldeb ar gyfer y dyfodol. Roedd cais Dinas Diwylliant 2021 yn cyfeirio at y rhain ac yn cynnwys rhai prosiectau diddorol iawn y gellir ystyried eu cyflwyno dros y flwyddyn nesaf.
- Strategaethau a blaenoriaethau comisiynu a churadurol ar gyfer rhaglenni a chomisiynau’r celfyddydau cyfoes; defnyddio’n gwaith partneriaeth gwych â Chyngor Hil Cymru a’r gymuned BAME i ffurfio Bwrdd Prosiect ar gyfer y ganolfan, a sicrhau ei safle wrth ‘adfywio’ canol y ddinas yn ehangach;
- bydd staff yr Archifau a swyddogion hanes lleol yn gweithio gyda grwpiau ac arbenigwyr hanes yn y ddinas i adolygu a drafftio dogfen a fydd yn egluro ac yn sicrhau dealltwriaeth o enwau strydoedd, mannau cyhoeddus, cofadeiladau ac arteffactau mewn mannau cyhoeddus er mwyn llunio cofnod hanesyddol newydd, a’u hailystyried o bosib.
- Adolygu’r archwiliad blaenorol a gynhaliwyd o gelfyddyd cyhoeddus, cofadeiladau a cherfluniau ynghyd â’r strategaeth plac glas er mwyn nodi a chydnabod grŵp mwy amrywiol o unigolion sy’n adlewyrchu egwyddorion rhyddfreinio a chydraddoldeb, arloesedd a chymunedau cydlynus yn briodol.
Cyflwyno Strategaeth Celfyddydau Canol y Ddinas;
Rydym yn cyflwyno’r strategaeth celfyddydau er mwyn adfywio canol y ddinas, sy’n sylfaen allweddol ar gyfer y defnydd o fannau cyhoeddus yn Abertawe yn y dyfodol. Bydd y comisiynau’n cyfuno gwybodaeth ac ymwybyddiaeth hanesyddol â ffyrdd cyfoes o ddefnyddio mannau cyhoeddus ac adeiladau ac yn darparu gosodiadau ysbrydolus sy’n edrych i’r dyfodol. Mae’r strategaeth yn ceisio sicrhau bod ein mannau cyhoeddus a’n cyfeiriadau hanesyddol a diwylliannol yn adlewyrchu’n Haddewid Amrywiaeth.
Adolygu, ailddrafftio a mabwysiadu’r Fframwaith Datblygiad Diwylliannol
Oherwydd yr uchod a’n hymrwymiad i Agenda21 – Diwylliant mewn Dinasoedd Cynaliadwy, partneriaethau ac amrywiaeth, mae’n amserol i adolygu ac ailddrafftio blaenoriaethau’n Fframwaith Datblygiad Diwylliannol. Fel dogfen gorfforaethol allweddol a luniwyd i gyflwyno agenda adfywio a chynhwysiad y cyngor, bydd yn galluogi ymrwymiad strwythurol a systematig pellach at ddeall ein treftadaeth ddiwylliannol a chyfraniad ein holl gymunedau at ein gwaith i greu lleoedd ‘n datblygiad diwylliannol.