• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Ar Anifeiliaid: Detholiad o waith o gasgliad yr oriel

Dydd Sadwrn 27 Mai 2023 //  by laura.gill

Dydd Sadwrn 27 Mai 2023 - Dydd Sul 24 Medi 2023
10:00 am - 4:30 pm

‘Sheep dog‘ by Calvert Richard Jones, 1855. Swansea Council: Glynn Vivian Art Gallery Collection

Mae’n bleser gan Oriel Gelf Glynn Vivian gyflwyno’n harddangosfa ar gyfer yr haf, Ar Anifeiliaid: Detholiad o waith o gasgliad yr oriel. Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith gan dros ddeugain o artistiaid o gasgliad parhaol yr oriel sy’n archwilio’n perthynas unigryw ag anifeiliaid, gan gynnwys gwaith hanesyddol yn ogystal â gwaith gan artistiaid cyfoes. Mae Ar Anifeiliaid yn archwilio bywydau anifeiliaid a’r ffyrdd niferus rydym ni fel bodau dynol yn effeithio arnynt, a sut yr adlewyrchir y perthnasoedd cymhleth hyn mewn amrywiaeth o ffurfiau celf. Mae llawer o’r gweithiau yn yr arddangosfa’n rhai nas gwelwyd o’r blaen ac yn cynnwys paentiadau, darluniau, tecstilau a chrochenwaith.

Darlunnir anifeiliaid mewn celf mewn amrywiaeth o ffyrdd, o fywyd gwledig ac amgylcheddau domestig i fythau a chwedlau. Mae’r celfweithiau yn yr arddangosfa hon yn archwilio’n hagosatrwydd at anifeiliaid a’n pellter oddi wrthynt, o’n perthnasoedd â’n hanifeiliaid domestig i anifeiliaid yn y gwyllt. Rhennir yr arddangosfa’n adrannau sydd i ryw raddau wedi’u seilio ar themâu. Mae’r adran Llên Gwerin, Mythau a Chwedlau yn cynnwys detholiad o waith sy’n cynnwys printiau Japaneaidd gan Utagawa Kuniyoshi a phrintiau leino llawen William Brown o’r anifeiliaid o Ganada a Chymru.Mae’r adran Domestig yn archwilio anifeiliaid fel anifeiliaid anwes, ffrindiau ffyddlon, cymdeithion a phethau i chwarae â nhw. Mae’r adran hon yn cynnwys gwaith gan Evan Walters a thecstil yr artist o Gymru, Anya Paintsil o’i chwaer a’i hoff hwyaden anwes yn ‘Mair at Cylch Meithrin’.

Mae Caethiwed yn thema ganolog yn Mandrills‘ gan Richard Billingham o’r gyfres ffotograffiaeth a fideo gymhellol Zoo, sy’n cwestiynu’r perthnasoedd rhwng y gynulleidfa gyhoeddus ac anifeiliaid caeth, a pharadocs anifeiliaid sy’n cael eu symud o’u hamgylchedd naturiol yn cael eu cadw’n annaturiol. Mae Gwyllt yn arddangos paentiadau a darluniau o adar ac anifeiliaid yn y gwyllt, gan gynnwys gwaith gan Elizabeth Frink, Ray Howard-Jones a Graham Sutherland.

Mae’r gwaith yn yr arddangosfa hon yn rhychwantu sawl canrif ac yn dangos ein hagwedd newidiol at yr anifeiliaid rydym yn rhannu’r blaned â nhw, a’r ffordd rydym yn eu cynrychioli. Er nad ydyw efallai’n amlwg, mae’r gweithiau hyn yn ymdrin â llawer o bryderon sydd gennym am ofalu am ein planed a datblygu ffyrdd newydd o fyw arni.


Bydd rhaglen lawn o weithgareddau dysgu’n cyd-fynd â’r arddangosfa hon drwy gydol yr haf, gan gynnwys gweithdai, llwybrau am ddim i’r teulu a digwyddiadau.



Categorïau

  • Arddangosfa’r Casgliad
  • Casgliadau
  • Dyfodol
  • Presennol

Event Category: Arddangosfa’r Casgliad, Casgliadau, Dyfodol, Presennol

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility