• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
Rydych chi yma: Hafan / Abertawe drwy Lygaid John Piper gyda chyfranogwyr o Ganolfan Gymunedol Waunarlwydd  

Abertawe drwy Lygaid John Piper gyda chyfranogwyr o Ganolfan Gymunedol Waunarlwydd  

Cyfranogwyr gyda’u gwaith tecstilau cydweithredol y tu allan i Ganolfan Gymunedol Waunarlwydd

Gyda Bae Abertawe a Golygfa o Dde Cymru (Gorllewin Abertawe)  

Fel rhan o raglen allgymorth Oriel Gelf Glynn Vivian, bu’r oriel yn cydweithio â’r artist tecstilau Menna Buss a phartner y prosiect, ArtBreak, a gynhelir gan Tina Grant. 

Gyda’r cyfranogwyr: Chris G | Chris L | Chris D | Glenys | Ann | Beverly | Jeff | Marjorie | Monica | Cath | Cathie | Rebecca | Angela | Gill | Liz | Debbie  


Yng Nghanolfan Gymunedol Waunarlwydd, cyflwynwyd pobl leol i waith amrywiol o gasgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian. Treuliodd y grŵp y diwrnod yn ymateb yn greadigol i’r lluniau hyn drwy eiriau a phrint. Sbardunodd y darnau Bae Abertawe a Golygfa o dde Cymru (Gorllewin Abertawe) gan John Piper y sgyrsiau mwyaf gan iddynt ddangos tirnodau adnabyddus yn Abertawe a golygfeydd dramatig.

John Piper: Bae Abertawe. Print ac inc ar bapur. 1970au

John Piper: Golygfa o dde Cymru (Gorllewin Abertawe). Gouache a dyfrlliw. 1970au.

Crybwyllodd aelodau’r grŵp gysylltiadau personol â’r tirweddau ar draws y ddinas hyd at y bae. Gwnaethant ddechrau rhannu straeon a oedd yn ymwneud â’r golygfeydd: atgofion am eni babanod cyntaf, ffatrïoedd picls, gwersi piano, dringo Mynydd Cilfái, ymweld â’r môr a theithiau ar y trên ager.

Gan ddefnyddio edafedd brodwaith, dysgodd y cyfranogwyr dechnegau brodio â llaw i ychwanegu at eu printiau. Gwnaeth y cyfweliadau ddangos y straeon a oedd yn cysylltu’r cyfranogwyr â lleoedd yn lluniau John Piper, yn ogystal â’u hymatebion eu hunain i’r gwaith. Cafodd ymatebion testun eu coladu drwy ambell linell a dyfyniad a’u brodio ar gotwm gwyn: ‘sloping down streets’, ‘bright yellow sky’, ‘a lovely memory’. Ar y cyd, gosododd aelodau’r grŵp eu gwaith ar liain cefndirol i greu clytwaith.

Drwy rannu straeon, daeth y grŵp at ei gilydd a rhoddodd hynny gyd-destun gwahanol i waith John Piper. Wrth i’r lluniau ddatblygu, rhannwyd atgofion a darganfuwyd cysylltiadau. Roedd gan bawb stori unigol i’w hadrodd ac roedd un lle’n eu cysylltu … Abertawe, yn y gorffennol a’r presennol.   

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility