Dydd Gwener 21 Tachwedd 2025 - Dydd Sul 12 Ebrill 2026
10:00 am - 4:30 pm
Prynwyd mewn partneriaeth â Chyfeillion y Glynn Vivian.
Glynn Vivian Gyda’r Hwyr, nos Iau 20 Tachwedd, 17:30 – 20:00.
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi enillydd Gwobr Wakelin ar gyfer 2025. Rhoddir y wobr flynyddol i artist sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, y prynir ei waith ar gyfer casgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.
Derbynnydd Gwobr Wakelin 2025 yw Lucia Jones. Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys Brendan Stuart Burns, Anthony Shapland, Catrin Webster, Jonathan Anderson, Meri Wells, David Cushway, Helen Sear, Clare Woods, Alexander Duncan, Philip Eglin, Richard Billingham, Cinzia Mutigli, Anya Paintsil ac Ingrid Murphy.
Y detholwr eleni yw Jonathan Powell, artist a chyfarwyddwr Oriel Elysium, Abertawe. Meddai Jonathan, “Mae arfer Lucia Jones yn archwilio cof a hunanganfyddiad drwy baent a ffilm. Gan ganolbwyntio ar yr enaid benywaidd, daw ei hysbrydoliaeth o ffilmiau cyllideb isel ers y 1950au, hanes celf a’i ffotograffau ei hun, ac mae’n gosod menywod mewn cyd-destun gwahanol fel testunau dienw mewn amgylcheddau toredig a ffugiedig. Mae’r golygfeydd paentiedig hyn yn gweithredu fel seiffr ar gyfer profiad bywyd, pethau i gael cipolwg arnynt a’u harchwilio. Mae ei gwaith diweddar yn archwilio natur berfformiadol benyweidd-dra a geir o bryd i’w gilydd, gan ddarlunio ffigurau mewn gofodau sy’n pylu’r ffiniau rhwng yr hyn sy’n real a’r hyn a ddychmygir, yr hyn a ddatgelir ac a guddir. Maent yn archwilio’r tyndra rhwng cyfyngiadau cymdeithasol ac ymreolaeth bersonol.”
Meddai Lucia Jones, “Mae Gwobr Wakelin wedi rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i artistiaid o Gymru dros y chwarter canrif diwethaf, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am fod yn dderbynnydd. Mae ennill y wobr hon yn golygu llawer iawn i mi; mae cael gwobr brynu ar gyfer casgliad cyhoeddus yn garreg filltir bwysig yn fy ngyrfa. Mae cael eich cydnabod gan Oriel Gelf Glynn Vivian- sefydliad mor fawreddog sydd wedi bod yn gonglfaen tirwedd artistig Cymru ers dros 100 mlynedd – hefyd yn anrhydedd ryfeddol. Rwy’n falch o ymuno â’r gwaddol o artistiaid anhygoel yng Nghymru sydd wedi derbyn yr anrhydedd hon. Mae Gwobr Wakelin yn gymhelliant a bydd yn fy ngalluogi i barhau i greu a chyfrannu at y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt.”
Gweinyddir y wobr gan Gyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian ac fe’i cefnogir yn hael gan roddion ariannol er cof am Richard a Rosemary Wakelin, a’u mab Martin, yr oeddent hwythau hefyd yn artistiaid ac yn gefnogwyr brwd y celfyddydau yn Abertawe.
Meddai Dr Peter Wakelin, “Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn ased gwych i bobl Abertawe. Rydym wrth ein boddau bod Cyfeillion a staff yr oriel yn parhau i ddefnyddio’r wobr i gryfhau’r casgliad a chefnogi talent o Gymru. Byddai fy rhieni wedi dwlu ar hynny.”
Melvyn Williams, Cadeirydd Cyfeillion y Glynn Vivian, “Mae’n fraint arbennig i Gyfeillion y Glynn Vivian fod yn rhan o ddewis gwaith a ddaw’n rhan o’n treftadaeth genedlaethol. Mae hefyd yn wych gallu cefnogi artistiaid cyfoes drwy gronfa Wakelin i ddatblygu eu gyrfaoedd yn y modd hwn. Bydd y gweithiau enigmatig ac ysgogol hyn gan Lucia Jones yn ychwanegiad gwych at gasgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.”
Meddai Karen Mackinnon, Curadur yn Oriel Gelf Glynn Vivian, “Rydym wrth ein bodd gyda’r detholiad o waith Lucia ac yn ddiolchgar iawn i Peter; y teulu Wakelin a Chyfeillion y Glynn Vivian. Dyma’r tri chelfwaith a brynwyd: ‘I can’t fit into this dress anymore’ (2023); ‘Do you want to form an alliance with me’ (2024) a ‘Fake it till you make it’ (2024). Drwy ei gwaith, mae Lucia yn astudio adeiladwaith benyweidd-dra, yn aml gydag ymdeimlad o hiraeth. Mae’r gweithiau hyn yn rhai deniadol ac annifyr ac maent wir yn cyd-fynd â’r gweithiau eraill yn y casgliad. Diolch yn fawr iawn i Lucia, ac i Jon am fod yn ddetholwr mor ystyriol.”
Gweinyddir a chefnogir y wobr gan Gyfeillion y Glynn Vivian ac fe’i hariennir hefyd drwy roddion er cof am Richard a Rosemary Wakelin.
Lucia Jones
Mae Lucia Jones yn arlunydd o Gymru. Ers graddio o Brifysgol Falmouth, mae hi wedi arddangos ei gwaith yn rhyngwladol mewn arddangosfeydd unigol a grŵp gan gynnwys gwobr BEEP Painting 2018 a 2024. Mae hi hefyd wedi cyrraedd y rhestr hir ar gyfer sawl gwobr gelf fel John Moores 2020 a gwobr Jackson’s Art 2022 a 2023. Mae disgwyl iddi hefyd arddangos ei gwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2025. Ar hyn o bryd cedwir ei gwaith mewn casgliadau preifat yn Awstralia, Awstria, Hong Kong, Mecsico, y DU ac UDA.
Jonathan Powell
Ganwyd Jonathan Powell ym Mangor ym 1975. Graddiodd o Goleg Celf Abertawe (BA a Meistr) ac mae’n artist o Abertawe. Cydsefydlodd Oriel Elysium ac mae’n parhau i fod yn rheolwr ac yn rhaglennydd creadigol yr oriel. Mae gan Jonathan ddiddordeb mewn gwneud Abertawe’n fagwrfa ddiwylliannol greadigol a chyffrous o artistiaid a gweithgareddau sy’n lledaenu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol wrth ddod â chynulleidfaoedd a phobl greadigol newydd i Gymru. Mae’n ystyried y celfyddydau’n gatalydd cryf ar gyfer newid cadarnhaol. Jonathan hefyd yw sylfaenydd Beep Painting Biennial ac mae’n dal i gynnal yr ŵyl eilflwydd.
Richard a Rosemary Wakelin
Roedd Richard Wakelin (1921-1987) a Rosemary Culley (1919-1998) ill dau’n artistiaid a fu’n gweithio yn Abertawe o ddiwedd y 1950au. Fe’u ganed yng Nghaerdydd a chyfarfuont pan oeddent yn fyfyrwyr yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym 1939 cyn mynd i’r lluoedd arfog dros gyfnod y rhyfel Priodon nhw ym 1947. Bu Richard yn gweithio fel pensaer mewn practis preifat yn Abertawe ac yn ddiweddarach gyda chyngor y ddinas (lle’r oedd ei rôl yn cynnwys gwaith gofal ac addasu yn Oriel Gelf Glynn Vivian). Fel artistiaid, roedd y ddau’n gweithio mewn arddulliau haniaethol, ond roeddent yn gwerthfawrogi pob math o gelf a chrefft. Gweithiodd y pâr gyda sawl sefydliad i hyrwyddo’r celfyddydau gweledol, yn arbennig Cymdeithas Gelfyddydau Abertawe, Cymdeithas Artistiaid a Dylunwyr Cymru, 74 Guild of Artist Craftsmen, y Grŵp Cymreig a Chyfeillion Oriel Glynn Vivian.
Roeddent yn gyd-sylfaenwyr Gweithdy Celf Abertawe, Oriel Mission erbyn hyn, yn yr Ardal Forol, Roeddent yn awyddus i helpu ac annog artistiaid a chrefftwyr talentog, ac i ehangu mwynhad o’r celfyddydau yn Abertawe. Enwau’r tri phlentyn sy’n dal yn fyw yw Andrew, Sally (a’i merch Kate) a Peter Wakelin. Bu farw eu mab hynaf Martin yn 2012 gan adael ei wraig Christine Townley a’i ferch Megan, sy’n parhau i ymddiddori yn y wobr.
Categorïau