Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn chwilio am Warchodwr Cyfryngau Seiliedig ar Amser i weithio ar brosiect mynediad penodedig i adolygu ein casgliad sgrîn.
Bydd y rôl yn gofyn am ddealltwriaeth o weithiau celf unigol, eu hanghenion ar gyfer caffael, technegau cynhyrchu, gofynion arddangos, a’r risgiau ar gyfer cadwraeth hirdymor.
Bydd cyfrifoldebau’n cynnwys gofalu am gasgliadau a gweithgarwch cadwraeth ataliol, cyfrannu at ddatblygu strategaethau, gweithdrefnau a llifoedd gwaith ar gyfer diogelu gweithiau celf a gweithio’n annibynnol ar archwilio, prosesu a thrin gweithiau celf y cyfryngau sy’n seiliedig ar amser.
- Dogfennu’r gweithiau celf ac offer cysylltiedig
- Cyfweld ag artistiaid i sicrhau cofnod cywir o’r paramedrau ar gyfer arddangos
- Darparu cyngor arbenigol i ystod o randdeiliaid
- Dangos sgiliau trefnu, rheoli amser a chynllunio effeithiol

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus naill ai cymhwyster cydnabyddedig ym maes cadwraeth neu brofiad perthnasol cyfatebol ar gyfer gweithio gyda gweithiau celf cyfryngau sy’n seiliedig ar amser. Mae dealltwriaeth o’r materion sy’n gysylltiedig â gweithiau celf ac offer cyfryngau seiliedig ar amser yn hanfodol, ac mae deall y themâu a’r heriau sy’n dod i’r amlwg o fewn disgyblaeth cadwraeth cyfryngau sy’n seiliedig ar amser yn ddymunol.
Cynigir y swydd hon ar gontract cyfnod penodol tan 30 Mawrth 2026. Mae Cyngor Abertawe’n gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob ymgeisydd.
Croesewir mynegiannau o ddiddordeb cyn y dyddiad cau, sef 7 Tachwedd, 2025, a disgwylir i’r gweithgarwch ddigwydd drwy gydol mis Rhagfyr 2025 i fis Mawrth 2026.
Y ffi yw £9,450 am uchafswm o 27 diwrnod llawn o waith (7.5 awr), i gynnwys adolygiad o’r casgliad, cyfweliadau ag artistiaid a dogfennaeth, fel a drefnir.
Er mwyn gwneud cais, anfonwch fynegiant o ddiddordeb i Katy.Freer@abertawe.gov.uk i drefnu cyfarfod anffurfiol i drafod y cyfle. Gall hyn ddigwydd ar-lein neu’n bersonol, fel sydd orau gennych.
Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned.

Perfformiad o flaen camera ar gyfer Penwythnos Perfformiadau Abertawe
