• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Search

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Search

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Home
  • What’s on
    • Exhibitions
    • Collections
    • Learning
    • Events
  • Exhibitions
    • Past
    • Current
    • Future
  • Collections
    • Conversations with the Collection
    • Richard Glynn Vivian
    • Conservation
    • Collection highlights
    • Photographic services
    • Ten Objects from the Collection
    • Swansea’s Three Night Blitz
  • Learning
    • Families
    • Schools + colleges
    • Young people
    • Adults
    • Community
  • Hire
  • Visit
    • Plan your visit
    • Take a virtual tour
    • Getting here
    • Café
    • Shop
    • Access
    • Visit Swansea Bay
  • About
    • History of the Gallery
    • Projects and Partnerships
    • Glynn Vivian News
    • Contact Us
    • Email sign-up
    • FAQs
  • Support us
    • Join the Friends of the Glynn Vivian
    • Ways to make a donation
    • Our supporters and networks
  • English
    • Cymraeg
  • Home
  • What’s on
    • Exhibitions
    • Collections
    • Learning
    • Events
  • Exhibitions
    • Past
    • Current
    • Future
  • Collections
    • Conversations with the Collection
    • Richard Glynn Vivian
    • Conservation
    • Collection highlights
    • Photographic services
    • Ten Objects from the Collection
    • Swansea’s Three Night Blitz
  • Learning
    • Families
    • Schools + colleges
    • Young people
    • Adults
    • Community
  • Hire
  • Visit
    • Plan your visit
    • Take a virtual tour
    • Getting here
    • Café
    • Shop
    • Access
    • Visit Swansea Bay
  • About
    • History of the Gallery
    • Projects and Partnerships
    • Glynn Vivian News
    • Contact Us
    • Email sign-up
    • FAQs
  • Support us
    • Join the Friends of the Glynn Vivian
    • Ways to make a donation
    • Our supporters and networks
  • English
    • Cymraeg

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian ac Artangel yn gwahodd y cyhoedd i gymryd rhan yn yr arddangosfa fwyaf erioed o hobïau’r genedl.

Wednesday 31 January 2024 //  by laura.gill

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan yn ‘The Hobby Cave’, yr arddangosfa fwyaf erioed o hobïau’r DU. O wneuthurwyr ac addaswyr i grefftwyr a chasglwyr, mae Oriel Gelf Glynn Vivian ochr yn ochr â’r artist arobryn sy’n frwdfrydig dros Spider-Man, Hetain Patel ac Artangel, yn gwahodd cynulleidfaoedd i rannu manylion eu hobïau i lywio prosiect cenedlaethol a chaiff ei gynnal mewn 12 lleoliad ledled y DU o haf 2024, gan gynnwys yn Oriel Gelf Glynn Vivian.

Hetain Patel. Photo Sam Bush

Bydd miloedd o wrthrychau unigryw o waith llaw y’u rhoddwyd ar fenthyg gan gannoedd o bobl yn cael eu harddangos, gyda chyfraniadau’n cael eu gwahodd gan hobïwyr fel gwneuthurwyr gwisgoedd a gwisg-chwarae, croswyr a gwewyr, cerfwyr pren a gwneuthurwyr modelau, ceramegwyr, peirianwyr roboteg, arbenigwyr origami, selogion ceir estynedig a llawer mwy.

Bydd ‘The Hobby Cave’, sydd wedi’i gomisiynu gan Artangel, yn dathlu’r miliynau o bobl ledled y DU sy’n rhoi o’u hamser hamdden i weithgareddau y maent yn frwd iawn amdanynt. Bydd yn archwilio sut mae unigolion yn mynegi eu hunaniaeth, eu cymeriad a’u creadigrwydd trwy eu hoff ddifyrion. Bydd yr arddangosfa agoriadol yn agor yn Llundain ym mis Gorffennaf 2024, a dilynir hyn gan gyflwyniadau wedi’u curadu mewn lleoliadau partner ledled y DU drwy gydol 2025.

Wrth wraidd y prosiect mae ffilm newydd gan Patel, sy’n archwilio’r creadigrwydd a’r brwdfrydedd eithriadol y mae pobl yn eu rhoi i’w hobïau. Mae’r ffilm yn mabwysiadu arddull nodweddiadol yr artist o gyfuno cynhyrchiad sinematig o safon â golygfeydd o fywyd pob dydd i arddangos difyrion byrhoedlog a gwrthrychau o waith llaw mewn iaith weledol a gedwir fel arfer ar gyfer ffilmiau Hollywood a hysbysebu moethus.

Meddai Hetain Patel, “Mae pethau o waith llaw bob amser wedi bod yn obsesiwn gennyf. Wrth dyfu i fyny yn Bolton, mewn cartref dosbarth gweithiol a oedd yn ddiwylliannol Indiaidd, roeddem yn bwyta gyda’n dwylo, ac roedd llawer o fy mherthnasau’n gweithio fel rhan o’r gweithlu llafuriol mewn ffatrïoedd lleol. Y peth grymusol am hobïau yw dewis, a gwneud rhywbeth ar ein telerau ein hunain. Mae’r weithred greadigol yn wirioneddol obeithiol, a chanddo fanteision enfawr i ni yn unigol ac yn rhywbeth sy’n ein cysylltu ag eraill, waeth beth fo’n gwahaniaethau.” 

Meddai Mariam Zulfiqar, “Mae gwaith Hetain Patel bob amser wedi’n gwahodd i fyfyrio ar hunaniaeth fel rhywbeth amlddimensiynol a chymhleth. Ar gyfer ‘The Hobby Cave’ mae’n estyn gwahoddiad yn hael i bobl o gwmpas y wlad, gan ofyn iddynt rannu’r gwrthrychau, y gweithgareddau a’r difyrion sy’n ffurfio rhan o’u hunaniaeth. Mae’r cyflwyniad uchelgeisiol hwn lle’r arddangosir cannoedd o wrthrychau y’u rhoddwyd ar fenthyg gan yr un faint o hobïwyr yn creu math newydd o lun, lle gwelir pobl a’u hunaniaethau y tu hwnt i gategorïau cenedlaethol, hiliol, rhyweddol neu sy’n gysylltiedig ag oedran sy’n categoreiddio pwy yr ydym yn gonfensiynol.

“Mae Artangel yn gweithio gyda rhwydwaith o sefydliadau celfyddydol a diwylliannol blaenllaw i wireddu’r prosiect uchelgeisiol hwn ar draws y DU ac yn cefnogi un o’n hartistiaid mwyaf cyffrous sy’n gweithio heddiw i greu prosiect eithriadol o gofiadwy a chynhwysol.”

Mae Hetain Patel yn artist ac yn wneuthurwr ffilmiau arobryn Prydeinig-Gwjarataidd. Mae llawer o’i ymarfer yn deillio o hobïau a diddordebau ei blentyndod, gan gynnwys ei frwdfrydedd gydol oes am Spider-Man. Yn 2013, creodd yr artist ei gerflun cyntaf, Fiesta Transformer, pan drawsnewidiodd ei gar yn robot Trawsffurfio go iawn gyda chymorth ei dad. The Hobby Cave yw prosiect mwyaf uchelgeisiol a phellgyrhaeddol Patel hyd yn hyn.

Ychwanegodd Karen MacKinnon, Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian,

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect cenedlaethol hwn sy’n dathlu hobïau’r genedl ac i gael y cyfle i weithio gyda’r artist gwych Hetain Patel. Mae’n brosiect unigryw ac ysbrydoledig, sy’n dathlu’r pethau gwych y mae pobl yn eu creu! Rydym yn sicr y bydd pobl yn Abertawe a de Cymru’n dwlu ar y cyfle i rannu eu difyrion. Mae hefyd yn hyfryd gallu gweithio gyda sefydliad anhygoel fel Artangel unwaith eto.”

Mae partneriaid cenedlaethol yn cynnwys Factory International, Manceinion; Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; Oriel Gelf ‘The Grundy’, Blackpool; Museum of Making, Derby Museums Trust; National Festival of Making gydag Amgueddfa ag Oriel Gelf Blackburn; Oriel Gelf Wolverhampton, Barnsley Civic; Amgueddfa ac Oriel Gelf Inverness; Northern Gallery for Contemporary Art, Sunderland; CCA Derry~Londonderry; Hospitalfield, Arbroath a Tate St Ives.

Gall y cyhoedd gyflwyno manylion ynghylch eu hobïau drwy artangel.org.uk/mapping-our-hobbies

#TheHobbyCave #MapioEinHobïau  

Category: NewyddionTag: Abertawe, Artangel, Glynn Vivian, Hetain Patel, Mapping Our Hobbies, The Hobby Cave

Previous Post: « Glynn Vivian Art Gallery and Artangel invite public to take part in largest ever exhibition of the nation’s hobbies
Next Post: Artes Mundi 10, Presenting Partner: Bagri Foundation – Taloi Havini wins tenth anniversary Artes Mundi Prize »

Footer

Glynn Vivian Art Gallery
Alexandra Road
Swansea, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Sign up to our email

Opening times

Tuesday – Sunday, 10.00am – 4.30pm
Last entry 4.00pm

Closed Mondays, except Bank Holidays

Free admission

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility