• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Glynn Vivian yn y Cartref
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Arddangosfa’r Casgliad
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Adnoddau Creadigol
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
    • Artist Preswyl
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Black Lives Matter
    • Coronafeirws
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Glynn Vivian yn y Cartref
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Arddangosfa’r Casgliad
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Adnoddau Creadigol
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
    • Artist Preswyl
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Black Lives Matter
    • Coronafeirws
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Indigo: Casglu, Cadwraeth, Chemeg

Dydd Mercher 15 Medi 2021 //  by laura.gill

Dydd Mercher 15 Medi 2021 - Dydd Sul 27 Chwefror 2022
10:30 am - 4:00 pm

Portread o foneddiges ifanc o lys y Frenhines Anne

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyflwyno’r arddangosfa, Indigo: Casglu, Cadwraeth, Chemeg, fel rhan o arddangosfeydd y casgliadau parhaol. Mae’r arddangosfa’n ymdrin â phaentiad portread o fenyw ifanc o lys y Frenhines Anne, o gymynrodd Richard Glynn Vivian ym 1911.  Mae eitemau eraill o’r casgliad parhaol yn ategu at yr arddangosfa.

Drwy’r paentiad, ac yn fwy penodol y defnydd o’r lliw pigment indigo, bydd yr arddangosfa’n archwilio hanes y cyfnod y gwnaethpwyd y paentiad, natur gemegol pigmentau a ryseitiau paent, yn ogystal â deunyddiau, cemeg a thechnegau cadwraeth celf. Anogir ymwelwyr i gysylltu â’r amryfal agweddau hyn, er mwyn archwilio pwysigrwydd cemeg yn y celfyddydau a chadwraeth fel offeryn unigryw wrth ddatgelu cyfrinachau’r gorffennol.

Ar ôl cael ei storio am flynyddoedd lawer, glanhawyd ac adferwyd y cynfas olew hwn gan Swyddog Cadwraeth y Glynn Vivian (Paentiadau Olew), Jenny Williamson, sydd wedi datgelu lliwiau llachar y pigmentau a ddefnyddiwyd fel arfer gan artistiaid ar ddechrau’r 1800au a dod â bywyd newydd iddynt.

Atebwyd y cwestiwn ynghylch hunaniaeth yr arlunydd gyda chymorth archifau a chemeg ddadansoddol, lle defnyddiwyd amrywiaeth o dechnegau, yn arbennig wrth astudio’r pigment glas a ganfuwyd yn ffrog y fenyw ifanc.

Mae Dr Cecile Charbonneau, Dr Ann Hunter a Katie Hebborn yn dîm o wyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe sy’n rhannu’r un brwdfrydedd dros gemeg a’r celfyddydau cain. Maen nhw, ynghyd â Jenny Williamson, wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i bennu natur gemegol pigmentau a geir yn y paentiad i gasglu cliwiau sy’n hanfodol i fwrw goleuni ar hunaniaeth y paentiwr.

Ydych chi wedi ymweld â’r arddangosfa hon? Mynegwch eich barn ar yr arddangosfa. Cwblhewch yr arolwg ar-lein yma:

Indigo; Casgliadau, Cadwraeth a Chemeg – Arolwg Arddangosfa


 

Meddai Jenny Williamson, ‘Mae’r cydweithrediad hwn wedi bod yn hynod ddiddorol a’r hyn rwyf wedi ei fwynhau amdano yw bod cynifer o elfennau iddo. Felly teimlaf yn freintiedig fy mod wedi gallu gwneud y gwaith cadwraeth sydd wedi datgelu ansawdd a lliwiau’r paentiad hwn. Mae’r gwyddonwyr wedi cyflwyno’u gwahanol dechnegau a sgiliau, sy’n ein galluogi i weld y paentiad hwn mewn ffordd hollol newydd.  Nid oeddwn wedi sylweddoli ein bod yn gallu edrych ar y paentiad mewn cynifer o ffyrdd gwahanol, a fyddai’n rhoi gwybodaeth wahanol i ni, ac yna, os ydym yn ychwanegu ymchwil hanes celf a dadansoddiad arddulliadol arbenigwyr, teimlaf y gallwn gael dealltwriaeth a mewnwelediad hollol newydd i’r paentiad hwn.’

Meddai Dr Ann Hunter, ‘Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o brosiect sy’n ymwneud â chelf a gweithio gyda gwyddonwyr a gweithwyr cadwraeth celf mor dalentog. Mae gweithio gyda’n gilydd fel tîm wedi dangos pa mor amlddisgyblaethol y mae celf a gwyddoniaeth yn gallu bod, rydym wedi rhannu syniadau â’n gilydd ac mae wedi bod yn broses bleserus iawn.’

Meddai Dr Cecile Charbonneau, ‘Dechreuodd fy ngyrfa wyddonol yn Amgueddfa’r Louvre. Pan oeddwn yn fyfyriwr israddedig, roeddwn i yn ffodus iawn fy mod i’n gallu gwneud lleoliad yno, yn y labordai yno.   Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wnes i ddim ymgysylltu â’r byd celf mewn gwirionedd, ond gwnes i barhau i ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol iddo. Ac i fi, roedd y prosiect hwn yn ffordd i mi ddefnyddio gwyddoniaeth fforensig a dadansoddi celf unwaith eto, sy’n rhywbeth a oedd yn annwyl iawn i mi.


Mae’r arddangosfa hon mewn partneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe a Phrifysgol Abertawe. Fe’i hariannwyd drwy grant gan Gronfa Allgymorth y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, gyda chefnogaeth gan Oriel Gelf Glynn Vivian, Cyngor Abertawe, SPECIFIC, Beacon, Prifysgol Abertawe gyda chefnogaeth gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.



Categorïau

  • Arddangosfa’r Casgliad
  • Cadwraeth
  • Casgliadau
  • Presennol

Event Category: Arddangosfa’r Casgliad, Cadwraeth, Casgliadau, Presennol

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
oriel.glynn.vivian@abertawe.gov.uk

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Opening times
Tuesday – Sunday
10.00am – 5.00pm
Last entry 4.30pm

Free admission

Oriau agored
Dydd Mawrth – ddydd Sul
10.00am – 5.00pm
Mynediad olaf 4.30pm

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility

Cookie notice
This website uses cookies to improve your experience but you can opt-out if you wish. Find out how we use cookies here Cookie settingsAccept
Cookies

Cookies overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website.

Out of these cookies, the cookies that are categorised as necessary are stored on your browser, as they are essential for the working of basic functionalities of the website.

We also use third-party cookies that help us analyse and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies, but opting out of some of these cookies may have an effect on your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
Non-necessary
Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.
SAVE & ACCEPT