Dydd Gwener 23 Mai 2025
10:30 am - 6:30 pm
Mae From Land to Fire yn cyfeirio at orffennol diwydiannol Abertawe: fe’i hadwaenid gynt fel Copropolis ac (fel Bombay, sydd bellach yn Mumbai, lle bu Chopra yn byw am flynyddoedd) roedd yn meddu ar borthladd hanfodol pan oedd yr Ymerodraeth yn ei hanterth. Gan ddefnyddio slyri o Waith Dur Port Talbot, sy’n newid i fodel newydd o gynhyrchu dur, mae Chopra yn cyfeirio at farwolaeth Cymru ddiwydiannol o bosib. Os yw tafod Chopra yn ei foch wrth gyfeirio at hoffter Glynn Vivian o wisgo i fyny, bydd hefyd yn gwisgo dillad gweithwyr diwydiannol – y glöwr, y gweithiwr dur, y gweithiwr ffatri – gan ddangos y tebygrwydd rhwng hanesion ymerodrol a diwydiannol Bombay ac Abertawe.
Hwyluswyd From Land to Fire (2025) drwy haelioni CELF Oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru.
Am ddim
Mynediad am ddim, croeso i bawb
Categorïau