Dydd Sadwrn 13 Awst 2022
2:00 pm - 4:00 pm
Gyda Morgan Dowdall a Marek Liska, artistiaid yr ‘On Your Face Collective‘
16+ oed
Ymunwch â’r artistiaid Morgan Dowdall a Marek Liska o’r ‘On Your Face Collective’ ar gyfer gweithdy clai cynhwysol LHDTC+.
Bydd y sesiwn hon yn cynnwys arddangosiad byw a sesiwn gyflwyno dan arweiniad ynghylch sut i greu gwaith collage gyda chlai gwlyb lliwgar y gallwch fynd ag e’ adref gyda chi.
Mae’r artist Morgan Dowdall yn arbenigo mewn portreadu bodau dynol ac mae’n eich annog chi i baentio, tynnu llun a dathlu’r amrywiaeth eang o gyrff sy’n rhan o’n cymdeithas ac sy’n cael eu tangynrychioli gan gymdeithas. Dewch â syniadau, brasluniau neu feddwl agored! Ar agor i bobl o bob sgil. Gyda chymorth Marek Liska.
Am ddim, croesewir rhoddion o £3.
Lleoedd yn brin. Rhaid cadw lle. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
Categorïau