• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Comisiwn mawr newydd Heather Phillipson yn agor yn Abertawe yn ystod Haf 2024

Dydd Mercher 12 Mehefin 2024 //  by laura.gill

Ym mis Gorffennaf 2024, bydd Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe yn agor arddangosfa newydd, Out of this World, gan yr artist Heather Phillipson, a enwebwyd am Wobr Turner 2022.

Yn Out of this World, arddangosfa unigol fawr gyntaf yr artist o waith newydd ers ei henwebu am Wobr Turner, mae Heather Phillipson yn cofnodi dilyniant o amgylchiadau sonig ac atmosfferig sy’n cyfleu awyrle, awyrofod a’r gofod. Gan ymateb i gyfathrebiadau annaearol radar, sonar a ffenomenau awyr anhysbys, mae Phillipson yn llenwi orielau Glynn Vivian â synau awtomataidd wedi’u tiwnio a delweddau wedi’u disylweddu sy’n arnofio ac yn pylsadu, gan greu’r hyn y mae hi’n ei alw’n ‘niwl gweledol ac acwstig’. Mae’r niwl hwn, fel rhai agweddau ar ryfela, yn rhithweledol – yn cynhyrchu drychiolaethau, rhagfynegiadau a ffantasmagoria. Trwy roi sylw i sain fel grym sy’n trawsgyweirio deinameg ffisegol ac affeithiol, mae Out of this World yn mapio maes dirgrynol sy’n gweithredu bron yn feteorolegol.

Heather Phillipson, Out of this World, 2024.
Collage gwaith yr artist, trwy garedigrwydd yr artist.

Mae Out of this World yn rhan o Gronfa Etifeddiaeth14-18 NOW yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM), rhaglen bartneriaeth genedlaethol sy’n cynnwys dros 20 o gomisiynau gan artistiaid a ysbrydolwyd gan dreftadaeth gwrthdaro. Dan arweiniad yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol, crëwyd Cronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM yn dilyn llwyddiant 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydau swyddogol y DU i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r rhaglen gomisiynu gwerth £2.5 miliwn yn bosibl diolch i lwyddiant ffilm glodwiw Peter Jackson, They Shall Not Grow Old, a gomisiynwyd ar y cyd gan IWM a 14-18 NOW.

Meddai Heather Phillipson, “Mewn ffordd, mae fy holl waith yn ymwneud â gwrthdaro, o’r mud, mewnol a microcosmig, i’r cynddeiriog, byd-eang a macrocosmig. Mae’n rhodd cael gwahoddiad i ystyried y syniadau hyn ar y cyd â’r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, yn enwedig yn ystod y cyfnod ingol hwn o wrthdaro, a chael gwneud hynny yng Nghymru, gwlad chwedloniaeth a dirgelwch.”

Dywedodd Rebecca Newell, Pennaeth Celf yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol: “Mae Out of this World yn tanio’r dychymyg trwy olygfeydd a synau annisgwyl, gan ymgysylltu’n haniaethol â phrofiadau gweledol o wrthdaro, a gobaith yn y pen draw. Trwy Gronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM, rhaglen gomisiynu celfyddydau genedlaethol yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol, rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno’r gwaith newydd toreithiog a llawn awyrgylch hwn gan Heather Philipson ar y cyd ag Oriel Glynn Vivian.”

Dywedodd Karen MacKinnon, Curadur Oriel Glynn Vivian: “Rydym wrth ein bodd yn cael cydweithio â Heather Phillipson. Mae ei gwaith yn aml yn wrthdaro rhwng deunyddiau gwahanol iawn a ffyrdd gwahanol iawn o weithio. Clystyrau swrealaidd, barddonol, yn ymwneud â syniadau taer a radical ein hoes. Bydd y prosiect hwn yn creu naratifau a sgyrsiau newydd mewn ffyrdd y gall neb ond artistiaid eu creu, a bydd yn rhoi cyfleoedd anhygoel i gynulleidfaoedd ymgysylltu a chyfranogi mewn gwaith celf unigryw y gellir ymgolli’n llwyr ynddo.

“Mae Cronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM yn llwyr gefnogi ac yn caniatáu i greadigrwydd ac uchelgais ffynnu, gan greu rhwydweithiau ac etifeddiaeth lleol a chenedlaethol hirhoedlog ac mae’n ein hatgoffa ni o bwysigrwydd a gwerth celf a diwylliant yn y cyfnod cythryblus hwn.”

Ochr yn ochr â’r comisiwn newydd hwn mae gweithiau celf yn cael eu harddangos, wedi’u dethol gan yr artist, o blith Casgliad yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM) ac Oriel ac Amgueddfa Castell Cyfarthfa, yn ogystal ag arddangosfa o gasgliad parhaol Oriel Glynn Vivian.

I gyd-fynd â rhaglen Heather Phillipson: Out of this World, ceir rhaglen gyhoeddus, dysgu ac ysgolion, gan gynnwys gweithdai cymunedol creadigol, llwybrau oriel, digwyddiadau gyda’r hwyr, a sgyrsiau gan artistiaid a’r diwydiant. I gael rhagor o wybodaeth, cofrestrwch i fod yn rhan o restr bostio Oriel Glynn Vivian.

Mae Heather Phillipson: Out of this World yn gomisiwn gan Gronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM trwy bartneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian.

Heather Phillipson: Out of this World, Dyddiadau’r Arddangosfa, 12 Gorffennaf 2024 – 26 Ionawr 2025

Oriel Glynn Vivian Gyda’r Hwyr, Dydd Iau 11 Gorffennaf, 5:30pm – 8:00pm

Categori: Newyddion, Uncategorized @cy

Previous Post: «Cinzia Mutigli_Sweet Wall installation 2022 Anthony Shapland, Detholiad Gwobr Wakelin 2021, Cinzia Mutigli
Next Post: Mae’r arddangosfa Come As You Really Are gan Hetain Patel a gyflwynir gan Artangel yn agor yn Croydon yr haf hwn Group of people around a rug tufted vehicle with textiles hanging in the background»

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility