Dydd Iau 19 Mawrth 2026
5:30 pm - 8:00 pm
Profwch Oriel y ddinas ar ôl amser cau
Fe’ch gwahoddir yn gynnes i ddathlu agoriad,
Mae Lives in Motion: Straeon Mudo o’r 11eg Ganrif hyd Heddiw
Yn llawn straeon mudo o gasgliadau’r Oriel Bortreadau Genedlaethol ac Oriel Gelf Glynn Vivian, o’r 11fed ganrif hyd heddiw.
Mae Lives in Motion yn archwilio profiadau a chyfraniadau pobl sydd wedi symud i Brydain o bedwar ban byd i ymgartrefu dros dro neu’n barhaol yn y DU. Mae’r arddangosfa’n archwilio’r rhesymau amrywiol pam mae pobl yn symud a sut mae gadael cartref a dod o hyd i un newydd mewn lle gwahanol yn creu cyfleoedd a heriau weithiau sy’n effeithio ar ymdeimlad rhywun o hunaniaeth bersonol a pherthyn.
Mae’n arddangosfa fywiog o wrthrychau drwy gyfryngau amrywiol, gan gynnwys paentiadau, cerfluniau, ffotograffau, printiau a gwaith celf digidol. Bydd yr arddangosfa ar agor yn Oriel Gelf Glynn Vivian tan 28 Mehefin 2026 a bydd yn cynnwys llawer o gelfweithiau nas gwelwyd yng Nghymru o’r blaen.
Bar a chaffi ar agor
Mynediad am ddim, croeso i bawb
Does dim angen tocynnau, galwch heibio ac ymunwch â ni unrhyw bryd
Categorïau

