Dydd Sadwrn 1 Mawrth 2025
11:00 am - 2:00 pm
Ymunwch â ni ar gyfer dathliad o wneuthurwyr, addaswyr, crefftwyr, casglwyr ac artistiaid!
Gallwch greu, dysgu a darganfod amrywiaeth eang o hobïau, gyda stondinau sy’n cynrychioli amrywiaeth o glybiau, elusennau a grwpiau o bob rhan o’r ddinas, yn ogystal ag arddangosfeydd crefftau, gweithgareddau hunanarweiniedig a pherfformiad gan Rock Choir Abertawe.
Yn ogystal â’r digwyddiad, mae ein harddangosfa bresennol Come As You Really Are | Abertawe Agored 2025 yn arddangos amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, crefftau a hobïau gan gynnwys gwisg-chwarae, casglu, miniaturau, gwneud modelau a llawer mwy.
Mynediad am ddim, croeso i bawb
Categorïau