• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Search

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Search

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Home
  • What’s on
    • Exhibitions
    • Collections
    • Learning
    • Events
  • Exhibitions
    • Past
    • Current
    • Future
  • Collections
    • Conversations with the Collection
    • Richard Glynn Vivian
    • Conservation
    • Collection highlights
    • Photographic services
    • Ten Objects from the Collection
    • Swansea’s Three Night Blitz
  • Learning
    • Families
    • Schools + colleges
    • Young people
    • Adults
    • Community
  • Hire
  • Visit
    • Plan your visit
    • Take a virtual tour
    • Getting here
    • Café
    • Shop
    • Access
    • Visit Swansea Bay
  • About
    • History of the Gallery
    • Projects and Partnerships
    • Glynn Vivian News
    • Contact Us
    • Email sign-up
    • FAQs
  • Support us
    • Join the Friends of the Glynn Vivian
    • Ways to make a donation
    • Our supporters and networks
  • English
    • Cymraeg
  • Home
  • What’s on
    • Exhibitions
    • Collections
    • Learning
    • Events
  • Exhibitions
    • Past
    • Current
    • Future
  • Collections
    • Conversations with the Collection
    • Richard Glynn Vivian
    • Conservation
    • Collection highlights
    • Photographic services
    • Ten Objects from the Collection
    • Swansea’s Three Night Blitz
  • Learning
    • Families
    • Schools + colleges
    • Young people
    • Adults
    • Community
  • Hire
  • Visit
    • Plan your visit
    • Take a virtual tour
    • Getting here
    • Café
    • Shop
    • Access
    • Visit Swansea Bay
  • About
    • History of the Gallery
    • Projects and Partnerships
    • Glynn Vivian News
    • Contact Us
    • Email sign-up
    • FAQs
  • Support us
    • Join the Friends of the Glynn Vivian
    • Ways to make a donation
    • Our supporters and networks
  • English
    • Cymraeg

Artes Mundi 10, Cyd Gyflwynydd: Sefydliad Bagri – Taloi Havini yn ennill degfed ymgorfforiad Gwobr Artesd Mundi

Wednesday 31 January 2024 //  by laura.gill

Gyda’i gyd-gyflwynydd Sefydliad Bagri, mae Artes Mundi, prif arddangosfa a gwobr gelf gyfoes ryngwladol gwledydd Prydain a gynhelir bob dwy flynedd, wedi cyhoeddi mai Taloi Havini (a anwyd yn Bougainville, i lwyth Nakas/Hakö, ac sy’n byw ac yn gweithio yn Awstralia) yw enillydd gwobr Artes Mundi 10 (AM10), a’r swm o £40,000. Mae Havini yn un o saith artist gweledol cyfoes rhyngwladol y mae eu gwaith i’w weld ar hyn o bryd ar draws pum lleoliad yng Nghymru tan 25 Chwefror 2024 ar gyfer degfed ymgorfforiad Artes Mundi. Mae gwaith Havini i’w weld ym Mostyn yn Llandudno ac yn Chapter yng Nghaerdydd.

Artist amlddisgyblaethol yw Taloi Havini sy’n defnyddio ystod o gyfryngau gan gynnwys ffotograffiaeth, sain-fideo, cerflunwaith, gosodwaith trochol a phrint, i archwilio’r berthynas rhwng hanes, hunaniaeth, ac adeiladu cenedl o fewn strwythurau cymdeithasol mamlinachol ei mamwlad, Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville. Ym Mostyn, Llandudno, mae Havini yn cyflwyno gosodiad fideo amgylchynol mawr, Habitat. Parhad yw’r gwaith tair sianel yma o’i hymchwiliad parhaus i etifeddiaeth mwyngloddio am adnoddau a pherthynas boenus Awstralia yn y Môr Tawel. Yma, mae Havini yn cyflwyno gwaith newydd hefyd, sef Where the rivers flow, (Panguna, Jaba, Pangara, Konawiru), cyfres o 40 o brintiau a dynnwyd o archifau ffilm yr artist yn dilyn ei thaith trwy ganol ynys drofannol Bougainville. Yn Chapter, Caerdydd, cyflwyna Havini waith ffotograffig newydd arall, sef murlun a thri blwch golau, o’r enw Hyena (dydd a nos).

Ar gyfer degfed ymgorfforiad Artes Mundi (20 Hydref 2023 i 25 Chwefror 2024), mae Artes Mundi yn arddangos gwaith ar draws pum lleoliad yng Nghymru am y tro cyntaf. Dyma leoliadau arddangos yr artistiaid ar gyfer AM10: Mounira Al Solh, Rushdi Anwar ac Alia Farid yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd (un yn nheulu Amgueddfa Cymru – Museum Wales o amgueddfeydd); Nguyễn Trinh Thi yn
Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe a Chapter, Caerdydd; Taloi Havini ym Mostyn, Llandudno a Chapter, Caerdydd; Carolina Caycedo yn Oriel Davies, y Drenewydd a Chapter, Caerdydd; a Naomi Rincón Gallardo yn Chapter, Caerdydd.

Fel cyfrwng cyfnewid diwylliannol pwysig rhwng y DU a chymunedau rhyngwladol, mae Artes Mundi wedi ennill enw iddo’i hun am ddwyn ynghyd gelfyddyd gan rai o’r lleisiau artistig mwyaf perthnasol sy’n ymdrin â phynciau mawr ein hoes. Yn y gorffennol, mae Artes Mundi wedi gweithio gydag artistiaid yn ystod cyfnodau allweddol yn eu gyrfaoedd, a dyma’n aml y tro cyntaf iddynt gyflwyno’u gwaith i gynulleidfaoedd yn y DU, gyda llawer ohonynt bellach yn enwau cyfarwydd ar y llwyfan rhyngwladol, gan gynnwys Dineo Seshee Bopape, Prabhakar Pachpute, Ragnar Kjartansson, Theaster Gates, John Akomfrah, Teresa Margolles, Xu Bing, a Tania Bruguera.

Meddai Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi, “Mae Taloi Havini yn enillydd haeddiannol, a’i gwaith wedi’i wreiddio yn ei chymunedau ei hun ac eto’n siarad â’r byd gyda gofal, manylder a phwyll. Mae’r gweithiau sydd i’w gweld yn AM10 yn sefydlu cyfres o fannau cychwyn i alluogi ail-ddiffinio safbwyntaiu er mwyn symud ymlaen yn gadarnhaol a iacháu yn y dyfodol.”

Meddai Alka Bagri, un o Ymddiriedolwyr Sefydliad Bagri, “Fel Cyd Gyflwynydd, rydyn ni yn Sefydliad Bagri wrth ein bodd o weld cyhoeddi Gwobr Artes Mundi 10. Gydag arddangosfa mor gryf gan saith artist rhyngwladol pwysig, mae’r wobr yn adlewyrchu ein hymrwymiad i hyrwyddo rhagoriaeth gelfyddydol ar raddfa fydeang. Rydym yn falch o gefnogi artistiaid sy’n ymdrin â materion tyngedfennol ein
hoes ac yn croesawu dylanwadau trawsddiwylliannol o Asia a thu hwnt. Llongyfarchiadau i’r holl artistiaid ac i reithgor AM10!”

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd rheithgor Artes Mundi 10, “Fel rheithgor, cawsom ein plesio gan ddyfnder a soffistigedigrwydd pob un o’r saith artist hynod hyn. Bu raid trafod yn ofalus a dwys. Wrth ddewis Taloi Havini yn enillydd Gwobr AM10, cawsom ein taro gan onestrwydd ei gwaith sy’n eithriadol o ran ei ymchwil, ei ddefnydd o wybodaeth frodorol, ei foeseg gysylltiadol, a’i drylwyredd esthetig. Mae deunydd, stori a safle yn ffurfio’r tir lle mae’n creu gosodweithiau sy’n cyffroi rhywun ac yn weledol drawiadol. Yn artist i’n hoes ni, mae gwaith Havini yn trawsnewid ein dealltwriaeth o’r amgylchedd a dominyddiaeth i gynnig ffordd arall o fyw fel rhywbeth cymunedol, gan barchu ein perthnasau sydd ddim yn ddynol ac economi nad yw’n seiliedig ar fwyngloddio.”

Meddai Taloi Havini, enillydd Gwobr Artes Mundi 10, “Rwyf ar ben fy nigon ac eto rwy’n teimlo’n hynod o wylaidd o dderbyn y wobr bwysig hon. Roedd yn anrhydedd cael fy enwebu ochr yn ochr â’r cyd-artistiaid hyn. Rwy’n ddiolchgar i’r rheithgor ac i Artes Mundi am y cyfle hwn yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn heriol iawn yn fyd-eang. Mae’n golygu llawer i mi fod straeon cynhenid fy hynafiaid wedi cael presenoldeb yng Nghaerdydd a Llandudno. Fy ngobaith yw y gall cynulleidfaoedd yng Nghymru ac ymhellach ganfod rhywfaint o gysylltiad â’r hanesion am fwyngloddio a’r frwydr barhaus dros hunanbenderfyniad diwylliannol, amgylcheddol a gwleidyddol yr ydw i’n ymdrin â hi yn Bougainville.”

Category: Newyddion, Uncategorized

Previous Post: « Artes Mundi 10, Presenting Partner: Bagri Foundation – Taloi Havini wins tenth anniversary Artes Mundi Prize
Next Post: Gallery named in new national contemporary art gallery for Wales »

Footer

Glynn Vivian Art Gallery
Alexandra Road
Swansea, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Sign up to our email

Opening times

Tuesday – Sunday, 10.00am – 4.30pm
Last entry 4.00pm

Closed Mondays, except Bank Holidays

Free admission

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility