• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

His Dark Materials – Creu Bydoedd yng Nghymru

Dydd Gwener 2 Rhagfyr 2022 //  by laura.gill

Dydd Gwener 2 Rhagfyr 2022 - Dydd Sul 3 Medi 2023
10:00 am - 4:30 pm

His Dark Materials, BadWolf/ BBC/ HBO

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi golwg y tu ôl i’r llenni o’r cyfresi arobryn His Dark Materials gan y BBC a HBO ar y cyd â Bad Wolf.

Bydd yr arddangosfa ar agor i’r cyhoedd ac am ddim, o ddydd Gwener 2 Rhagfyr 2022 i ddydd Sul 3 Medi 2023.

Bydd y gyfres, sydd wedi’i seilio ar drioleg o nofelau clodwiw Philip Pullman, yn dod i ben ar ôl ei drydydd tymor, sef yr un olaf, yn hwyrach eleni. Am y tro cyntaf yn yr arddangosfa fawr hon, gall ymwelwyr weld gwisgoedd, celf cysyniad, fideos effeithiau gweledol, propiau a mwy o’r tri thymor.


Mae’r drioleg yn dilyn Lyra Belacqua (Dafne Keen), merch amddifad sy’n byw mewn bydysawd cyfochrog lle mae eneidiau pobl yn byw y tu allan i’r corff ar ffurf anifeiliaid o’r enw “dæmons”. Rydym yn cwrdd â Lyra am y tro cyntaf fel babi dan ofal yr ysgolheigion yng Ngholeg Jordan a’i hewythr tybiedig, yr Arglwydd Asriel (James McAvoy). Mae’r drioleg yn dilyn ei thaith ryfedd trwy fydoedd niferus His Dark Materials, wrth i’r awdurdod crefyddol, y Magisterium, fynd ar ei hôl. Mae Will Parry (Amir Wilson) yn ei helpu ar ei thaith, yn ogystal â’i dæmon, Pan (lleisir gan Kit Connor). Mae’r cast hefyd yn cynnwys Ruth Wilson sy’n chwarae rôl y ddraig o ddynes, Mrs Coulter, Lin-Manuel Miranda fel yr awyrennwr Lee Scoresby a Simone Kirby fel y gwyddonydd Mary Malone.

Ffilmiwyd y rhan fwyaf o’r gyfres yn Wolf Studios Wales yng Nghaerdydd, a ddefnyddiodd 6 o’i lwyfannau i greu bydoedd niferus His Dark Materials, o strydoedd Cittàgazze i dirweddau eiraog y Gogledd a phalas yr eirth arfog, Svalbard.

Bydd yr arddangosfa’n llenwi Atriwm prydferth ac Ystafelloedd 8 a 9 yr oriel ar y llawr cyntaf. Yn yr Atriwm, bydd cyfle i ymwelwyr cael cipolwg agos ar y propiau allweddol fel yr ’alethiometer’, y gyllell gynnil, a’r ysbienddrych ambr, yn ogystal â darnau mwy o’r set, fel angylion y Cittàgazze, baneri’r Magisterium a thaflunydd yr Arglwydd Asriel. Yn ystafelloedd 8 a 9, bydd modd gweld gwisgoedd y cymeriadau dros y tri thymor, yn ogystal â byrddau cysyniad, darluniau, fideos ac effeithiau gweledol, a fydd yn dangos yr amrediad llawn o greadigrwydd a fu’n rhan o’r broses o ddod â’r stori’n fyw. Bydd yr arddangosfa’n dathlu trioleg wych Philip Pullman ac addasiad ardderchog Bad Wolf ar gyfer y teledu, yn ogystal â phwysigrwydd pob ffurf ar gelfyddyd a chreadigrwydd, sy’n cyfrannu at ddod â chyfres deledu’n fyw.

Bydd yr arddangosfa am ddim a mi fydd y Galeri yn cydweithio gyda Screen Alliance Wales i greu cyfres o ddosbarthiadau meistr a cyfleodd dysgu bydd yn ehangu ar brofiad ymwelwyr.

Jane Tranter, Prif Weithredwr, Bad Wolf, “Mae lefel y celfyddydwaith sy’n rhan o bob gwisg, set a phrop yn His Dark Materials y tu hwnt i unrhyw beth rwyf wedi’i weld yn cael ei gynhyrchu o’r blaen. Mae’r ffaith bod Oriel Gelf Glynn Vivian yn dathlu celf, dychymyg a chrefft His Dark Materials yn fraint arbennig. Rwy’n sicr y bydd ymwelwyr yn cael eu syfrdanu a’u swyno gan yr hyn y mae ein timau wedi’i greu yn Wolf Studios Wales.”

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Elliott King, “Rwyf wrth fy modd ein bod ni’n gallu croesawu’r arddangosfa hon, y cyntaf o’i bath yn y byd, i Abertawe; mae’n dathlu Cymru fel cenedl greadigol iawn. Mae gan y ddinas enw da cynyddol am ddigwyddiadau o’r radd flaenaf ac mae His Dark Materials: Creu Bydoedd yng Nghymru yn un arall a fydd yn tynnu sylw atom. Mae’n rhoi cyfle newydd i bobl leol fwynhau amser hamdden am ddim.”

Mewn partneriaeth â Bad Wolf, IJPR Media a Screen Alliance Wales.



Categorïau

  • Presennol

Event Category: Presennol

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility