Dydd Sadwrn 16 Gorffennaf 2022
11:30 am - 12:30 pm
Gyda’r Owen Griffiths, Robyn Tomos a Mererid Hopwood
Ar gyfer y sgwrs a’r gweithdy hwn, bydd yr awdur a’r curadur Robyn Tomos a’r academydd a’r bardd Mererid Hopwood yn ymuno â’r artist Owen Griffiths, i archwilio rôl iaith mewn perthynas â’r themâu sy’n cael eu trafod ynghylch datblygiad gardd Oriel Gelf Glynn Vivian.
Fel siaradwyr Cymraeg, byddant yn trafod y defnydd o iaith allddodol yng nghyd-destun anhrefn hinsawdd, problemau’n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol a gwaith dadwladychol, a sut, fel gwybodaeth, nad yw’r meysydd hyn yn sefydlog ond yn datblygu’n gyson. Mae angen geiriau newydd i ddisgrifio sefyllfaoedd newydd, ac mae’r modd rydym yn addasu i argyfyngau newydd yn dibynnu ar ein gallu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio, a siarad â’n gilydd.
Yn y drafodaeth hon, bydd y siaradwyr yn defnyddio’r arddangosfa ‘Meddwl yn Wyrdd‘ fel cyd-destun ar gyfer meddwl am ddatblygu sgiliau iaith newydd a sut i siarad am y dyfodol.
Taith gerdded, yn bersonol yn yr oriel
Cynhelir y digwyddiad yn GYMRAEG YN UNIG.
Bydd podlediad a thrawsgrifiad Saesneg ar gael ar-lein maes o law.
Am ddim, Rhodd o £3 yn ddewisol
Rhaid cadw lle. Mae lleoedd yn brin. Ffoniwch 01792 516900
CADWCH LLE NAWR
Cadwch lle nawr – Meddwl yn Wyrdd: Sgyrsiau Geogromen – Ffiniau Iaith
Robyn Tomos
Brodor o Gastell-nedd ond yn byw yn Nhalgarreg ers blynyddoedd. Wedi cyfnod yn astudio yn Ysgol Gelf Abertawe ac ar ôl graddio o Bolitechneg Cymru, bu’n gweithio i Golwg. Roedd yn Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod Genedlaethol yn bennaf gyfrifol am Y Lle Celf tan yn ddiweddar. Mae’n cyfrannu erthyglau am gelf i gylchgrawn Barn.
Mererid Hopwood
Mae Mererid yn Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth ac yn ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru. Treuliodd ei gyrfa yn astudio a dysgu ieithoedd a llenyddiaeth. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol a bu’n fardd plant Cymru. Mae wedi gweithio gyda nifer o gerddorion a chyfansoddwyr yng Nghymru a thramor.
Categorïau