• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Linder: Danger Came Smiling

Dydd Gwener 21 Tachwedd 2025 //  by laura.gill

Dydd Gwener 21 Tachwedd 2025 - Dydd Sul 1 Mawrth 2026
10:00 am - 4:30 pm

Glynn Vivian Gyda’r Hwyr, nos Iau 20 Tachwedd, 17:30 – 20:00.

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, yn cyflwyno Linder: Danger Came Smiling, arddangosfa gan Hayward Gallery Touring sy’n cynnig trosolwg dadlennol o yrfa 50 mlynedd yr artist eiconig hwn.

Black and white image of a female figure with bright red lips
Linder, Principle of Totality (Version I), 2012, detail. Image_ © Linder. Courtesy of the artist; Modern Art, London; Blum, Los Angeles, Tokyo, New York; Andréhn

Mae detholiad o ffotogyfosodiadau arloesol Linder yn archwilio amrywiaeth lawn ei harfer artistig, gan bwysleisio mympwyon arbrofol a ffeministaidd ei gwaith pryfoclyd.

Wedi’i haddasu o’r cipolwg ôl-weithredol yn Oriel Hayward yn Llundain, mae’r fersiwn deithiol hon yn cyflwyno llwybr artistig cyflawn Linder, o’r gwaith cynnar a ddeilliodd o’i chyfraniad at fyd pync-roc ym Manceinion yn y 1970au i waith newydd nas dangoswyd o’r blaen. Mae ieithwedd weledol unigryw Linder yn cynnwys diffyg parch chwareus ac yn archwilio ein hagweddau newidiol at uchelgeisiau, rhyw, bwyd a ffasiwn.

Daeth Linder i’r amlwg yn wreiddiol yn y 1970au, fel rhan o dirwedd ddeinamig pync-roc a’r gerddoriaeth a’i dilynodd, gan gael cydnabyddiaeth helaeth gyda’i band, Ludus, ac am greu cloriau albymau arloesol. Mae ei ffotogyfosodiad ar gyfer clawr y record sengl ‘Orgasm Addict’ gan Buzzcocks ym 1977 yn dal ymysg delweddau mwyaf symbolaidd pync-roc ym Mhrydain. Hanner canrif yn ddiweddarach, mae Linder yn artist a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n adnabyddus am ei harfer amlweddog.

Mae taith Linder wedi cynnwys archwilio di-baid, gan fentro i feysydd mor amrywiol â ffasiwn, cerddoriaeth, perfformio, persawr, tecstilau a ffilm. Y tu hwnt i egni noeth a brathog pync, mae ei gweledigaeth artistig wedi’i llywio gan gyfoeth o ddylanwadau sy’n cynnwys celf grefyddol, swrrealaeth, cyfriniaeth, pornograffi a thirwedd newidiol y cyfryngau cymdeithasol. Mae synnwyr digrifwch brathog yr artist, sy’n gallu bod yn ysgytwol, yn animeiddio ei gwaith.

Mae Linder wedi defnyddio ffotogyfosodiadau drwy gydol ei gyrfa. Mae’n defnyddio cyllell llawfeddyg yn dreisgar ac yn greadigol i ddyrannu, ail-lunio a thorri mewn modd doniol grib y rhai hynny sy’n cyfleu normau rhywedd a hunaniaethau rhywiol at ddibenion masnach. Gan ddefnyddio delweddau corfforol yn aml, mae Linder yn dinoethi’r ystrydebau trwm sy’n cael eu gosod ar ddau begwn y sbectrwm rhywedd a’r ffordd y mae’r rhain wedi datblygu dros amser. Mewn cyfres drawiadol o ffotograffau, megis SheShe (1981), mae Linder yn mabwysiadu personâu benywaidd dychanol amrywiol i drafod cysyniadau creu eich personoliaeth eich hun, a dimensiynau perfformio hunaniaeth.

Gan gyfleu hanfod gwreiddiol glamor – cyfuniad pwerus o hud a lledrith – mae gwaith Linder yn cyflwyno safbwynt ffeministaidd doniol a brathog. Wrth wraidd ei harfer artistig y mae cysylltiad dwys â natur farddonol protest, lle mae ymholiadau artistig yn cyfuno’n llyfn â meddylfryd radicalaidd.

Meddai Linder, “Mae’r toriadau sy’n deillio o’m llafnau a’m siswrn yn fy rhyddhau bob amser. Mae pob un ohonynt yn adfer egni ar draws y print a’r dudalen. Mae’r delweddau yn fy ngwaith yn aml yn fregus, a hynny’n faterol ac yn gysyniadol. Mae’n hawdd cael gafael arnyn nhw a mynd â nhw i rywle llawer mwy swrrealaidd.”

Mae’r arddangosfa Linder: Danger Came Smiling wedi’i churadu gan Hayward Gallery Touring.


Gwybodaeth am Linder

Ganed Linder yn Lerpwl ym 1954, ac mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain. Trefnwyd cipolwg ôl-weithredol ar ei gwaith, Femme/Objet, yn 2013 gan Musée d’Art Moderne de la Ville de Paris, cyn cael ei gyflwyno’n ddiweddarach yn Kestner Gesellschaft, Hanofer. Cafodd y cipolwg sefydliadol cyntaf ar ei gyrfa yn y DU, Linderism, ei osod yn 2020 yn Kettle’s Yard, Caer, cyn cael ei gyflwyno’n ddiweddarach yn Oriel Hatton, Newcastle upon Tyne. Mae Linder wedi cyflwyno arddangosfeydd unigol diweddar yn Andréhn-Schiptjenko, Paris (2023); Blum, Los Angeles (2022); Modern Art, Llundain, (2019); Glasgow Women’s Library (2018); Nottingham Contemporary (2018); Chatsworth House, Swydd Derby (2018); The Hepworth Wakefield (2013); a Tate St Ives (2013). Mae wedi cyfranogi’n ddiweddar mewn arddangosfeydd gan ddau berson a grŵp yn oriel dépendance, Brwsel (2022); Tate Liverpool (2021); yr Academi Frenhinol, Llundain (2020); Camden Art Centre, Llundain (2020); Oriel Genedlaethol Celf Fodern yr Alban, Caeredin (2019); a Kunsthal Charlottenborg, Copenhagen (2019). Yn 2017, dyfarnwyd Gwobr Paul Hamlyn Foundation iddi. Cedwir gwaith Linder mewn casgliadau, gan gynnwys Casgliad Cyngor y Celfyddydau, Llundain; Ymddiriedolaeth Celf Gyfoes DESTE, Athen; Amgueddfa Celf Iwerddon, Dulyn; Amgueddfa Celf Fodern, Efrog Newydd; ac Oriel Tate, Llundain.


Gwybodaeth am Hayward Gallery Touring

Hayward Gallery Touring yw’r sefydliad celf gyfoes mwyaf yn y DU sy’n cyflwyno arddangosfeydd teithiol. Mae Hayward Gallery Touring, sy’n gweithredu o Southbank Centre, yn gweithio gydag amrywiaeth o artistiaid, curaduron, dylunwyr a llenorion i ddatblygu prosiectau curadurol ac arddangosfeydd uchelgeisiol sydd yn aml y tu hwnt i gwmpas un sefydliad.

Mae rhaglen Hayward Gallery Touring yn cynnwys The British Art Show – yr arddangosfa fwyaf a phwysicaf o gelf gyfoes a grëwyd yn y DU – yn ogystal â sioeau grŵp thematig ac arddangosfeydd ysgrifol wedi’u creu ar gyfer lleoliadau, gan gynnwys amgueddfeydd, orielau, canolfannau celf, llyfrgelloedd, ysgolion, ysbytai a phartneriaid a lleoedd annisgwyl eraill.

Mae hyd at hanner miliwn o bobl mewn mwy na 45 o ddinasoedd a threfi’n gweld arddangosfeydd Hayward Gallery Touring bob blwyddyn.


Gwybodaeth am Southbank Centre

Southbank Centre yw canolfan aml-gelfyddydau mwyaf y DU ac mae’n ymgysylltu â’r cynulleidfaoedd mwyaf amrywiol ymysg sefydliadau celfyddydau perfformio’r DU. Ein lleoliad mwyaf, Neuadd Frenhinol Gŵyl Prydain (2,700 o seddau), yw etifeddiaeth barhaus Gŵyl Prydain 1951, ac uchelgais a gwerthoedd y prosiect hwnnw – sef y gall celfyddydau, syniadau, arloesedd a diwylliant iachau cymunedau ac y dylent fod ar gael i bawb – yw ein hegwyddorion arweiniol o hyd. Mae gan Southbank Centre y gallu unigryw i gynnig rhaglen artistig gynhwysol eang o’r radd flaenaf sy’n cynnwys celfyddydau gweledol cyfoes, cerddoriaeth, dawnsio, perfformio, llenyddiaeth, comedi a’r gair llafar yn Neuadd Frenhinol Gŵyl Prydain, Neuadd y Frenhines Elizabeth, Ystafell Purcell, Oriel Hayward a’n mannau am ddim. Rydym hefyd yn gartref i Lyfrgell Genedlaethol Barddoniaeth, NASP (Academi Frenhinol Presgripsiynu Cymdeithasol) a chwe cherddorfa breswyl (Aurora Orchestra, Chineke! Orchestra, London Philharmonic Orchestra, London Sinfonietta, Orchestra of the Age of Enlightenment a Philharmonia Orchestra). www.southbankcentre.co.uk



Categorïau

  • Dyfodol

Event Category: Dyfodol

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility