Dydd Sadwrn 4 Hydref 2025
12:30 pm - 1:30 pm
Y ddraig a’r teigr: cysylltiadau a dylanwadau rhwng Cymru ac India
Gellir olrhain cysylltiadau rhwng Cymru ac India bedwar cant o flynyddoedd. Bydd y sgwrs hon yn archwilio sut mae casgliadau cyhoeddus yng Nghymru’n adlewyrchu’r cysylltiadau hyn. Mae’r rhain yn dogfennu rôl weithredol Cymru mewn gwladychiaeth Brydeinig a’i dylanwad parhaus yng Nghymru heddiw. Hefyd i’w gweld yw rôl celf fel cyfrwng i feithrin perthynas fwy cytbwys, parchus a chwilfrydig rhwng y ddwy genedl.
Bu Andrew Renton yn gweithio yn National Museums Liverpool (1993-1999) ac yn Amgueddfa Cymru (1999-2024) yn rolau Pennaeth Celf Gymhwysol, Ceidwad Celf a Phennaeth Casgliadau Dylunio. Yn Amgueddfa Cymru, datblygodd y casgliad o gelf gymhwysol hanesyddol yn ogystal â chrefft fodern a chyfoes, a churadodd gyfres o arddangosfeydd crefft a dylunio. Mae ei waith ymchwil wedi ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys cerameg Gymreig hanesyddol a dadwladychu casgliad celf Amgueddfa Cymru.
Am ddim, cyfraniad awgrymiadol £3
Rhaid cadw lle. Mae lleoedd yn brin.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Categorïau