• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Celf yn y Nen: Arddangosfa Barcutiaid Celf Rhyngwladol Cyfoes

Dydd Gwener 19 Mehefin 2026 //  by laura.gill

Dydd Gwener 19 Mehefin 2026 - Dydd Sul 27 Medi 2026
10:00 am - 4:30 pm

Ann Rubin, The Wish, 2020, Ffoto / Photo Anna Baumgartner

Agoriad Arddangosfa: Glynn Vivian gyda’r Hwyr, nos Iau 18 Mehefin, 5:30pm –8:00pm

Yn ystod yr haf, bydd Oriel Gelf Glynn Vivian yn gwahodd ymwelwyr i edrych i fyny wrth i’r arddangosfa fawr gyntaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar farcutiaid celf cyfoes, Celf yn y Nen, gael ei chyflwyno yn Abertawe. Wedi’i churadu gan Isabel Griffin, mae’r arddangosfa’n dwyn ynghyd artistiaid rhyngwladol blaenllaw y mae eu gwaith yn trawsnewid y traddodiad hynafol o hedfan barcutiaid yn gelf feiddgar, arbrofol.

O ffurfiau cerfluniol enfawr ar grog yn Atriwm yr oriel i barcutiaid wedi’u saernïo’n gelfydd o bedwar ban byd, bydd Celf yn y Nen yn dathlu’r eiliad unigryw pan fydd celf yn gadael y ddaear ac yn cyrraedd yr awyr. Bydd gosodweithiau mawr, benthyciadau prin a gwaith o gasgliadau preifat ochr yn ochr â darnau o Amgueddfa Cymru, wedi’u cyflwyno fel rhan o’r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol (CELF).

Bydd gwneuthurwyr barcutiaid celf o fri rhyngwladol fel Kadek Armika (Bali), Yoh Yasuda (Japan), Anna Rubin (Awstria) a Frances Anderson (y DU) yn rhan o’r arddangosfa, sydd hefyd yn dod ag artistiaid cyfoes ynghyd sydd wedi archwilio ein perthynas â’r awyr, symud a byd natur. Mae’r rhain yn cynnwys Abby Poulson, Cy Kuckenbacker, Steve Brockett a Nida Sinnokrot, ynghyd â barcutiaid nas gwelwyd o’r blaen o gasgliadau preifat.

Ers mwy na 2,000 o flynyddoedd, mae barcutiaid wedi meddu ar arwyddocâd diwylliannol, ysbrydol ac ymarferol ar draws cyfandiroedd. Buont yn gyfryngau cyfathrebu, defodau, mesur a chwarae – gwrthrychau syml sy’n gallu creu eiliadau o ryfeddod. Bydd Celf yn y Nen yn archwilio sut mae artistiaid cyfoes yn adeiladu ar yr hanes cyffredin hwn, gan drawsnewid barcutiaid yn gerfluniau cinetig nad ydynt yn bodoli’n llawn nes i’r gwynt eu codi.

Wrth wraidd hedfan barcutiaid y mae eiliad sydyn o gydbwysedd – dal at y lein wrth ei rhyddhau. Mae gwneuthurwyr barcutiaid celf cyfoes yn croesawu’r cydweithrediad hwn â byd natur, gan gyfuno peirianneg, crefftwaith a dychymyg i greu celfweithiau sy’n symud, yn newid ac yn ymateb i’w hamgylchedd. Mae llawer o artistiaid yn gweithio gyda deunyddiau traddodiadol a chynaliadwy, gan ddefnyddio technegau sydd wedi ennill eu plwyf wrth estyn terfynau graddfa, ffurf a hedfan.

Yr ysbrydoliaeth ar gyfer yr arddangosfa yw Art Volant Manifesto, a ysgrifennwyd yn ystod symposiwm cyntaf Art Volant (Celf Hedegog) a drefnwyd gan Sefydliad Miró yn Mallorca ym 1995. Disgrifiodd y maniffesto farcutiaid fel man cyfarfod barddonol rhwng y corfforol a’r ysbrydol, gan gynnig cyfle digyffelyb i chwarae, archwilio, arbrofi, llywio graddfa a phellter, gwneud gofod anferth yn weladwy a rhyddhau’r dychymyg.

Bydd Celf yn y Nen yn dod â’r weledigaeth honno i’r presennol, gan arddangos cenhedlaeth newydd o artistiaid sy’n ailddychmygu posibiliadau barcutiaid – a chelf.

Ochr yn ochr â’r arddangosfa, bydd Oriel Gelf Glynn Vivian yn cyflwyno rhaglen llawn sgyrsiau, digwyddiadau a gweithdai, gan gynnig cyfleoedd i ennyn brwdfrydedd cynulleidfaoedd o bob oed dros gelfyddyd gwneud barcutiaid a’u hedfan, gan gynnwys trafodaeth gan banel a fydd yn cynnwys y curadur, Isabel Griffin, a’r artistiaid Kadek Arnika, Anna Rubin, Yoh Yasuda a Frances Anderson ddydd Gwener 19 Mehefin am 2pm.

Cefnogir Celf yn y Nen gan Gyngor Celfyddydau Cymru, The Henry Moore Foundation a’r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol (CELF).


Digwyddiadau

  • Dydd Gwener 19 Mehefin, 2yp – 3yp. Sgwrs gan artist wedi’i gyflwyno gan Gyfeillion y Glynn Vivian. Ymunwch ag artistiaid Celf yn y Nen, sef Frances Anderson, Kadek Armika, Anna Rubin a Yoh Yasuda, wrth iddynt sgwrsio â’r curadur, Isabel Griffin, am wneud a hedfan barcutiaid fel darnau cerfluniol. Am ddim, croeso i bawb. Mae’n rhaid cadw lle.
  • Dydd Sadwrn 20 Mehefin, 11yb – 3yp. Dewch i gwrdd ag artistiaid Celf yn y Nen – Anna Rubin, Kadek Armika, Yoh Yasuda a Frances Anderson – a chymryd rhan mewn gweithgaredd gwneud barcutiaid ymarferol. Am ddim, does dim angen cadw lle – mae croeso i chi alw heibio ac ymuno â ni unrhyw bryd. Yn addas i bob oedran.

Isabel Griffin  yn gynhyrchydd creadigol annibynnol y mae ei harfer eang yn cynnwys gweithiau celf hyperleol a chymdeithasol, a digwyddiadau diwylliannol ar raddfa fawr. Mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad o weithio ar draws y sectorau gwirfoddol a statudol mewn rolau sy’n ymwneud â: chynhwysiant creadigol a diwylliannol, cyfiawnder cymdeithasol, diwylliannol a throseddol, ymchwil a gwerthuso. Mae Celf yn y Nen yn ddilyniant o brosiect gwneud barcutiaid cymunedol llwyddiannus a deinamig a gychwynnwyd gan Griffin yn 2015 gan weithio gyda chymunedau yn Abertawe. Mae ymchwil ddilynol wedi arwain at ei hangerdd am Farcutiaid Celf ac awydd i gyflwyno’r ffurfiannau cerfluniol unigryw hyn i gynulleidfa ehangach



Categorïau

  • Glynn Vivian gyda’r Hwyr
  • Presennol

Event Category: Glynn Vivian gyda’r Hwyr, Presennol

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility