Dydd Mawrth 12 Mai 2020
2:00 pm - 4:30 pm
Cyfres Seminar Imperial Subjects: Seminar Un
Ar-lein ar Zoom
“The real voyage of discovery consists not in seeking new landscapes, but in having new eyes.” (Marcel Proust).
Rhan o gyfres o seminarau Imperial Subjects: (Post)colonial converstations between South Asia and Wales, a ariennir gan y sawl sydd wedi derbyn bwrsariaeth British Art Network, Oriel Gelf Glynn Vivian a hanesydd celf De Asia Dr Zehra Jumabhoy. Mae’r gyfres seminar yma wedi’i haddasu er mwyn ei throsglwyddo ar-lein.
Mae cysylltiad hir wedi bod rhwng De Asia a Chymru sy’n estyn yn ôl i flynyddoedd cynharaf treiddiad gwleidyddol cymdeithasol Prydain i’r is gyfandir. Ac o ystyried statws Cymru ei hun o fewn hanes ehangach Prydain, mae’r cyfarfodydd yn aml wedi bod yn fwy cydweithredol (ac mae’r ddau wedi rhannu mwy mewn cyffredin) nag y byddai hanes gwladychiaeth yn ei awgrymu. Mae’r gyfres o bedwar seminar paredig yn amlinellu rhai o’r rhyngweithiadau rhwng De Asia a Chymru, wrth hefyd ffugio rhai newydd.
Mae’r seminarau wedi’i pharu fel Wythnos Un a Dau ac yn cael ei throsglwyddo ar ddydd Mawrth a dydd Iau pob wythnos. Gall cynrychiolwyr cofrestru am un neu’r ddwy wythnos.
Seminar Un: Exploring Colonial Conversations
12 Mai 2020, 2 – 4.30pm
Bydd y seminar gyntaf yn dod ag artistiaid ag arferion creadigol gwahanol at ei gilydd i archwilio perthnasoedd, hunaniaethau, mudo, gwladychiaeth a phrosesau cydweithredol yn y celfyddydau gweledol trwy gynnal sgyrsiau artist a pherfformiadau, yn enwedig yn dilyn statws Abertawe fel yr ail Ddinas Noddfa. Bydd sgwrs panel yn dilyn y cyflwyniadau.
Sgwrs panel gyda’r trefnwr, Katy Freer a Zehra Jumabhoy
Mae lleoedd yn brin, felly rhaid cadw lle.
Cofrestrwch i fynychu’r ddau seminar ar Wythnos Un
Mae croeso i bawb, yn enwedig aelodau o grwpiau pynciau arbenigol British Art Network.
Ariennir y gyfres hon o seminarau gan British Art Network, ac mae’n ffurfio rhan o’i raglen. Fe’i harweinir ar y cyd gan Tate a’r Paul Mellon Centre for Studies in British Art, a hefyd fei’i ariennir gan gronfa gyhoeddus y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Lloegr.
Peter Finnemore, Looking For Signs, 2018. © Yr artist
Categorïau