Dydd Sadwrn 30 Mai 2026
11:00 am - 12:00 pm

Dewch i fwynhau ffilmiau gan artistiaid yn rhad ac am ddim ar sgrîn fawr yr Oriel!
Mae A Day at the Hunt gan Ingrid Murphy, a wnaed yn 2016, yn ffiguryn Swydd Stafford ceramig gwyn ac aur sy’n cynnwys côd QR rhyngweithiol y gellir ei sganio er mwyn gwylio’r ffilm sy’n cyd-fynd ag ef.
Mae’r gwaith cerameg yn cael ei arddangos yn Atriwm yr Oriel ar hyn o bryd, a bydd y ffilm yn cael ei dangos ar y sgrîn fawr yn Ystafell 1 i’r chwith o’r Atriwm ar lawr 0.
Mae’r ffilm yn bum munud o hyd ac yn dangos Ingrid a’i thad Brendan yn ymweld â The Hunt Museum yn Iwerddon ym mis Mehefin 2016. Yn ystod y dangosiad awr o hyd hwn bydd y ffilm yn cael ei dangos yn barhaus fel y gall ymwelwyr alw heibio a gadael yn ôl yr angen.
Bydd addasiadau ychwanegol sy’n ystyriol o’r synhwyrau yn cynnwys:
- Goleuadau nenfwd wedi’u gosod i lefelau isel
- Troi’r sain i lawr
- Dim hysbysebion na rhagluniau
- Mae ardal ymlacio ar gael yn ein man llyfrgell oddi ar yr Atriwm.
- Dim trefniadau eistedd ffurfiol fel y gall ymwelwyr symud o gwmpas a gwneud sŵn yn ôl yr angen
- Mynediad i’r anabl – mae gan yr Oriel lwybrau clir 1.5 metr o led sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd.
Cliciwch yma i ddarllen datganiad mynediad yr Oriel.
Cysylltwch â’r Oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Mae’r dangosiad hwn yn bosib diolch i gefnogaeth gan gronfa BFI Screen Heritage, sy’n dyfarnu cyllid y Loteri Genedlaethol.
Mae gwybodaeth lawn am sut i ddod o hyd i’r Oriel ar gael yma.
Categorïau

