• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Meddwl yn Wyrdd: Sgyrsiau Geogromen

Dydd Gwener 17 Mehefin 2022 //  by laura.gill

Dydd Gwener 17 Mehefin 2022
1:00 pm - 2:00 pm

Glynn Vivian Gallery Atrium space, in the foreground is a light green open geodome. In the background there is a green wall, with paintings and objects hung for the exhibition, Thinking Green, by artist Owen Griffiths.

Yn Meddwl yn Wyrdd, mae’r artist Owen Griffiths yn defnyddio’r casgliad fel arf i archwilio ein perthynas â defnydd tir a thirwedd wrth i ni ddechrau ar y gwaith o ailystyried gardd yr oriel.  

Drwy edrych ar y casgliad drwy wahanol lensys, gallwn archwilio ei gysylltiadau â masnach, yr hinsawdd a’r cyfoeth a greodd dinas Abertawe. 

Beth mae archwilio gwaith celf fel pecyn cymorth ar gyfer newid yn ei olygu?

Beth yw rô l yr amgueddfa a’r oriel ar adeg o argyfwng byd-eang?

Sut gall amgueddfa neu orielau fod yn lle ‘defnyddiol’ yn y gwaith o fodelu dyfodol radical? 

Ymunwch â ni wrth i ni archwilio’r syniadau hyn trwy gyfres o sgyrsiau a thrafodaethau gyda siaradwyr, artistiaid, ysgrifenwyr a churadwyr gwadd, ar-lein ac yn yr Oriel. 


Dadwladychu’r Ardd

Yn ail sgwrs y gyfres, bydd y tyfwr a’r ysgrifennydd Claire Ratinon, yr artist Same Ayre a’r garddwr Sui Searle yn ymuno â’r artist Owen Griffiths i ystyried y cyfrifoldebau sydd ynghlwm â chreu gardd. Bydd y siaradwyr yn archwilio’r pwysigrwydd o gael cysylltiadau dyfnach â’r tir a’i hanes, yn enwedig o ran gwladychiaeth a diwydiant, wrth ddatblygu mannau gwyrdd. Gall gerddi fod yn fannau trawiadol a ddefnyddir fel arena i drafod cwestiynau anodd a modelu ffyrdd newydd o gydweithio. Er mwyn datblygu’r potensial hwn, mae angen i ni gydnabod y ffyrdd problemus a threisgar y daeth llawer o’r planhigion sy’n llenwi’r mannau hyn i’r wlad hon. Bydd y drafodaeth yn golygu y defnyddir yr ardd fel ffordd o edrych ar y gymdeithas ehangach, ac wrth gwestiynu sut gwnaethom gyrraedd y pwynt hwn, byddwn yn ystyried sut i symud ymlaen.

‘Yn anaml iawn, bydd y cwestiynau a ofynnir a’r atebion a geir am wreiddiau planhigyn yn trafod sut y’i cymerwyd o’i gynefin a beth mae hynny’n ei symboleiddio.‘ Claire Ratinon, Horticultural Appropriation

Dydd Gwener 17 Mehefin, 1:00pm – 2:00pm

Gyda siaradwyr, Claire Ratinon, Sui Searle a Sam Ayre

Am ddim

Rhaid cadw lle. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein

Cadwch lle nawr – Meddwl yn Wyrdd: Sgyrsiau Geogromen, Dadwladychu’r Ardd


Image of Claire Ratinon
Claire Ratinon. Photo Christian Cassiel

Tyfwr bwyd organig ac ysgrifennydd o Ddwyrain Sussex yw Claire Ratinon.

Mae Claire wedi tyfu planhigion bwytadwy mewn sawl rôl, o dyfu llysiau organig ar gyfer bwyty Ottolenghi, Rovi, i gyflwyno gweithdai ar draws Llundain. Gwahoddwyd Claire i rannu ei thaith dyfu mewn sgyrsiau ar gyfer sefydliadau, gan gynnwys Amgueddfa’r Ardd, Tŷ Charleston, a’r Ardd Fotanegol Frenhinol, Caeredin, yn ogystal â chyflwyno rhaglenni nodwedd ar gyfer Gardener’s Question Time ar Radio 4. Mae ei gwaith ysgrifennu wedi cael ei ddangos yn The New Statesman, cylchgrawn Bloom a chylchgrawn bwyd Waitrose. Cyd-ysgrifennodd y llyfryn, ‘Horticultural Appropriation’ ar gyfer Rough Trade Books gyda’r artist Sam Ayre, ac mae ei llyfr cyntaf, ‘How To Grow Your Dinner Without Leaving The House’ ar gael nawr. Caiff ei hail lyfr, ‘Unearthed: On Race and Roots, and How the Soil Taught Me I Belong’, ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2022. 


Photo of Sam Ayre
Sam Ayre

Artist o Ddwyrain Sussex yw Sam Ayre.  

Mae Sam yn arbenigo mewn prosiectau sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol, sy’n canolbwyntio ar farn, cymdeithas, dysgu, ecoleg a syniadau o ddilysrwydd ynghylch celf, diwylliant a hanes. Mae llawer o’i waith yn seiliedig ar brosiectau, ac mae’n cynnwys grwpiau o bobl yn ei waith drwy archwilio’u barn, eu syniadau a’u hemosiynau.  

Mae’n creu paentiadau, darluniadau a pherfformiadau yn ei arferion stiwdio, sy’n ategu ac yn cefnogi pob agwedd ar y prosiectau cyfranogol. Mae’n hoff iawn o safbwyntiau diffygiol, hwyl a thangiadau.  

Mae wedi cyflwyno comisiynau ar gyfer Oriel Whitechapel, Tate Modern, Turner Contemporary, Pafiliwn De La Warr, Folkestone Triennial, Tŷ Charleston ac Art Night Llundain, ymysg eraill. Mae’n cydweithio’n rheolaidd gyda’r awdur a’r tyfwr bwyd organig Claire Ratinon, a chyda’i gilydd roeddent yn artistiaid preswyl yng Ngholeg Celf a Gerddi West Dean, yn ogystal â chyd-ysgrifennu’r pamffled Horticultural Appropriation: Why Horticulture Needs Decolonising ar gyfer Rough Trade Books ac Amgueddfa’r Ardd Llundain.  


Mae Sui Searle yn arddwr, yn ysgrifennwr ac yn wneuthurwr printiau a sefydlydd @decolonisethegarden ar Instagram sy’n canolbwyntio ar ddod â lens dadwladychol a safbwynt gwrth-hiliaeth i arddwriaeth.

Hi hefyd yw golygydd y cylchlythyr Substack garddio ar-lein, Radicle. Mae’n credu y dylai pawb gael hawl i gysylltu â’r ddaear a’r byd naturiol ac mae’n credu ym mhwerau iachusol gwneud hynny: dod â’n hunain yn ôl i’n cysylltiad â’r ddaear, ein hunain, ein tylwyth sy’n fwy na dynol a chyda’n gilydd. Mae hi wedi rhoi sgyrsiau ar faterion cyfiawnder hiliol a chymdeithasol yng nghyd-destun garddwriaeth ar gyfer y Sefydliad Ymchwil Hanesyddol, Charleston, Kew, Pesticide Action Network a Phrifysgol Greenwich.



Categorïau

  • Arddangosfa’r Casgliad
  • Casgliadau
  • Cymuned
  • Oedolion
  • Presennol
  • Sgyrsiau
  • Sgyrsiau Cyfoes

Event Category: Arddangosfa’r Casgliad, Casgliadau, Cymuned, Oedolion, Presennol, Sgyrsiau, Sgyrsiau Cyfoes

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility