• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

RELAY ABERTAWE

Dydd Sadwrn 28 Mehefin 2025 //  by laura.gill

Dydd Sadwrn 28 Mehefin 2025
1:00 pm - 4:00 pm

Rhodri Davies

15 o gerddorion/berfformwyr – 3 lle – 3 awr

Cynhaliwyd y ‘ras gyfnewid gerddorol’ gyntaf yn Llundain ym 1993 a daeth yn ddigwyddiad blynyddol sydd wedi lledaenu i Ferlin, Athen a Madrid ac a arweiniodd at berfformiad ar raddfa fawr dros 2 ddiwrnod yn Amgueddfa Celf Fodern Efrog Newydd yn 2005 y gwahoddwyd yr holl drefnwyr/gerddorion rhyngwladol iddo. Hyrwyddwyd y digwyddiad gan leoliadau’r 2:13 Club ym mhob dinas. Enwyd y 2:13 Club ar ôl cloc a oedd wedi stopio yn y lleoliad yn Llundain (The Library Gallery yn Stoke Newington).

Mae’n dechrau gyda thriawd ym mhob man perfformio (9 perfformiwr) sy’n byrfyfyrio gyda’i gilydd nes bod un o’r 6 pherfformiwr arall yn cerdded i mewn i’w lleoliad. Mae’r person sydd newydd gyrraedd yn cymryd lle un o’r perfformwyr, sydd wedyn yn mynd i le arall. Mae’r system hon yn creu caleidosgop o gyfuniadau cerddorol dros dair awr.

Nid yw’r digwyddiad hwn yn un lle mae cynulleidfaoedd yn eistedd i lawr ac yn ei brofi fel y byddent yn ei wneud ar gyfer cyngerdd arferol. Mae fel arfer yn digwydd yn ystod y dydd, mewn mannau cyhoeddus, ac mae gwrandawyr yn dod o hyd i wahanol ffyrdd o gael mynediad i’r perfformiadau: mae rhai’n aros mewn un lle ac yn gadael i’r grwpiau ddatblygu o’u blaenau; mae rhai’n dewis un cerddor ac yn ei ddilyn; mae rhai eraill yn symud o le i le gan deimlo’n rhwystredig na allant fod ym mhob un o’r mannau ar yr un pryd wrth iddynt golli un peth a gweld rhywbeth arall.

Trefn yr amserlen/perfformwyr-cerddorion

Charlie Beresford – gitâr

John Bisset – gitâr ddur Hawäiaidd

Iris Colomb – perfformio/testun

Chris Cundy – clarinét bas

Rhodri Davies – telyn

Nia Davies – barddoniaeth

Dan Johnson – offerynnau taro

Hywel Jones – tiwba

Jenn Kirby – electroneg

Jessica Lerner – dawns

Peter Marsh –  gitâr ddur Hawäiaidd bas

Maggie Nicols – llais/tap

Dan Linn-Pearl – gitâr

Rose Linn-Pearl – ffidil


Bywgraffiadau perfformwyr

Charlie Beresford – Mae Charlie Beresford yn byw yn y Mers yn y DU. Yn wreiddiol, hyfforddodd fel paentiwr celfyddyd gain a gwneuthurwr printiau yn Ysgol Gelf a Dylunio Falmouth ar y pryd. Ynghyd â’i waith cerddorol, mae’n dal i weithio ym myd celf weledol a dylunio, ac mae’n gweithio ym meysydd dylunio pensaernïol, dylunio graffeg, gwneud ffilmiau a gwaith datrys problemau cyffredinol sy’n ymwneud â dylunio.


John Bisset – Mae wedi hwyluso a pherfformio yn nigwyddiadau Relay ers 1993 yn ninasoedd Llundain, Berlin, Athen, Madrid, yr Amgueddfa Celf Fodern, Efrog Newydd ac, yn fwyaf diweddar, yn Leeds ym mis Mai 2025. www.johnbisset.net


Iris Colomb – Mae Iris Colomb yn artist, yn fardd, yn fyrfyfyriwr, yn guradur, yn olygydd ac yn gyfieithydd sy’n byw yn Llundain. Mae ei hymarfer yn cyfuno barddoniaeth a ffurfiau celf eraill i archwilio’r perthnasoedd amrywiol rhwng ffurfiau testun gweledol a geiriol trwy brosiectau sy’n cynnwys perfformiadau, gwrthrychau llyfrau barddonol, cyfieithu arbrofol a byrfyfyrio.
www.iriscolomb.com


Chris Cundy – Mae Chris Cundy yn canu’r clarinét bas, y sacsoffon a chwythbrennau prin. Mae’n gyfansoddwr, yn berfformiwr ac yn artist gosodweithiau sain sy’n byw yn Ne-orllewin Lloegr ac sydd wedi cyhoeddi pedwar albwm unigol: The Disruptive Forest, Gustav Lost, Crude Attempt, ac Of All The Common Flowers. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ei ymarfer wedi canolbwyntio ar ffenomenau safleoedd penodol sy’n ymgorffori mapiau sain 3D a recordiadau mewn lleoliadau amgylchynol. Mae partneriaethau pwysig gyda The Roman Baths ac Amgueddfa Corinium wedi arwain at nifer o weithiau ensemble sy’n cynnwys gwrthrychau, recordiadau maes a thestunau hanesyddol wedi’u hail-lunio. Trwy ei gydweithrediadau, mae wedi gweithio ym myd cerddoriaeth bop, gan ysgrifennu trefniadau offerynnol ar gyfer cyfansoddwyr caneuon gan gynnwys Little Annie, Baby Dee a Ladan Hussein (sef Cold Specks). Mae wedi teithio’n rhyngwladol fel artist unigol ac mae wedi perfformio gyda pherfformwyr fel Timber Timbre, Cold Specks, Devon Sproule, a band Guillemots, a enwebwyd am wobr Mercury.


Mae Rhodri Davies yn delynor, yn fyrfyfyriwr, yn gyfansoddwr ac yn artist amlddisgyblaethol. Mae’n canu’r delyn, y delyn wrachod, y delyn rawn a’r delyn drydan ac mae’n adeiladu gosodiadau telynau gwynt, dŵr, rhew, iâ sych a thân ac mae wedi rhyddhau wyth albwm unigol. Mae ei grwpiau rheolaidd yn cynnwys: HEN OGLEDD, Common Objects a deuawd gyda John Butcher. Mae wedi gweithio gyda’r artistiaid canlynol: Derek Bailey, Hamid Drake, Simon H Fell, Will Gaines, Jenny Hval, Sofia Jernberg, Kahimi Karie, Lina Lapelyte, Nicole Mitchell, Butch Morris, David Sylvian, Pat Thomas ac Otomo Yoshihide. Yn 2008, cydweithiodd â’r artist gweledol Gustav Metzger ar ‘Self-cancellation’, sef cydweithrediad clyweledol ar raddfa fawr yn ninasoedd Llundain a Glasgow. Yn 2012, derbyniodd wobr Grantiau i Artistiaid y Sefydliad Celfyddydau Cyfoes, roedd yn Artist Cyswllt yn Chapter (2016-19) ac yn 2017, derbyniodd Wobr Cymru Greadigol. Mae’n gyd-drefnydd ar gyfer cyfres cyngherddau NAWR yn Abertawe.


Mae Nia Davies yn fardd sy’n arbrofi gyda pherfformiadau, ymarfer ymgorfforedig, cyfryngau cymysg ac ysgrifennu hybrid. Mae hefyd yn awdur, yn ymchwilydd, yn berfformiwr ac yn guradur llenyddol. Cyhoeddwyd ei hail gasgliad o gerddi, Votive Mess, gan Bloodaxe ym mis Hydref 2024. Yn ddiweddar, dyfarnwyd doethuriaeth i Nia am ymchwil i farddoniaeth a defodau ym Mhrifysgol Salford. Cyrhaeddodd ei chasgliad cyntaf o gerddi mewn llyfr All fours (Bloodaxe Books, 2017) y rhestr fer ar gyfer Gwobr Farddoniaeth Roland Matthias (2018) a chyrhaeddodd y rhestr hir ar gyfer Gwobr Goffa Michael Murphy am ei chasgliad cyntaf (2019). Gwnaeth hyn ddilyn y pamffledi England Crater, 2017), Çekoslovakyalılaştıramadıklarımızdanmısınız or Long Words (Hafan/Boiled String, 2016) a Then Spree (Salt, 2012).


Dan Johnson – Offerynnwr taro sy’n gweithio ym maes sain byrfyfyr a chyfansoddi estynedig yw Dan Johnson. Mae ei waith arbrofol, sy’n tanseilio syniadau confensiynol o ddrymio, yn amlwg ar draws amrywiaeth eang o brosiectau; o fyrfyfyriadau unigol wyth awr sy’n ymateb i gyfarwyddiadau a roddir gan y gynulleidfa i berfformiadau gyda gwahoddiad yn unig mewn twneli rheilffordd, lifftiau a thoiledau cyhoeddus i brosiect byrfyfyrio mewn grŵp nad yw’n hierarchaidd, Ecstatic Drum Beats. Trwy’r allbwn amlochrog hwn, mae pryderon cyson o ran cydbwyso siawns a rheolaeth, datgelu perthnasoedd rhwng y perfformiwr a’r gynulleidfa, a gofynion o ran disgyblaeth a dygnwch corfforol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau o sgorau cyfarwyddiadol Fluxus i waith artistiaid perfformio fel Tehching Hsieh, ac yn bennaf oll, arfer gwrando’n astud Pauline Oliveros.


Mae Dr Jenn Kirby yn gyfansoddwraig, yn berfformiwr, yn ddarlithydd ac yn dechnolegydd cerddoriaeth. Mae ei chynhyrchion yn cynnwys cyfansoddiadau offerynnol cyfoes, cerddoriaeth electroacwstig a phop arbrofol. Mae gwaith Jenn yn aml yn archwilio hiwmor a theatr. Dywedwyd bod gan ei cherddoriaeth “ymdeimlad o antur ac arbrofoliaeth”. Comisiynwyd Jenn gan Kirkos Ensemble, Glasshouse Ensemble ac Ensemble Entropy, ymhlith eraill. Treuliodd gyfnodau preswyl yn Cove Park, yng Ngŵyl soundSCAPE ac yn Theatr Genedlaethol Cymru. Mae gwaith perfformio Jenn yn canolbwyntio ar ddylunio offerynnau hybrid, adeiladu meddalwedd, ail-bwrpasu caledwedd a phrosesu lleisiau byrfyfyr. Jenn yw Llywydd Sefydliad Sain, Gwyddoniaeth a Thechnoleg Iwerddon, sylfaenydd a chyfarwyddwr Cerddorfa Gliniaduron Abertawe ac un o sylfaenwyr Cerddorfa Gliniaduron Dulyn. Mae’n darlithio ym Mhrifysgol Gorllewin yr Alban, lle mae hefyd yn Arweinydd Rhaglen ar gyfer rhaglenni MA mewn Cerddoriaeth.


Jessica Lerner – Mae Jessica yn artist symudiad gweledol. Mae’n dod o Lundain yn wreiddiol ac mae wedi bod yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Cymru ers 2002, lle mae ganddi stiwdio symudiad. Mae wedi bod yn gweithio ac yn arddangos ei gwaith ers 1989 mewn lleoliadau dawns arbrofol ac orielau. Mae wedi cydweithio ag artistiaid ffilm, dawns, gweledol a sain. Mae’n gweithio ym maes perfformiadau byw, gosodweithiau a phaentio. Mae perfformiadau Jessica’n chwareus, yn ddyfeisgar ac yn dangos gwendid. Mae’n dawnsio gyda gwrthrychau ac yn ymateb i leoliadau trwy ryngweithio, gan greu collage sy’n cynnwys dawns somatig a chelf fyw. Trwy ei byrfyfyriadau, mae elfennau o hanes teuluol, perthnasoedd personol a sefyllfaoedd bywyd pob dydd yn dod i’r arwyneb mewn breuddwydlun sy’n cynnwys pethau haniaethol a phendant. Mae mannau gwyllt y Mynydd Du lle mae’n byw yn denu ei sylw.


Peter Marsh – Basydd a chwaraewr gitâr ddur Hawäiaidd/electroneg sy’n cael ei ysbrydoli gan gerddoriaeth jazz, byrfyfyr, gwerin, roc arbrofol ac electronica. Mae’n aelod o Fourth Page, Elvers, Sonnamble, Found Drowned, Woven Entity, etc. Mae wedi perfformio gyda Lol Coxhill, Paul Rutherford, Steve Beresford, David Toop, Rhodri Davies, John Coxon, Mark Sanders, Pete Flood, Ashley Wales, Tony Bevan, Klaus Filip, Martin Siewert, Robert Dick, Gareth Sager, Karl Blake, Adam Bohman, Roger Turner, Tom Chant, etc.


Maggie Nicols – Ymunodd Maggie Nicols â Spontaneous Music Ensemble ym 1968 fel canwr byrfyfyr rhydd. Mae’n gweithredu trwy gynnal gweithdai lleisiol ac mae’n gyfranogwr mewn theatr arbrofol leol. Yn ddiweddarach, ymunodd â’r grŵp Centipede, dan arweiniad Keith Tippets ac ym 1977, sefydlodd grŵp arbennig Feminist Improvising Group gyda’r cerddor/cyfansoddwraig Lindsay Cooper. Mae’n parhau i berfformio a recordio gwaith heriol a hardd ym meysydd cerddoriaeth a theatr, naill ai trwy gydweithredu gydag amrywiaeth o artistiaid (Irene Schweitzer, Joelle Leandre, Ken Hyder, Caroline Kraabel) ac yn unigol.


Artist a gwneuthurwr ffilmiau a aned yng Nghymru yw Daniel Linn-Pearl. Mae ganddo radd mewn Celfyddydau Sain a Dylunio yng Ngholeg Cyfathrebu Llundain, ac mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain ar hyn o bryd. Mae ei ffocws yn amrywio o osodiad sain a pherfformiadau byrfyfyr byw i waith ffilm a radio. Mae’n gysylltiedig â Gwaith Sŵn, casgliad o artistiaid yn Llundain sy’n gweithio’n bennaf gyda sain, ac mae’n arddangos ac yn trefnu perfformiadau ledled y ddinas gyda nhw. Mae Daniel hefyd yn cydweithio â’r artistiaid gwydr lliw pensaernïol Amber Hiscott a David Pearl, gan gyfuno cyfryngau i greu gweithiau newydd ar gyfer prosiectau sy’n seiliedig ar gomisiwn. Mae Daniel wedi arddangos a pherfformio yn Llundain, yn Abertawe, yn Efrog Newydd ac yn Toronto, ac mae wedi gwneud darllediadau ar gyfer Resonance 104.4fm.



Categorïau

  • Criw Celf yr Ifanc
  • Croeso
  • Cymuned
  • Diwrnod Hwyl i'r Teulu
  • Gweithdai Dydd Mercher i Oedolion
  • Gweithdy Penwythnos i Oedolion
  • Gwneuthurwyr Ifanc
  • Oedolion
  • Pobl Ifanc
  • Presennol
  • Sgyrsiau
  • Sgyrsiau Cyfoes

Event Category: Criw Celf yr Ifanc, Croeso, Cymuned, Diwrnod Hwyl i'r Teulu, Gweithdai Dydd Mercher i Oedolion, Gweithdy Penwythnos i Oedolion, Gwneuthurwyr Ifanc, Oedolion, Pobl Ifanc, Presennol, Sgyrsiau, Sgyrsiau Cyfoes

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility