Dydd Sadwrn 25 Hydref 2025
10:30 am - 1:00 pm

Ar gyfer oedolion 16+ oed
Ymunwch â’n gweithdai celf hygyrch i oedolion ar ddydd Sadwrn olaf bob mis.
Cyflwynir technegau, syniadau a deunyddiau bob mis sy’n seiliedig ar ein rhaglen o arddangosfeydd.
Testun fel deunydd
Archwiliwch weithiau artist Artes Mundi 11, Kameelah Janan Rasheed, dysgwch am ddechreuadau ei phroses ac arbrofwch â strategaethau creadigol i greu celfweithiau sy’n seiliedig ar destun.
Gan ddefnyddio technegau atgynhyrchu a gwneud printiau i arbrofi a chwarae ag ystyr a dealltwriaeth, byddwch yn dysgu am yr artist ysbrydoledig hwn a sut mae ei gwaith yn cyfleu ei sefyllfa fel ‘Dysgwr’.
Tocynnau £5
Darperir yr holl ddeunydd. Rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
https://www.glynnvivian.co.uk/cadwch-lle-nawr-gweithdy-penwythnos-i-oedolion-testun-fel-deunydd/?lang=cy
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Categorïau

