• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Pushing paper: contemporary drawing from 1970 to now

Dydd Sadwrn 19 Medi 2020 //  by laura.gill

Dydd Sadwrn 19 Medi 2020 - Dydd Sul 29 Tachwedd 2020
11:00 am - 3:30 pm

Hew Locke © The Trustees of the British Museum Reproduced by permission of the artist

Arddangosfa deithiol gan yr Amgueddfa Brydeinig

Mae Oriel Glynn Vivian wedi bod yn rhan o brosiect cychwynnol yr Amgueddfa Brydeinig i gyd-guradu arddangosfa gydag amgueddfeydd partner o gwmpas y DU i arddangos celfweithiau cyfoes o’i chasgliad Printiau a Darluniau ac yna mynd â hwy ar daith.

Bydd ‘Pushing paper: contemporary drawing from 1970 to now‘ yn dangos sut mae artistiaid yn arbrofi â phŵer papur i fynegi’u syniadau, gan wthio’r cyfrwng i gyfeiriadau gwahanol. Bydd yn amlygu ehangder ac ansawdd casgliad celf fodern yr amgueddfa, yn ogystal â’i gwmpas byd-eang.

Bydd yr arddangosfa, sy’n cynnwys 56 o gelfweithiau, yn arddangos amrywiaeth drawiadol o ddarluniau cyfoes dros y 50 mlynedd diwethaf, gyda gwaith graffig gan artistiaid megis David Hockney, Rachel Whiteread, Sol LeWitt, Anish Kapoor, Tracey Emin a Grayson Perry, yn ogystal â gwaith cyffrous gan artistiaid newydd megis Hamid Sulaiman a Rachel Duckhouse. Bydd nifer o’r celfweithiau’n cael eu harddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf, gan gynnwys gwaith gan Gwen Hardie, Jonathan Callan a Jan Vanriet.

‘Pushing paper‘ yw un o arddangosfeydd cyntaf yr Amgueddfa Brydeinig i ganolbwyntio’n arbennig ar arlunio o’r 1970au hyd heddiw. Mae arlunio ymhlith y mathau hynaf o greadigrwydd dynol ac mae’n dod yn boblogaidd unwaith eto wrth i artistiaid ddechrau dewis y cyfrwng yn gynyddol fel ffordd o archwilio’r byd modern, gyda phynciau’n amrywio o archwilio rhyw a gweithrediaeth wleidyddol i gwestiynau o berthyn a rhywioldeb dynol. Yn yr arddangosfa hon, rhennir y gwaith yn feysydd thematig lle’r archwilir hunaniaeth, lle a gofod, amser ac atgofion, pŵer a phrotest, a systemau a phrosesau. Ei nod yw tynnu sylw at gysylltiadau’r artistiaid trwy gyfrwng arlunio, er gwaethaf eu lleoliadau, eu harddulliau a’u cyfnodau gwahanol ac archwilio paham y mae arlunio’n parhau i ffynnu a datblygu fel dull o fynegiant artistig.

Gwyliwch Hew Locke yn siarad am ei waith yn yr arddangosfa Pushing Paper.


Dewch i weld yr oriel yn rhithwir a mwynhewch deithiau tywys digidol o’r arddangosfeydd a’r casgliadau yn y Glynn Vivian.

Pushing Paper: contemporary drawing from 1970 to now. Arddangosfa deithiol gan yr Amgueddfa Brydeinig. Dehongliadau llawn.

Pushing Paper: contemporary drawing from 1970 to now. Arddangosfa deithiol gan yr Amgueddfa Brydeinig. Dim labeli.


Bydd detholiad o waith o gasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian yn cael ei arddangos ochr yn ochr â gwaith o’r Amgueddfa Brydeinig.

Fe’i cefnogir yn hael gan Sefydliad Celf Bridget Riley

Wedi gwirioni ar yr arddangosfa hon? Cwblhewch yr arolwg ar-lein yma

 


Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map

0 iCal


Categorïau

  • Presennol

Event Category: Presennol

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility