• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Hayward Gallery Touring yn cyhoeddi curadur a dinasoedd ar gyfer 10fed rhifyn nodedig y British Art Show 

Dydd Iau 7 Awst 2025 //  by laura.gill

Bydd British Art Show 10 yn agor yng Nghofentri ac yna’n teithio i Abertawe, Bryste, Sheffield a Newcastle Gateshead.  

Heddiw, mae Hayward Gallery Touring yn cyhoeddi Ekow Eshun fel curadur British Art Show 10. Bydd British Art Show 10, sy’n agor yng Nghofentri ym mis Medi 2026, yn teithio i Abertawe, Bryste, Sheffield a Newcastle Gateshead. Mae’r degfed rhifyn yn nodi’r tro cyntaf i’r arddangosfa deithio i bum dinas ledled y DU fel rhan o’i chyflwyniad mwyaf helaeth hyd yn hyn. 

British Art Show yw’r arddangosfa gelf gyfoes gylchol fwyaf a mwyaf arwyddocaol yn y DU. Mae’r arddangosfa wedi’i datblygu a’i chynhyrchu gan Hayward Gallery Touring, sefydliad celf gyfoes blaenllaw’r DU sy’n cynhyrchu arddangosfeydd teithiol, sy’n rhan o’r Southbank Centre.  

Mae British Art Show 10 yn rhan o ddathliadau’r Southbank Centre i nodi 75 mlynedd ers ei sefydlu, a fydd yn cael ei chynnal drwy gydol 2026 yn y Southbank Centre yn Llundain ac mewn orielau celf, neuaddau cyngerdd a chanolfannau celfyddydau mewn trefi a dinasoedd ym mhob un o’r pedair gwlad yn y DU.  

Lansiwyd y British Art Show ym 1979 ac mae’n cael ei chynnal bob pum mlynedd. Dros y pedwar degawd diwethaf, mae’r arddangosfa wedi cyrraedd dros 2.3 miliwn o bobl, wedi tynnu sylw at dueddiadau newydd mewn celf gyfoes ac wedi adlewyrchu Prydain sy’n newid. Mae’r themâu a archwiliwyd wedi amrywio o rai geowleidyddol i rai personol, natur newidiol hunaniaeth Brydeinig, diwylliant poblogaidd, effaith technoleg ar fodolaeth ddynol a mwy.  

Nid oes unrhyw sioe debyg ar lefel genedlaethol, ac mae wedi cyflwyno llawer o artistiaid mwyaf arwyddocaol y DU i filiynau o bobl ar draws y wlad, gan gynnwys David Hockney, Bridget Riley, Lucian Freud, Frank Bowling, Paula Rego, Mary Kelly, Frank Auerbach, Mona Hatoum, Cornelia Parker, Anish Kapoor, Rachel Whiteread, Sonia Boyce, Sarah Lucas, Jeremy Deller, Tracey Emin, Hew Locke, John Akomfrah a Michael Armitage.  

Dan weledigaeth Ekow Eshun, bydd y British Art Show 10 yn rhoi trosolwg hanfodol o’r gelf fwyaf cyffrous a gynhyrchwyd yn y DU yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae Eshun yn adnabyddus am ei guradu blaenllaw gyda phrosiectau clodwiw sy’n cynnwys: In the Black Fantastic (Oriel Hayward); The Time is Always Now: Artists Reframe the Black Figure (Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol) a We Are History (Somerset House). 

Bydd y British Art Show 10 yn teithio i sawl safle ym mhob un o’r pum dinas ganlynol: 

  • Cofentri: Oriel Gelf ac Amgueddfa Herbert, Mead Gallery, Prifysgol Cofentri.  
  • Abertawe: Oriel Gelf Glynn Vivian, Oriel Elysium, GS Artists, Oriel Mission, Theatr Volcano. 
  • Bryste: Arnolfini, Spike Island, Amgueddfa Bryste, Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr (RWA) Bryste. 
  • Sheffield: Millenium Gallery, Graves Gallery, Site Gallery, Yorkshire Artspace ac Arts Catalyst. 
  • Newcastle Gateshead: Canolfan Celf Gyfoes Baltic, Celf Gyfoes Newcastle, Laing Art Gallery ac Oriel Gelf Shipley. 

Fel rhan bwysig o raglen Hayward Gallery Touring, mae’r British Art Show yn parhau â’i gwaith o bartneru ag ystod o leoliadau rhanbarthol i ehangu mynediad diwylliannol, ac mae’r rhifyn diweddaraf wedi denu tua 40% o ymwelwyr am y tro cyntaf i fannau celf lleol.  

Meddai Ekow Eshun, Curadur British Art Show 10, “Mae’n anrhydedd fawr cael fy mhenodi’n guradur ar gyfer y British Art Show, arddangosfa sydd wedi chwarae rhan bwysig wrth lunio ac adlewyrchu trafodaethau am gelf gyfoes yn y DU. Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i ymgysylltu ag artistiaid y mae eu harferion yn cyfleu ein hoes yn bwerus, ac i greu sioe sy’n gwahodd pobl i fyfyrio, sy’n ysgogi deialog ac sy’n ehangu ar y ffyrdd rydyn ni’n ymgysylltu â chelf ym Mhrydain heddiw.” 

Meddai Brian Cass, Pennaeth Hayward Gallery Touring, “Dros ei hanes sy’n dyddio’n ôl bron 50 mlynedd, mae’r British Art Show wedi bod heb ei hail o ran ei huchelgeisiau artistig a’i chyrhaeddiad cenedlaethol, gyda phob rhifyn yn ymwneud â chelf fwyaf arwyddocaol ei chyfnod. Mae gan Ekow Eshun hanes rhagorol o greu arddangosfeydd sy’n arwain y drafodaeth o ran y celfyddydau a diwylliant, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y safbwyntiau newydd y bydd yn eu cyflwyno i British Art Show 10, gan weithio gyda’n partneriaid i ehangu cyrhaeddiad a pherthnasedd yr arddangosfeydd i gynulleidfaoedd yng Nghofentri, Abertawe, Bryste, Sheffield a Newcastle Gateshead.” 

Meddai Mark Ball, Cyfarwyddwr Artistig Southbank Centre, “Sefydlwyd Southbank Centre fel rhan o Ŵyl Prydain ym 1951, sef dathliad cenedlaethol ac enghraifft o newid sy’n arddangos y gorau ym myd y celfyddydau, technoleg a gwyddoniaeth; gan edrych tua’r dyfodol gyda gobaith ac optimistiaeth. Wrth i ni agosáu at ben-blwydd y Southbank Centre yn 75 oed, rydym wedi ceisio ysbrydoliaeth go iawn o ysbryd Gŵyl Prydain ac mae’r British Art Show yn enghraifft berffaith o hyn, gan gyflwyno artistiaid cyffrous ac arloesol sy’n cyfleu arferion ein hoes i gynulleidfaoedd ledled y wlad. Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r British Art Show i fwy o bobl a dinasoedd nag erioed o’r blaen, gan gefnogi a chydweithio â mannau creadigol ledled y DU a chyflwyno celf gyfoes i gynifer o bobl â phosib.” 

Bydd rhagor o wybodaeth am y rhaglen i ddathlu pen-blwydd Southbank Centre yn 75 oed yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi, ond bydd yn cynnwys rhaglen genedlaethol sy’n ymweld â phedair gwlad y DU, y mae’r British Art Show yn rhan ohoni.  

Categori: NewyddionTag: Abertawe, Glynn Vivian

Previous Post: « Artes Mundi 11, Partner Cyflwyno: Sefydliad Bagri – Arddangosffa eilflwydd rhif unarddeg

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility