Gan y Grŵp Cymunedol Artbreak, Ysgol Gynradd Tregŵyr a Grŵp Croeso – Prosiect Mosaig Oriel Gelf Glynn Vivian
Darganfod artistiaid o Gasgliad Parhaol Glynn Vivian:
Cedric Morris, Ernest Neuschul, Valerie Ganz, Edward Duncan, Gerald Saunders, Josef Herman & George Chapman
Mae Artist Cyswllt Oriel Gelf Glynn Vivian, Tina Grant, wedi bod yn gweithio gyda chyfranogwyr o’i grwpiau allgymorth cymunedol, Artbreak Tregŵyr, y Cocyd a Waunarlwydd, i archwilio paentiadau gan artistiaid sy’n gweithio gyda thirwedd ddiwydiannol de Cymru.
Daw’r ysbrydoliaeth gychwynnol ar gyfer y prosiect hwn o baentiad yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, Llwchwr o Ben-clawdd, gan Cedric Morris. Mae’n dangos golygfa o Dregŵyr ar draws aber afon Llwchwr ac ymhellach ymlaen tuag at Lanelli.
Hoffem ddiolch i gyfranogwyr y prosiect am eu holl waith caled:
Grŵp Croeso: Gweithdy Mosaig Oriel Gelf Glynn Vivian
Ezra | Angela | Piera | Rob | Judith | Sian | Sian | Liz | Sandra | Dilshad
ArtBreak Tregŵyr
Linda D | Lynne | Sue J | Pam | Ros | Linda M | Joy | Sue | Cecillia | Ena | Sandra | Zarah | Rachel | Beth | Ken | Liz | Jan
ArtBreak Y Cocyd
Sian E | Stephen | Eifion | Peter | Julia | Julie | Sue | Sally | Andrea | Meg | Liz | Sian F
ArtBreak Waunarlwydd
Chris G | Anne | Bev | Jeff | Glenys | Monica | Cath | Marjorie | Kathie | Debbie | Rebecca | Angela | Gill | Chris
Disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 (2025) o Ysgol Gynradd Tregŵyr a’r Cynghorydd Susan Jones.
Ynghylch y prosiect

Edward Duncan: Casglu Cocos. Inc ar bapur.
Mae Artist Cyswllt Oriel Gelf Glynn Vivian, Tina Grant, wedi bod yn gweithio gyda chyfranogwyr o’i grwpiau allgymorth cymunedol, Artbreak, mewn prosiect a gefnogir gan CELF: Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru.
Daeth ysbrydoliaeth gychwynnol y grwpiau o weithiau Cedric Morris sydd yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, yn arbennig Llwchwr o Ben-clawdd (1936), ac aethant ati i greu eu fersiynau eu hunain o’r gwaith hwn mewn amrywiaeth o gyfryngau.
Defnyddiodd y grwpiau dechneg collage i ail-greu’r paentiad, gan roi cyfle i’r cyfranogwyr edrych yn fanwl ar y celfwaith. Nodwyd bod y paentiad yn darlunio diwydiant trwm ar ochr draw i’r aber, sydd bron wedi diflannu.
Ar ôl y sesiynau creadigol cychwynnol hyn, aeth un cyfranogwr i’r safle lle tybiwyd bod yr artist wedi eistedd a chwblhau ei waith. Tynnodd ffotograffau a mapiau a daeth â nhw gyda hi i’r grŵp. Roedd dod o hyd i’r ardal hon wedi tynnu sylw at y ‘drwydded artistig’ a ddefnyddiwyd gan Cedric Morris wrth gwblhau’r gwaith hwn. Cafwyd llawer o drafodaeth o fewn y grwpiau ynghylch pam ei fod o bosib wedi gwneud hyn. Yr hepgoriad mwyaf nodedig yn y paentiad oedd y traethellau lleidiog yn yr aber, a oedd yn enwog am eu gwelyau cocos.
Arweiniodd sgyrsiau at y ffaith bod casglu cocos, gwaith a wnaed yn hanesyddol gan y menywod yn y teulu, bellach yn ddiwydiant y mae dynion yn flaenllaw ynddo. Heddiw, mae’r dynion yn reidio cerbydau gyriant pedair olwyn a jet-sgis… sydd wedi cymryd lle’r asynnod hyfryd, ynghyd â’r plant llai, a arferai helpu#r merched i gario’r cocos adref. Parchwyd yr asynnod gan y teuluoedd. Roeddent yn helpu gyda’r gwaith, a hefyd yn rhybuddio’r casglwyr ynghylch y llanw.

Gerald Saunders: Casglwyr Cocos. Acrylig ar fwrdd.
These discussions led to the most enjoyable and entertaining art sessions – celebrating the donkey! The Arweiniodd y trafodaethau hyn at y sesiynau celf mwyaf pleserus a difyr – dathlu’r asyn! Arweiniodd y llysenw ‘Donks’ ar gyfer pobl o Ben-clawdd at drafodaeth am lysenwau lleol eraill a’u tarddiad:
- Adwaenid preswylwyr Pen-clawdd fel ‘Donks’ gan eu bod yn defnyddio asynnod.
- Adwaenid preswylwyr Trêgwyr fel ‘Starches’, llysenw a gyfeiriai at y gweithwyr rheoli coler gwyn a oedd yn byw yn yr ardal ac a wisgai goleri gwynion startsiog.
- Yn Waunarlwydd, ardal ffermio defaid yn draddodiadol, adwaenid y bobl fel y ‘Rams’, sy’n dal i fod yn enw ar gyfer eu tîm rygbi.
- Gelwir pobl Abertawe yn ‘Jacs’, ar ôl y dynion môr neu’r ‘Jack Tars’ ewnog a fyddai’n hwylio o amgylch y byd yn mewnforio copr o Chile a Chiwba.
Gan ddychwelyd at y paentiad, trafododd y grwpiau beth arall oedd wedi diflannu. Gan ddefnyddio ‘atgofion’ fel thema, aeth y cyfranogwyr ati i ail-greu’r pethau na fyddai eu hwyrion byth yn eu gweld ac sydd wedi’u colli mewn atgofion byw: blychau ffôn, llwyfannau caniau llaeth, cafnau a phympiau dŵr, siopau pob dydd, banciau a swyddfeydd post, dynion llaeth, dynion glo, pyllau glo, diwydiannau trwm yn yr ardal – mae rhai o’r pethau hyn wedi difetha cymunedau.
Tynnodd llawer ohonynt luniau o ddynion glo, pyllau glo a glowyr. Arweiniodd hyn at y drafodaeth am Drychineb Pwll Glo Elba ym 1905, a ddigwyddodd mewn pwll hanner ffordd rhwng Pen-clawdd a Thregŵyr. Lladdwyd 11 o ddynion yn y digwyddiad – yr oedd yr ieuengaf ohonynt yn grwt 14 oed. Mae perthynas i un o’r rheini a laddodd yn byw gerllaw ac mae’n rhan o’r grŵp.

Josef Herman: Dau löwr yn erbyn postyn lamp o1944-55. Olew ar gynfas.

Valerie Ganz: Codi Glo yn G8. 1986. Olew ar gynfas

Josef Herman: Pen Pwll, Tri Glowr 1945. Paentiad inc a dyfrlliw ar bapur.

Josef Herman: Yn y wythïen 1945. Paentiad inc a dyfrlliw ar bapur.

George Chapman: Glowyr yn Mynd Adref 1960au. Print, ysgythriad ar bapur.
Canfu’r grwpiau fod cofeb i’r trychineb hwn mewn cyflwr gwael iawn a sbardunodd awydd i roi un arall yn ei le.
Arweiniodd trafodaethau â thîm Oriel Gelf Glynn Vivian, Grŵp Croeso: ProsiectMosaig yr oriel ac Ysgol Gynradd Tregŵyr, at gynllun i greu plac coffa newydd i’w roi yn lle’r un presennol.
Gan weithio gyda’r ysgol, creodd gyfranogwyr o Artbreak a Grŵp Croeso: Gweithdy Mosaig Oriel Gelf Glynn Vivian ddyluniad ar gyfer mosaig.
Dyluniodd a chreodd plant ysgol Ysgol Gynradd Tregŵyr hanner uchaf y mosaig mewn lliw, i adlewyrchu’r ardal fel yr ydym yn ei gweld heddiw.
Creodd y grŵp Artbreak luniau golosg yn seiliedig ar eu hatgofion a’u paentiadau eu hunain o Gasgliad Parhaol Glynn Vivian, a ddefnyddiwyd wedyn i greu delwedd ar y cyd mewn du a gwyn, sy’n cynrychioli’r dreftadaeth lofaol sydd wedi’i chladdu o dan ein traed.
Yn olaf, gyda’r mosaig hanner gorffenedig wedi’i ddanfon i’r oriel, gweithiodd Grŵp Croeso’r Prosiect Mosaig bob dydd Gwener ar droi’r dyluniad du a gwyn yn fosaig wedi’i wireddu’n llawn, gan dorri pob darn ceramig â llaw a’i ludio i’r bwrdd pren haenog 8×4 dros gyfnod o 6 mis.
Dros sawl mis, mae’r tri grŵp wedi bod yn dysgu sgiliau newydd i greu eu dyluniad mewn celfwaith mosaig ar raddfa fawr, dan arweiniad tîm dysgu’r Oriel.


Manylion y mosaig
Caiff y mosaig terfynol ei ddadorchuddio yn Eglwys Sant Ioan, Tregŵyr, gan Arglwydd Faer Abertawe ar 10 Mawrth 2026. Mae’r safle wedi cael bywyd newydd, a’r gobaith yw y bydd cenedlaethau lawer yn ei fwynhau yn y blynyddoedd i ddod.
Gosodwyd y celfwaith terfynol, sy’n cynnwys Tregŵyr heddiw a Thregŵyr ganrif yn ôl, ym mis Chwefror 2026 ac fe’i hagorwyd yn swyddogol i’r cyhoedd ym mis Mawrth.

Manylion o’r mosaig
Gwybodaeth am yr artist
Arlunydd, athro celf a garddwr brwd Prydeinig oedd Syr Cedric Lockwood Morris, 9fed Barwnig (11 Rhagfyr 1889 – 8 Chwefror 1982). Fe’i ganed yn Abertawe, ond bu’n gweithio’n bennaf yn East Anglia. Roedd Morris yn ddisgynnydd uniongyrchol i Robert Morris, y diwydiannwr o Abertawe a sefydlodd un o’r busnesau mwyndoddi copr mwyaf yng Nghwm Tawe yn y 18fed ganrif. Y diwydiant copr oedd yn bennaf gyfrifol am ddinistrio’r amgylchedd naturiol yng Nghwm Tawe. Roedd Cedric Morris yn ddadleuwr mawr dros natur a threuliodd lawer o’i fywyd yn cynhyrchu planhigion newydd ac mae yr un mor adnabyddus yn arddwriaethol ag y mae’n artistig. Byddai Morris yn aml yn mynd i baentio yn ei ardal enedigol yn ne Cymru, ac ym 1935 yn ystod adeg y Dirwasgiad cafodd trafferthion pobl cymoedd de Cymru gryn effaith arno. Mae’n fwyaf adnabyddus am ei gynrychiolaeth ôl-argraffiadol o flodau, bywyd llonydd, tirluniau a phortreadau mewn lliwiau dwys, cryf. Mae’r oriel yn berchen ar ddau o’i weithiau, Bryn Llandmadog a Potiau Margaret.
Mae Straeon Abertawe’n brosiect casgliad cymunedol a ariennir gan Esmée Fairbairn Foundation sy’n gwahodd lleisiau newydd i adrodd stori casgliad Oriel Gelf Glynn Vivan.
Cynhelir Cronfa Casgliadau Esmée Fairbairn gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd ac mae’n ariannu prosiectau sy’n datblygu casgliadau i gael effaith gymdeithasol.






