Dydd Sadwrn 2 Rhagfyr 2023
2:00 pm - 3:30 pm
Ymunwch â ni ar gyfer cyflwyniad Grŵp Dawns ‘The Ibero Latin Xpression’ o wyth dawns newydd o Sbaen ac America Ladin â rhythmau traddodiadol a chlasurol gan gynnwys Salsa, Merengue, Mambo a’r Tango wedi’u perfformio gan Urban Tango. Bydd Adventurers Trio yn ein boddio ar y diwrnod gyda’u cerddoriaeth Sbaenaidd a Lladin-Americaniad drwyddo.
Mae’r grŵp wedi bod yn gweithio gydag adran ddysgu’r Glynn Vivian, gan gwrdd yn rheolaidd yn yr oriel i gynhyrchu’r perfformiadau hyn ac ymarfer ar eu cyfer. Mae’r cyfranogwyr sydd wedi bod yn gweithio’n ddwys ers mis Mai 2023, wedi bod yn gwneud rhai o’u gwisgoedd ar gyfer y dawnsfeydd gwerin traddodiadol hefyd.
Mae’r Glynn Vivian yn rhan o Gyngor Abertawe a chefnogir ein rhaglenni dysgu drwy grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Ymunwch â ni ar gyfer eu perfformiad a rhywfaint o luniaeth ysgafn.
Categorïau