• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain

Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2023 //  by laura.gill

Cyd-guradu gan Dr Zehra Jumabhoy

Agoread yr Arddangosfa, Dydd Gwener 23.05.25, 17:30 – 20:00

23.05.25 – 02.11.25

Os India oedd ‘yr em yn y goron ymerodrol’, a allem ddadlau mai Cymru oedd trefedigaeth gyntaf Lloegr? Sut y dylai Prydain ymdrin â’i gorffennol ymerodrol – yn fewnol ac yn allanol? Wrth i Gymru frwydro am ei hunaniaeth o fewn ‘Prydeindod’, sut y dylai gydnabod y ffordd y gwnaeth gyfrannu at, elwa o a hyd yn oed dioddef dros uchelgeisiau ymerodrol Prydain? A ellir gwneud cymariaethau ystyrlon â’r profiad Indiaidd? Beth sydd gan y Teigr Indiaidd a’r Ddraig Gymreig yn gyffredin â’i gilydd  o ran Llew Britannia?

Photograph of the Hussainabad Gate, Lucknow, from Richard Glynn Vivian’s Travel Album: India, 1871

Bu cysylltiad hir, nad oedd bob amser yn gynnes, rhwng De Asia a Chymru sy’n ymestyn yn ôl i flynyddoedd cynharaf treiddiad gwleidyddol cymdeithasol Prydain i’r isgyfandir. Fel yr eglura’r ddadl ddiweddar am Robert Clive (a adwaenwyd hefyd fel Clive o India) a’i gerflun efydd ysblennydd yn Whitehall Llundain, mae rhan Cymru yn yr ymerodraeth yn galw am archwiliad brys. Wedi’r cyfan, roedd y teulu Clive yn ganolog i ddechrau’r Ymerodraeth Brydeinig yn India, a chedwir y casgliad sylweddol o ysbail drefedigaethol a gronnwyd yn dilyn hynny – gan gynnwys trysorau chwedlonol Teigr Mysore sef Tipu Sultan – yng Nghastell Powis, ar ymyl ddwyreiniol Cymru.

Mae’r croniad o ‘gasgliadau’ yn ystod Oes yr Ymerodraeth yn edrych yn ddadleuol i lygaid cyfoes – ond nid yw pob un ohonynt yn debyg. Yn y 1870au, hwyliodd y diwydiannwr Richard Glynn Vivian – pedwerydd mab perchnogion y gwaith mwyndoddi copr mwyaf llwyddiannus yn y byd – o Abertawe i wledydd tramor, gyda llyfr braslunio a chamera, gan ymlwybro i Madras, Bombay a Sri Lanka.

I lawer o haneswyr a gwleidyddion cyfoes, mae brwydrau cenedlaethol India yn darparu ysbrydoliaeth ar gyfer cais Cymru am ryddid. Er nad yw’r arddangosfa hon yn cymryd ochr yn wleidyddol, mae’n ceisio deall y berthynas rhwng India a Chymru, i archwilio’r cysylltiadau ymerodrol yn ogystal â’r pethau cywerth cenedlaethol rhwng y Ddraig Gymreig a’r Teigr Indiaidd.

Mae elfen hanesyddol a chyfoes i’r arddangosfa Teigrod a Dreigiau – mae’n archwilio’r gorffennol, wrth greu dyfodol. Mae’n tynnu sylw at ymarferwyr sy’n gweithio yng Nghymru ochr yn ochr â chelf o Dde Asia a’r gwasgariad, bydd yn gwasanaethu fel llwyfan ar gyfer dadleuon am dreftadaeth ‘Brydeinig’, imperialaeth, dadwladychu – a chenedlaetholdebau cystadleuol. Bydd y sioe yn cyfosod traddodiadau celfyddyd gain hanesyddol De Asia (a gronnwyd o’r cyfarfyddiad ymerodrol) ochr yn ochr â chelf ac arteffactau o’r cyfnod trefedigol gyda phaentiadau cyfoes, gosodweithiau cerfluniol a chyfryngau newydd.


Ar hyn o bryd Dr Zehra Jumabhoy yw cymrawd ymchwil curadurol Oriel Gelf Glynn Vivian, swydd a ariennir gan Paul Mellon Centre for British Art, sy’n gweithio ar brosiect mawr Imperial Subjects (Post) Colonial Conversations rhwng Cymru a De Asia.

Mae hi’n Ddarlithydd Hanes Celf ym Mhrifysgol Bryste. Mae hi’n feirniad celf, yn guradur ac yn hanesydd celf yn y DU sy’n arbenigo mewn celfyddyd fodern a chyfoes, gyda ffocws ar ddadwladychu. Roedd hi’n ysgolhaig Steven ac Elena Heinz yn Sefydliad Celf Courtauld, Llundain, lle cwblhaodd ei doethuriaeth ar gelf gyfoes India, cenedlaetholdeb a theori ôl-drefedigaethol. Cyhoeddwyd ei llyfr, The Empire Strikes Back: Indian Art Today: gan Random House, Llundain, yn 2010.

Categori: NewyddionTag: Abertawe, Glynn Vivian

Previous Post: « Cyfle newydd – Artist Cyswllt y Glynn Vivian
Next Post: Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Abertawe Agored yn dychwelyd ym mis Chwefror 2024 »

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility