Dydd Mawrth 30 Mawrth 2021
10:30 am - 12:00 pm
Dydd Mawrth 30.03.21, 10.30am – 12.00pm
Gweithgaredd thema’r Pasg i blant 6-16 oed
Ymunwch â thîm dysgu’r Glynn Vivian ar gyfer yr ŵyl greadigol hon i deuluoedd a gynhelir ar-lein sy’n cynnwys gweithdai creu pypedau, cwisiau a gemau.
Cymerwch ran yn ein sioe bypedau ryngweithiol gyntaf ar Zoom!
Mae angen i gamerâu pawb fod ymlaen ar ddechrau’r sesiwn a chaiff pob sesiwn ei recordio at ddibenion diogelwch staff a chyfranogwyr.
Bydd angen y rhain arnoch chi:
- Hen hosan fawr
- Glud
- Darnau o ffabrig
- Paent
- Llygaid gwgli neu fotymau
- Nodwydd edau (mae angen goruchwyliaeth rhiant yma)
- Ffelt neu bapur sgrap
- Pensil
- Pin
- Papur A4
- Gwlân neu linyn
- Rwber
- Pren mesur
- Siswrn
- Lamp neu dortsh (dewisol)
Cynhelir y gweithdy hwn yn fyw ar Zoom.
Cofrestrwch yma: https://zoom.us/meeting/register/tJIrcOmurzIiE9Qjz3UnlnBKYxDDvwxpoCXO
Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau sy’n cynnwys gwybodaeth am sut i ymuno â’r gweithdy.
Rhaid cadw lle: Un tocyn fesul person/dyfais ddigidol
Am ddim i gymryd rhan ynddo ar-lein Does dim angen talu.
Categorïau