• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Clogwyni, cildraethau a chocos: darlunio penrhyn Gŵyr

Dydd Sadwrn 18 Mai 2024 //  by laura.gill

Dydd Sadwrn 18 Mai 2024 - Dydd Sadwrn 30 Awst 2025
10:00 am - 4:30 pm

Lucien Pissarro, Cefn Bryn, Gower, 1933
Lucien Pissarro, Cefn Bryn, Gower, 1933

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe yn cyflwyno Clogwyni, cildraethau a chocos: darlunio penrhyn Gŵyr, sy’n cael ei harddangos rhwng 18 Mai 2024 a 30 Awst 2025.

Mae’r arddangosfa wedi’i rhaglennu i gyd-fynd â Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Gŵyr 2024, a gynhelir ym mis Gorffennaf. Mae dathlu Gŵyr fel ysbrydoliaeth i artistiaid yn ychwanegu diddordeb lleol arbennig at ŵyl eleni.

Penrhyn Gŵyr oedd y lle cyntaf ym Mhrydain i gael ei ddynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae ei arfordir creigiog dramatig, ei draethau, ei fryniau a’i ddyffrynnoedd yn darparu cyfleoedd hamdden awyr agored a mwynhad i breswylwyr Abertawe ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Mae twristiaid wedi rhoi llawer o gyhoeddusrwydd i’w brif atyniadau, yn enwedig Bae y Tri Chlogwyn a Rhosili. Fodd bynnag, mae artistiaid lleol ac artistiaid gwadd wedi ymateb i benrhyn Gŵyr a’i olygfeydd gan ddefnyddio dulliau mwy personol. Mae’r rhain yn amrywio o themâu diwydiannol yng ngogledd-ddwyrain Gŵyr gan Ceri Richards ac Archie Rhys Griffiths, i olygfeydd o draethau yn yr haf a brasluniau dyfrlliw o dirluniau gan Will Evans a gweledigaethau lliwgar a llawn mynegiant Glenys Cour.

O Cedric Morris, a fu’n ymweld â Gogledd Gŵyr yn y 1930au, gan baentio ei fryniau a’i ffermydd gan edrych ar draws y dŵr ar simneiau diwydiannol Llwchwr, i’r arlunydd alltud o’r Weriniaeth Tsiec, Ernest Neuschul, a oedd yn cael ei syfrdanu gan waith ymdrechgar casglwyr cocos Pen-clawdd, bydd yr arddangosfa’n archwilio tir amaeth, rhosydd a thiroedd comin y penrhyn, gorsydd hardd Moryd Llwchwr, a’r clogwyni a’r cildraethau ysblennydd sy’n edrych dros Fôr Hafren.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith o gasgliad parhaol y Glynn Vivian ac mae celfweithiau dethol yn yr arddangosfa hon ar fenthyg gan Amgueddfa Cymru – Amgueddfa Genedlaethol Cymru fel rhan o’r fenter Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, Celf ar y Cyd.

Meddai Kristine Brander Dunthorne, curadur yr arddangosfa, “Mae Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Gŵyr yn cael ei chynnal bob blwyddyn ym mis Gorffennaf, gan ddod â ‘cherddorion o fri rhyngwladol i chwarae yn awyrgylch ac acwsteg fendigedig eglwysi hynafol Gŵyr’. Mae mathau eraill o berfformiadau, sgyrsiau a darlleniadau barddoniaeth hefyd yn rhan o’r rhaglen ac yn 2024 tro’r celfyddydau gweledol yw hi. Rwy’n falch iawn bod Oriel Gelf Glynn Vivian wedi rhoi’r cyfle i mi guradu Clogwyni, cildraethau a chocos: darlunio penrhyn Gŵyr, detholiad o waith o’r casgliad parhaol sy’n dathlu Gŵyr fel rhywle sy’n ysbrydoli artistiaid. Mae’r arddangosfa’n amrywio o ddarlun bychan o Gastell Ystumllwynarth gan Thomas Rowlandson i olygfeydd o benrhyn Gŵyr gan Lucien Pissarro, Cedric Morris a Kyffin Williams, ac mae’n cynnwys tirweddau lliwgar, haniaethol Glenys Cour, yr artist o’r Mwmbwls ac un o gefnogwyr hirsefydlog Gŵyl Gŵyr, yr ydym yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed eleni. Yn ystod yr ŵyl ym mis Gorffennaf, bydd ymwelwyr hefyd yn gallu mynd ar daith o amgylch Stiwdios Agored Gŵyr, a gweld gwaith ugain o artistiaid cyfoes sy’n gweithio ym mhenrhyn Gŵyr. Bydd taflen sy’n cynnwys yr oriau agor a chyfeiriadau ar gael o’r Oriel.”



Categorïau

  • Arddangosfa’r Casgliad
  • Casgliadau
  • Presennol

Event Category: Arddangosfa’r Casgliad, Casgliadau, Presennol

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility