Unigedd
Mae Richard Wilson (1713/14 – 1782) wedi cael ei ddisgrifio fel ‘tad paentio tirluniau ym Mhrydain’.
Ganed Wilson ger Machynlleth, ac astudiodd gelf gyda Thomas Wright o Lundain (1729), gan dderbyn clod fel paentiwr portreadau. Fodd bynnag, pan aeth Wilson ar y Daith Fawr (1750), cafodd yr amser a dreuliodd yn Fenis a Rhufain effaith fawr arno a dyma fe’n cefnu ar bortreadau a dewis paentio tirluniau yn y ‘Dull Eidalaidd’. Ar ôl dychwelyd i Brydain (1757), cafodd Wilson hyd i noddwyr ymhlith y boneddigion, gyda’i waith yn ysgogi Ruskin i ddweud mai “gyda Wilson y dechreuodd hanes ‘gwir gelfyddyd dirlunio’.” Hefyd derbyniodd Thomas Jones o Bencerrig (1742 – 1803) yn ddisgybl am ddwy flynedd.
“Mae Unigedd (teitl Saesneg gwreiddiol: Landskip [sic] with Hermits) yn un o’i dirluniau pwysicaf. ‘Fe’i dyluniwyd i apelio at dirfeddianwyr cefnog…a oedd yn hoffi ystyried eu bod yn feudwyaid ym mhreifatrwydd eu hystadau.”
(Richard Wilson Themes & Variations, t.14)