Dydd Iau 5 Chwefror 2026
10:00 am - 12:00 pm
Gweithdai creadigol i blant sy’n cael eu haddysgu gartref.
Dydd Iau, ddwywaith y mis, 10:00-12:00
08.01.26, 22.01.26, 05.02.26
Dosbarth celf agored sy’n archwilio arddangosfeydd a chasgliadau’r oriel ac yn ymateb iddynt.
Trwy ddefnyddio deunyddiau a thechnegau gwahanol, rydym yn cynnig cyfleoedd i gyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau a’u hyder, a chwrdd â phobl newydd.
Mae’r dosbarthiadau hyn yn ddelfrydol i unrhyw un nad yw mewn addysg brif ffrwd, plant sy’n derbyn addysg gartref a’r rheini sy’n chwilio am her newydd.
Darganfod – 6-9 oed
Gan ddwyn ysbrydoliaeth o gasgliad celf ac arddangosfeydd celf gyfoes yr oriel, bydd Darganfod yn eich cyflwyno i amrywiaeth o artistiaid, technegau celf a syniadau mewn amgylchedd hamddenol a chymdeithasol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ennill eich Gwobrau Darganfod ac Archwilio Arts Award.
£15.00 am bedwar gweithdy
Dyddiadau: 08.01.26, 22.01.26, 05.02.26
Mae’n rhaid cadw lle.
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau


