Dydd Gwener 25 Ebrill 2025
12:30 pm - 1:30 pm
Ymunwch â ni am y sgwrs am ddim hon â Sian Richardson, sylfaenydd grŵp nofio The Bluetits Chill Swimmers!
Bydd Sian yn rhannu ei mewnwelediad i fanteision nofio mewn dŵr oer yng nghymuned gynhwysol The Bluetits a sefydlwyd degawd yn ôl.
Mae The Bluetits yn fenter gymdeithasol sy’n annog pobl i roi cynnig ar nofio mewn dŵr oer. Mae’r fenter yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, ac mae ganddi gymuned fyd-eang sy’n cynnwys dros 100 o grwpiau cymdeithasol y gallwch ymuno â nhw am ddim a dod o hyd i ffrindiau sy’n nofio.
Yn Ystafell 3, gallwch weld ffilm newydd gan Hetain Patel, sy’n rhan o arddangosfa Come As You Really Are Abertawe Agored 2025. Mae’r ffilm wedi’i chomisiynu ar y cyd gan Artangel a phartneriaid, ac mae’n archwilio creadigrwydd a’r brwdfrydedd eithriadol y mae pobl yn eu rhoi i’w hobïau, ac mae’n cynnwys The Bluetits ar draeth Aberafan.
Am ddim, rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Book now – Friends of the Glynn Vivian talk: Sian Richardson
Categorïau