Dydd Sadwrn 12 Rhagfyr 2020
12:00 pm - 7:00 pm
Ymunwch â ni ar-lein i gymryd rhan mewn gweithgareddau difyr, Nadoligaidd am ddim i’r teulu cyfan.
Cymerwch ran yn ein gweithdy gwneud Hwyaid ar gyfer Coed Nadolig a ysbrydolir gan y gwaith newydd sydd wedi dod i’n meddiant gan yr artist Anya Paintsil, crefftau’r Nadolig gyda Pam a Jenny, a’n cwis Nadolig i’r teulu.
Cynhelir y gweithgareddau ar-lein ac mae’r manylion llawn ar gael ar ein gwefan.
Rhaid cadw lle. Cofrestrwch ar Zoom.
Crefftau’r Nadolig
12:00 – 13:15
Ymunwch â Pam Mayford a Jenny Chisholm am awr o grefftau’r Nadolig gan ddefnyddio deunyddiau sylfaenol y gallwch ddod o hyd iddyn nhw yn eich cartref.
Yn addas i deuluoedd â phlant 5 oed ac yn hŷn.
Rhaid cadw lle. Cofrestrwch ar-lein:
https://zoom.us/meeting/register/tJMud-ivqjIoHNCkfOs_npFbDztqpN3-F9Em
Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau sy’n cynnwys gwybodaeth am ymuno â’r gweithdy.
Gweithdy Hwyaid coeden Nadolig DIY
13:30-15:30
Eleni, i ddathlu bod Mair at Cylch Meithrin gan Anya Paintsil wedi cyrraedd yr oriel, rydym yn creu ein haddurniadau Nadolig tegan meddal personol ein hunain ar ffurf hwyaden, y gallwch eu creu o gysur eich cartref eich hun. Trwy wnïo, defnyddio hen hosan a thipyn o ddychymyg, cewch ddysgu awgrymiadau defnyddiol, technegau a syniadau i’ch helpu i greu eich tegan meddal eich hun.
Bydd angen y pethau hyn:
Hen hosan fawr (a glân)
Ychydig o ddefnydd/darnau ffelt sy’n cyferbynnu â lliw’r hosan neu’n gweddu iddo
Nodwydd a all fynd drwy eich defnydd dewisol
Ychydig o edau
Rhywbeth i lenwi’r hwyaden (gwlân, padin, popgorn pecynnu)
Botymau neu leiniau mawr (ar gyfer y llygaid, neu gallwch ddefnyddio defnydd)
Rhuban
Siswrn ar gyfer y ffabrig
Pin
Pethau eraill ar gyfer gwneud crefftau
Eggnog/siocled poeth a bisged
Rhaid cadw lle. Cofrestrwch ar Zoom.
https://zoom.us/meeting/register/tJwsdeGpqj4vHt1vmB68xXvOoc_zB9g646Iy
Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau sy’n cynnwys gwybodaeth am ymuno â’r gweithdy.
Cwis Nadolig i’r Teulu
18:00-19:00
Ydych chi’n adnabod eich senglau Nadolig a chanigau hysbysebion yr ŵyl? Allwch chi ddatrys cliwiau a dweud pwy yw pwy? Yna ymunwch â thîm dysgu’r oriel am gwis Zoom ar-lein i’r teulu cyfan. Gyda chymysgedd o gwestiynau i bob oed, gallwch fynd i hwyl yr ŵyl mewn cwmni da!
Rhaid cadw lle. Cofrestrwch ar-lein: https://zoom.us/meeting/register/tJwqceiqrDgjHtMMH-NgvQOqd9g5dNvQ3I7a
Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau sy’n cynnwys gwybodaeth am ymuno â’r gweithdy.
Categorïau