• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Abertawe Agored 2023

Dydd Sadwrn 28 Ionawr 2023 //  by laura.gill

Dydd Sadwrn 28 Ionawr 2023 - Dydd Sul 16 Ebrill 2023
10:00 am - 5:00 pm

Wide shot of the Atrium in teh Gallery, tkaen from the Mezzanine area. Swansea Open exhibition is on the walls of the Atrium and Mezzanine. Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Abertawe Agored yn dychwelyd ym mis Ionawr 2023. Cystadleuaeth gelf flynyddol yw Abertawe Agored sy’n agored i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn Ninas a Sir Abertawe (SA1-SA9), ac mae’n dathlu celf a chrefft gan artistiaid a gwneuthurwyr ledled y ddinas. Dangosir y gweithiau a ddewiswyd o’r rheini a gyflwynwyd yn ystafell 3 yr oriel.

Gwahoddir panel gwahanol i ddethol y darnau o waith bob blwyddyn ac mae hyn yn annog amrywiaeth o safbwyntiau yn flynyddol. Mae’r arddangosfa’n ceisio adlewyrchu ymwybyddiaeth feirniadol a diwylliannol gan gynnwys amrywiaeth eang o weithiau gan artistiaid proffesiynol ac amatur. Dewisir tri enillydd o’r ymgeiswyr a arddangosir bob blwyddyn, gyda gwobr gyntaf o £250, ail wobr o £150 a thrydedd wobr o £100. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar ddiwrnod agor y gystadleuaeth ddydd Sadwrn 28 Ionawr.

Hefyd, bydd Cyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian yn cyflwyno gwobr £200 am waith celf penodol.

Mae detholwyr gwadd eleni’n artistiaid gweledol o dras Indiaidd, Daniel Trivedy a astudiodd celfyddyd gain yng Ngholeg Celf Abertawe ac sy’n byw yn ne Cymru ar hyn o bryd, a’r curadur a’r academydd Gillian Fox, sy’n byw yn Llundain.

Meddai Karen MacKinnon, Curadur y Glynn Vivian, “Mae Abertawe Agored yn cynnig cyfle gwych i ddathlu’r cyfoeth o greadigrwydd sydd gan ein dinas i’w gynnig. Rydym yn annog ceisiadau gan artistiaid proffesiynol ac amatur, myfyrwyr celf a gwneuthurwyr o bob rhan o Abertawe. Os nad ydych yn cystadlu eleni hoffem estyn croeso cynnes i chi, eich ffrindiau a’ch teulu i ddod i ymweld â’r arddangosfa a dathlu diwylliant amrywiol a chyffrous ein dinas.”

Bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn yr oriel tan ddydd Sul 16 Ebrill 2023, gyda llawer o’r gwaith ar werth fel rhan o’r arddangosfa.


– Dyddiadau allweddol

• Ffurflen gofrestru ar-lein: Ar gael o 8 Ionawr 2023

• Cyflwyno’r gwaith: dydd Gwener 13, dydd Sadwrn 14 neu ddydd Sul 15 Ionawr 2023, 11:00 tan 16:00

• Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 16:00 ddydd Sul 15 Ionawr 2023

• Dyddiadau’r arddangosfa: 28.01.23 – 16.04.23

• Dychwelyd a chasglu’r gwaith a arddangoswyd: dydd Mawrth 18 neu ddydd Mercher 19 Ebrill 2023


Lawrlwythwch Ganllawiau Abertawe Agored 2023


Mae Gillian Fox (g. 1978) yn guradur ac yn academydd sy’n byw yn Llundain, DU.

Mae hi wedi bod yn Guradur Cynorthwyol yn Hayward Gallery Touring ers 2013, yn curadu ac yn trefnu eu rhaglen arddangosfeydd genedlaethol. Yn annibynnol, hi oedd cyd-guradur arddangosfa gyntaf yr artist Norwyaidd nodedig Vanessa Baird yn y DU, yn y Drawing Room, ac ar hyn o bryd mae’n curadu arddangosfa sydd ar ddod yn Llyfrgell Menywod Glasgow ym mis Tachwedd 2022. Yn hydref 2023, bydd yn curadu Stim Cinema, arddangosfa delweddau symudol newydd sy’n edrych ar niwroamrywiaeth yn y sinema, a fydd yn agor yn QUAD, Derby cyn mynd ar daith genedlaethol.


Mae Daniel Trivedy yn artist gweledol o darddiad Indiaidd. Astudiodd Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Abertawe ac mae’n parhau i weithio yn ne Cymru.

Mae ei waith amlddisgyblaethol yn crybwyll themâu hunaniaeth, perthyn a dinasyddiaeth. Yn ogystal â gweithio fel artist, mae’n darlithio yng Ngholeg Sir Gâr, Sir Gâr ac mae’n gweithio i’r tîm dysgu creadigol yng Nghyngor y Celfyddydau Cymru. Mae Daniel wedi arddangos fel unigolyn a hefyd fel rhan o sioeau grŵp yn y DU, Tsieina, Ffrainc a’r UD. Yn 2019, dyfarnwyd medal aur i Daniel ar gyfer Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst. Cedwir ei waith mewn casgliadau preifat a chan Amgueddfa Genedlaethol Cymru.



Categorïau

  • Cymuned
  • Presennol

Event Category: Cymuned, Presennol

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility