• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Katie Paterson – First There is a Mountain

Dydd Sul 5 Mai 2019 //  by Stephanie Rutt

Dydd Sul 5 Mai 2019
2:00 pm - 3:00 pm

Mae’r digwyddiad yn cymryd lle ar Bae Abertawe, Canolfan Ddinesig

Ymunwch ag Oriel Gelf Glynn Vivian ar Fae Abertawe, Canolfan Ddinesig rhwng 2pm a 3pm ddydd Sul 5 Mai 2019 i fod yn rhan o arddangosfa’r artist Katie Paterson, First There is a Mountain.

Digwyddiad celfwaith cyfranogol ledled y DU yw First There is a Mountain, ac fe’i cynhelir yn ystod Amser Haf Prydain 2019, gan ddechrau yng Nghaint ar 31 Mawrth ac yn dod i ben yn Essex ar 27 Hydref

Bydd y prosiect yn ymweld ag Abertawe ddydd Sul 5 Mai, dros benwythnos gŵyl banc y Sulgwyn, a hwn fydd y pedwerydd cyrchfan mewn cyfres o 25 o leoliadau arfordirol ar hyd y DU.

Ym mhob lleoliad, bydd cyfranogwyr yn defnyddio set o ‘fwcedi a rhawiau’ arbennig ar ffurf mynyddoedd y byd i droi traethau’n filoedd o gadwyni o fynyddoedd bychain a wnaed o dywod.

Mae pob set yn cynnwys model wrth raddfa o un o bum mynydd enwocaf y byd: Mae Mynydd Kilimanjaro (Affrica), Mynydd Shasta (UDA), Mynydd Fuji (Asia), Stromboli (Ewrop) ac Uluru (Ynysoedd y De) wedi’u nythu gyda’i gilydd.

Bydd 50 o setiau o fwcedi a rhawiau ar gael i’w defnyddio ar y diwrnod ac mae cyfranogiad unigryw’r cyhoedd ym mhob lleoliad yn hanfodol ar gyfer datblygiad y celfwaith a’r profiad cyfan.

Mae 25 o ddarnau o ysgrifennu wedi’u comisiynu i gyd-fynd â thaith y celfwaith, un ar gyfer pob lleoliad. Bydd y testunau’n ffurfio antholeg ddigidol, gan ddod â gwaith ysgrifennu gan awduron, beirdd, daearegwyr, gwyddonwyr y ddaear, ecolegwyr ac ysgrifenwyr celf clodwiw ynghyd.

Dewiswyd yr ysgrifenwraig gelf a anwyd yn Abertawe, Lizzie Lloyd, i ysgrifennu testun ar gyfer Abertawe, a gaiff ei ddarllen yn uchel ar ddechrau’r digwyddiad.

Bydd yr oriel yn chwilio am gyfranogwyr, preswylwyr ac ymwelwyr ag Abertawe i gymryd rhan mewn nifer o ffyrdd; fel gwirfoddolwr ac arweinydd, fel adeiladwr cadwyni o fynyddoedd neu fel gwyliwr yn y digwyddiad hollol unigryw a thrawiadol hwn.

Bydd mwy o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan ar gael yn fuan.

Meddai Katie Paterson, “O blentyndod cynnar, rydym yn deall bod tywod yn nodi amser. Mae ‘First There is a Mountain’yn adeiladu ar y cydsyniad hwn, gan ein gwneud yn ymwybodol o erydiad creigiau mynyddoedd dros filenia a chreigiau sy’n symud ar draws y ddaear wrth i’r cyfandiroedd ddatblygu, gan ffurfio olion tywod unigryw ar hyd ein harfordir modern. Mae’r celfwaith yn gwahodd pobl i arafu ac ystyried cydgysylltiad y byd drwy gyfleu ei fawredd ar raddfa fach. Gan gysylltu’r ynysfor ag un ffynhonnell o ddŵr, un llanw, un darn o dywod – gan gludo mynyddoedd o dywod ar draws amser. Yr anarferol yn bodoli mewn pethau arferol, ym mhob man.”

 

Dewisodd Paterson y mynyddoedd gan ddefnyddio data oddi wrth Genhadaeth Topograffi Radar Gwennol NASA a’r Asiantaeth Cudd-wybodaeth Geo-ofodol Genedlaethol. Gwnaed y bwcedi tywod o startsh planhigion wedi’u heplesu a gellir eu bio-gompostio’n llwyr ac, ar ddiwedd y prosiect, cânt eu compostio a’u hamsugno’n ôl i’r amgylchedd naturiol.

Prosiect traws-ddisgyblaethol cydweithredol yw First There is a Mountainsy’n cynnwys 25 o leoliadau celf ar hyd arfordir y DU, gan ddechrau gyda gŵyl Whitstable Biennale yng Nghaint ar 31 Mawrth ac yn dod i ben yn oriel Focal Point yn Essex ar 27 Hydref.

Mae celf Paterson yn ein galluogi i ymwneud â grymoedd anghyffwrdd ac enfawr. Mae amser, rhewlifiant, twf, cysawd yr haul, ffosileiddiad, trydan a systemau’r tywydd yn darparu ysbrydoliaeth ar gyfer ei gwaith ac mae hi’n aml yn defnyddio tywod i gynrychioli amser ac anfeidroldeb yn ei harfer. Mae First There is a Mountainyn parhau â’i hymholiad i ailystyried ein dealltwriaeth o ofod, amser a lle.

Cynhyrchiad: Elizabeth Newell mewn cydweithrediad â Siobhan Maguire yn Katie Paterson Studio. Cefnogir First There is a Mountaingan y Loteri Genedlaethol drwy Creative Scotland ac Arts Council England.


Traeth Bae Abertawe
o/s Civic Centre, Oystermouth Road, SA1 3SN
map

0 iCal


Categorïau

  • Gorffennol
  • Gorffennol 2019

Event Category: Gorffennol, Gorffennol 2019

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility