Dydd Sadwrn 11 Mai 2024
10:30 am - 12:30 pm
Ymunwch â thîm dysgu’r oriel am sesiwn ddifyr sy’n llawn celf a chrefft.
Gweithdy misol ar fore Sadwrn yw hwn, lle gall teuluoedd arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau a thechnegau.
Gweithdy Paentio Hud Marmori
Dewch i groesawu’r anrhagweladwy yn y gweithdy paentio ffantasi hwn, gan ddefnyddio marmori i greu paentiadau hardd o fydoedd bach. Mae’r gweithdy hwn wedi’i ysbrydoli gan baentiadau hardd yr artist Clare Woods, sy’n cael eu harddangos ar hyn o bryd fel rhan o Dathlu 25 Mlynedd o Wobr Wakelin.
Yn addas i blant 3+ oed Darperir yr holl ddeunyddiau.
Mae’n rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
£3 y plentyn
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
Book now – Saturday Family Art Club, The Magic of Marbling Painting Workshop
Categorïau