• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Fern Thomas, Spirit Mirror

Dydd Sadwrn 8 Ionawr 2022 //  by laura.gill

Dydd Sadwrn 8 Ionawr 2022 - Dydd Sul 20 Mawrth 2022
10:30 am - 4:00 pm

Fern Thomas, My thoughts only half with the visible – the other half with the invisible, 2021

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi comisiwn newydd gan yr artist o Abertawe, Fern Thomas (g.1983, Castell-nedd), y mae ei gwaith yn archwilio creu chwedlau, straeon gwerin a thirweddau mewnol dychmygol.

Trefnwyd i’r gwaith hwn  gyd-fynd ag arddangosfa deithiol Hayward, Not Without My Ghosts – The Artist As Medium, sy’n cael ei harddangos ar hyn o bryd yn yr oriel ac sy’n archwilio’r newidiadau rhwng dylanwad y celfyddydau a chyfryngwyr.

Ar gyfer y gosodiad newydd hwn, mae Thomas yn creu cyfres o ymyriadau gan ddefnyddio testun, ffurfiau cerfluniol a wnaed o gŵyr gwenyn a gwrthrychau archifol a fydd yn cael eu gosod ochr yn ochr â gwaith a ddewiswyd gan yr artist o Gasgliad Parhaol yr Oriel.

Yn ganolog i’r arddangosfa hon mae diddordeb mawr Thomas yn yr etholfreintiwr, y gwleidyddwr, y dyngarwr a’r ysbrydegwr lleol, Winifred Coombe Tennant (1874 – 1956), yr oedd ei chartref yng Nghastell-nedd yn agos at y man lle cafodd yr artist ei magu.  Roedd Winifred Coombe Tennant yn noddwr y celfyddydau a oedd wedi cynghori’r Glynn Vivian ynghylch prynu sawl un o weithiau mwyaf adnabyddus yr Oriel, gan gynnwys paentiadau gan Gwen John, John Elwyn, Kyffin Williams ac Evan Walters. Yn ogystal â hyn, bu’r nodedig Coombe Tennant yn gweithio fel cyfryngwr ac ysbrydegydd dan yr enw, ‘Mrs Willett’. Roedd hi’n ymarfer ysgrifennu awtomatig, a chafodd y sgriptiau yr oedd hi’n eu derbyn gan ysbrydion arweiniol eu hanfon i’w dadansoddi gan aelodau blaenllaw o’r Gymdeithas dros Ymchwil Seicig, fel Syr Oliver Lodge a Gerald Balfour. Darganfu Coombe Tennant y maes hwn ar ôl i’w hunig ferch, Daphne, farw’n 17 mis oed – parhaodd Tennant i gyfathrebu â hi ar ôl iddi farw.

Mae’r arddangosfa’n ymateb i themâu fel bod yn fam, ysbrydegaeth a chysylltiad â bydoedd eraill, yn ogystal â chyd-destun cyfrinachol ehangach Not Without My Ghosts. Mae Thomas yn defnyddio’i phroses ymchwil-fel-celf i wau llawer o wrthrychau archifol ynghyd, fel samplau o wlân a oedd yn eiddo i Coombe Tennant, ac a ddefnyddiwyd ganddi ar gyfer ei gwisg Genedlaethol; ymchwil sy’n seiliedig ar leoedd a oedd yn gysylltiedig â bywyd Coombe Tennant; manylion adenydd angylion a ddarluniwyd o brintiau Blake; cysylltiadau’r sêr a chrwydradau mytholegol. Yn ogystal mae ysbrydion arweiniol sy’n debyg i anifeiliaid yn sefyll ar ben tyrrau uchel, a hefyd ‘drych ysbrydion’ a grëwyd o gŵyr gwenyn pur, deunydd arwyddocaol i Thomas gan y gellir ei drawsnewid drwy gynhesrwydd y corff. Mae cŵyr gwenyn hefyd yn symboleiddio’r gwenyn y gellir eu cysylltu â straeon gwerin fel negeseuwyr sy’n medru symud rhwng y bydoedd ysbrydol. Yn yr ystyr hwn, mae Thomas yn archwilio’r hyn y mae’n cyfeirio atynt fel ‘pwyntiau egni’ neu ddirgryniadau’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol;  trothwyau a chochlau sy’n gallu’n harwain i fydoedd gwahanol.

Mae gweithiau o Gasgliad y Glynn Vivian yn cynnwys portread o Winifred Coombe Tennant a’i meibion, Alexander a Henry, gan yr artist o Abertawe, Evan Walters (1892 – 1951), yn ogystal â gwaith nas gwelwyd o’r blaen gan  William Blake (1757-1827), yr oedd Coombe Tennant yn ei edmygu’n fawr. Hefyd arddangosir ysgythriadau o gestyll dirgel a thirweddau ysbrydol gan yr awdur enwog o Ffrainc,Victor Hugo (1802-1885). Prynwyd y gweithiau hyn gan sylfaenydd yr Oriel, Richard Glynn Vivian, ym 1885.

O’r holl wrthrychau hyn a’r gweithiau yn y Casgliad, mae Thomas yn creu set llwyfan neu set o offer sy’n barod i’w defnyddio gyda symudiad neu berfformiad. I gyd-fynd â’r arddangosfa hon, cynhelir cyfres o ymyriadau a pherfformiadau gan artistiaid. Rhagor o wybodaeth i ddilyn. Gallwch weld y rhaglen lawn ar ein gwefan.


Traethawd gan yr anthropolegwr a’r awdur llên gwerin, Amy Hale, mewn ymateb i arddangosfa Fern Thomas, Spirit Mirror.


Gwrandewch ar yr artist Joan Jones a’r cerddor Rhodri Jones wrth iddynt berfformio ymateb i arddangosfa Fern Thomas, Spirit Mirror.


Fern Thomas

Mae arfer Fern Thomas, a anwyd yn ne Cymru ym 1983, yn canolbwyntio ar brosesau ac egwyddorion Cerflunwaith Cymdeithasol. Yn ddiweddar mae Thomas wedi datblygu set ffuglennol o ynysoedd, Springtides Archipelago, sef man ymchwil poly-gronig lle gall fwynhau ei holl waith. Mae prosiectau a chomisiynau diweddar yn cynnwys The Hidden Noise: Tinnitus and Art yn oriel OVADA, Rhydychen, Cymrodoriaeth g39 gydag oriel g39, Caerdydd fel rhan o Raglen Celfyddydau Sylfaen Freemans, ac a fu’n rhan o CoDI, sef Rhaglen Sain Arbrofol Tŷ Cerdd yng Nghaerdydd . Ar hyn o bryd mae’n artist preswyl ar gyfer Cysylltiadau Hynafol, sef prosiect celfyddydau a threftadaeth a gynhelir yn Sir Benfro.



Categorïau

  • Presennol

Event Category: Presennol

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility