• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Digwyddiad Lansio Performance Art Land 2025

Dydd Iau 25 Medi 2025 //  by laura.gill

Dydd Iau 25 Medi 2025
11:00 am - 1:30 pm

Bydd Digwyddiad Lansio Performance Art Land 2025 yn cyflwyno cyfres o Sgyrsiau Artistiaid a thrafodaethau bwrdd crwn.

Bydd yn cyflwyno pedwar artist sy’n cymryd rhan yn ogystal ag ymarferwyr celf sy’n cydweithio â nhw, gan gynnwys Angela Davies, Tsubasa Kato, Li Binyuan, Anushiye Yarnell. Bydd tîm IVAE, partner prosiect Oriel Gelf Glynn Vivian, a’r partner rhyngwladol Yangnim Art Association yn ymuno â’r drafodaeth.

Mae’r digwyddiad, a gynhelir gan Oriel Gelf Glynn Vivian ar 25 Medi, yn bwriadu arddangos ymchwil yr artistiaid ar arferion perfformio sy’n benodol i’r safle yng Nghymru a darparu llwyfan ar gyfer rhannu eu canfyddiadau, eu methodolegau a’u myfyrdodau diweddaraf ar brosiectau sydd newydd eu datblygu. Anogir y bobl sy’n bresennol hefyd i gymryd rhan mewn trafodaethau ar dreftadaeth a diwylliant lleol Cymru, celf berfformio sy’n benodol i’r safle a themâu ehangach cysylltiedig.

Am ddim, croeso i bawb. Rhaid cadw lle. 

Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein

CADWCH LLE NAWR

 

https://www.glynnvivian.co.uk/cadwch-lle-nawr-performance-art-land-launch-event/


Os nad oes modd i chi ddod i’r safle, gallwch ymuno yn y cyfarfod drwy Zoom

https://us06web.zoom.us/j/86821998464?pwd=h8J8FlkOlu1JkbKRKm8bd5SwF6x677.1

Meeting ID: 868 2199 8464
Passcode: sXjA3e


Prosiect celf sy’n canolbwyntio ar arferion celf berfformio cyfoes a gynhelir gan IVAE (International Visual Arts Exchange) yw Performance Art Land (PAL).

Mae PAL 2025 wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer artistiaid, sefydliadau, treftadaeth, diwylliant a chymunedau a chynulleidfaoedd lleol yng Nghymru. Trwy’r prosiect celf arloesol hwn o’i fath ar draws y byd, rydym ym ymrwymedig i gefnogi cyfnewid rhwng diwylliannau neu gydweithio rhwng meddyliau a chyrff creadigol, i hyrwyddo penodoldeb safleoeddd a chynaliadwyedd safleoedd, a llwyfannu’r argyfwng hinsawdd byd-eang trwy arferion celf.

Mae PAL 2025 yn gwahodd dau artist o Ddwyrain Asia (Tsieina, Japan) a dau artist o Gymru i gynnal celfyddydau perfformio sy’n benodol i’r safle mewn safleoedd naturiol a threftadaeth yn yr awyr agored yng Nghymru. Mae’r safleoedd hyn, gan gynnwys gwarchodfeydd natur, atyniadau i dwristiaid a thirnodau diwylliannol, yn darparu lle ysbrydoledig ar gyfer hybu dealltwriaeth newydd trwy drafodaethau artistig a churadurol. Caiff y perfformiadau eu trosi’n ffilmiau a chânt eu harddangos yn sefydliadau partner PAL yng Nghymru – Canolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd ac Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, yn ogystal â sefydliadau partner yn Nwyrain Asia, gan gynnwys Fotografiska yn Shanghai, Amgueddfa Gelf Mori yn Tokyo ac Amgueddfa Gelf Busan yn Busan.

IVAE

Sefydliad celf nid er elw yn y DU yw IVAE (International Visual Arts Exchange). Mae’n gweithredu fel pont unigryw i gefnogi cyfnewid trawsddiwylliannol rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin yng nghyd-destun celf gyfoes. Mae’n labordy sy’n arloesi strategaethau curadurol a dulliau amrywiol ar gyfer arferion artistig trwy gydnabod gwahaniaethau diwylliannol, safbwyntiau o ran dealltwriaeth a dulliau trosi.


Angela Davies

Artist a aned yng Nghymru yw Angela Davies. Mae ei gwaith yn trafod systemau cymorth a’r rhwydweithiau bregus y maent yn eu cefnogi. Mae Davies yn aml yn teimlo atyniad at ddefnyddio deunyddiau organig i archwilio syniadau o drawsnewid ar raddfeydd gwahanol a thrwy ddefnyddio prosesau amrywiol. Mae’n gweithio gyda cherfluniau, gosodiadau, fideos a pherfformiadau.

Cwblhaodd Davies ei gradd Meistr yn Ysgol Gelf Manceinion yn 2013. Mae ganddi sioe unigol ym Mhlas Glyn y Weddw yng Nghymru ar hyn o bryd (2025). Arddangoswyd ei gwaith yn Currents, Sante Fe (2025), Fosun Foundation, Shanghai (2022), Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe (2024), IKT/Mostyn, Llandudno (2023), S21 Galleri Bergen, Norwy (2018) a V2 Lab for the Unsable Media, yr Iseldiroedd (2018).  Mae’r gwobrau y’i dewiswyd ar eu cyfer yn cynnwys Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru (2022), Dyfarniadau Cymru Greadigol (2019), Gwobr Cynyddu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor (2018), Innovate UK (2018), A-N (2020). Mae ei phreswyliadau dethol yn cynnwys Alps Art Academy (2018), National Theatre Wales (2018), HOME Manchester (2016), Pervasive Media Studio, Bryste (ers 2017) a Cadw (2015-2018)  www.angeladaviesartist.co.uk


Li Binyuan

Ganed Li Binyuan yn Yongzhou yn Nhalaith Hunan, Tsieina ym 1985 a graddiodd o Academi Ganolog y Celfyddydau Cain yn 2011. Mae bellach yn byw ac yn gweithio ym Merlin ac yn Yongzhou. Mae Li yn archwilio corfforoldeb, sylwedd, yr amgylchedd, gwybyddiaeth gysyniadol a gwerthoedd cymdeithasol trwy weithredoedd corfforol, gwaith fideo a pherfformiadau sy’n gweithredu fel porth i gyfansoddiad cymdeithasol cymdeithas.

 

Arddangoswyd celfweithiau Li ar draws yr Unol Daleithiau, Ewrop ac Asia, ac maent yng nghasgliadau parhaol yr Amgueddfa Celf Fodern, M+, a sefydliadau celf eraill. Mae ei harddangosfeydd unigol dethol yn cynnwys Becoming Li Binyuan, Amgueddfa Gelf Song, Beijing, Tsieina (2025), Flowing Fire, Oriel Gyfoes Kunming, Kunming, Tseina (2024), Cinema Paradiso, Amgueddfa Gelf Pingshan, Shenzen, Tsieina (2020), The Last Letter, Observation Society, Guangzhou, Tsieina, 2020).  Enillodd Li 17eg Wobr Fawr Sefydliad Celf Sovereign (2021), Gwobr Artist Ifanc Tsieina yn 14eg seremoni AAC Art (2020), enwebiad ar gyfer Gwobr Golden Key yn ystod 37ain Ŵyl Ffilmiau Dogfen Kassel (2020),a Gwobr Teilyngdod gan Inward Gazes: Documentaries of Chinese Performance Art (2015).  https://libinyuan.com


Tsubasa Kato

Artist cyfoes o Japan yw Tsubasa Kato, ac mae’n cynhyrchu gweithiau fideo, ffotograffig ac eraill, gan gynnwys perfformiadau lle anogir sawl cyfranogwr i gydweithredu. Fe’i canmolir yn fawr am yr astudiaethau a’r prosiectau niferus y mae wedi’u cynnal ar draws y byd. Mae ei brosiectau a’i osodiadau’n herio’r gwyliwr i ailystyried ei ymdeimlad o bellter, gwydnwch, cydbwysedd a chysylltiad rhwng unigolion.

Arddangoswyd gwaith Kato mewn sawl amgueddfa a sefydliad celf o fri ar draws y byd, ac mae rhai ohonynt yn rhan o gasgliadau parhaol Amgueddfa Gelf Mori, yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol a sefydliadau celf eraill. Mae ei sioeau unigol dethol yn cynnwys Crematorium, MUJIN-TO Production, Tokyo, Japan (2025) a Turf and Perimeter, Oriel Gelf Tokyo Opera City, Tokyo, Japan (2021). Mae ei sioeau grŵp yn cynnwys Casgliad MOMAT, Amgueddfa Genedlaethol Celf Fodern, Tokyo, Japan (2024), NTCAM On the Move: Interweaving Travelers, Amgueddfa Gelf Dinas Taipei Newydd, Taipei, Taiwan (2023), The Ulsan Art Museum Collection: Future Collection, Amgueddfa Ulsan, Ulsan, Korea (2023).  https://katoutsubasa.com


Anushiye Yarnell

Artist perfformio rhyngddisgyblaethol yw Anushiye Yarnell ac mae ei gwaith yn cynnwys symudiadau, sain, llais, testun, darlunio, cyfranogiad ac addysgeg amgen. Mae ei gwaith yn trafod ac yn dathlu ffyrdd symbiotig a di-arwahanol o fodoli, gan archwilio lle mae breuddwydion a ffantasi a bywyd cyffredin yn croestorri er mwyn dod o hyd i gysylltiadau rhwng profiadau pob dydd o’r byd a fframweithiau anthropolegol, athronyddol, barddonol ac artistig. Mae’n gweithio gyda phresenoldeb cyffyrddol, gan adfywio deallusrwydd cnawdol trwy gyrff, bywgraffiadau a mytholegau amserol a pharhaus, er gwaethaf holltau a rhwygiadau o ganlyniad i wareiddiad trefedigaethol.

Mae ei phrosiectau diweddar yn cynnwys ARRAY OF OPPOSITES, sef digwyddiad symudedd cyfranogol ymdrochol sy’n defnyddio ffynonellau embryolegol, esblygiadol ac alcemegol sanctaidd, a gomisiynwyd ar gyfer Experimentica 2024; Syllabus of Darkness, sef ysgol Sul seciwlar sy’n pontio cenedlaethau, gan archwilio tywyllwch fel pwnc, trosiad a phrofiad byw (National Theatre Wales 2021, Canolfan Celfyddydau Cymru 2022, Chapter 2023); a Marathon of Intimacies, sef cyfres o drawsnewidiadau dawns sy’n llywio trwy’r croestoriadau a’r cyfuniadau di-rif o “arwahanrwydd” a “dieithriad” sy’n bodoli mewn bywyd pob dydd (Gŵyl Rise Findhorn 2021, Bwrsariaeth MGCfutures 2022, Chapter 2022 a chyfnod preswyl yn Reciprocal Gestures 2023).  https://anushiyeyarnell.uk/



Categorïau

  • Cymuned
  • Oedolion
  • Sgyrsiau
  • Sgyrsiau Cyfoes

Event Category: Cymuned, Oedolion, Sgyrsiau, Sgyrsiau Cyfoes

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility