Dydd Iau 21 Tachwedd 2019
2:00 pm - 3:00 pm
Croeso i bawb
Am ddim, cyfraniad a awgrymir: £3
Ymunwch â Sophy Rickett wrth iddi sgwrsio â Rut Blees Luxembourg ddydd Iau 21 Tachwedd am 14:00.
Bydd arddangosfa Sophy Rickett, Cupid and The Curious Moaning of Kenfig Burrowsyn Ystafell 7 tan 24 Tachwedd 2019. Mae ei llyfr, The Curious Moaning of Kenfig Burrowsnewydd gael ei gyhoeddi gan GOST Books, Llundain.
Mae gwaith Rut Blees Luxembourg, Swansea sur Mera The Kiss, sef rhan o gyfres ffollya wnaed ar ddechrau’r mileniwm newydd, yng nghasgliad yr oriel ac maent yn cael eu harddangos fel rhan o’r arddangosfa Swansea Stories, sy’n cael ei harddangos tan 15 Mawrth 2019.
Bywgraffiadau:
Mae Sophy Rickett yn artist sy’n gweithio gyda ffotograffiaeth, ysgrifennu a gosodiad fideo. Ers iddi raddio o’r Coleg Celf Brenhinol ym 1999, mae wedi cynnal arddangosfeydd unigol mewn nifer o orielau a sefydliadau, gan gynnwys Kettle’s Yard, Caergrawnt; Pafiliwn De La Warr, Bexhill; oriel gelf gyfoes Nichido, Tokyo; Chateau de Lichtenberg, Ffrainc; Arolfini, Bryste; Museum of the History of Science, Rhydychen.
Mae arddangosfeydd grŵp yn cynnwys Baltic Mill, y DU; Centre Rhenan d’Art Contemporain yn Alsace, Ffrainc; Galleria Civica ym Modena, yr Eidal; Centre Pompidou, Paris; Il Museo di Trento, yr Eidal; amgueddfa celf fodern Moscow, Rwsia; Fitzwilliam, Caergrawnt. Mae ei gwobrau am ymchwil yn cynnwys comisiynau diweddar gan gasgliad Cuming yn Llundain a Sefydliad Seryddiaeth Prifysgol Caergrawnt.
Cedwir ei gwaith mewn nifer o gasgliadau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys casgliad celf Llywodraeth y DU; casgliad Pompidou, Paris; Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain; y warchodfa ffederal, Washington; Fondazione Sandretto Redaudengo, yr Eidal.
Mae gwaith ffotograffiaeth Rut Blees Luxembourg yn ymdrin â chynrychiolaeth y ddinas hon a ffenomen yr ardal drefol, ac mae’n cynnwys ffotograffau mawr a gosodiadau celf cyhoeddus a mis-en-scène operatig. Gellir gweld ei gwaith celf cyhoeddus parhaol, Silver Forest, ar ffasâd Neuadd y Ddinas yn San Steffan, Llundain,
Mae gwaith Rut Blees Luxembourg wedi’u harddangos yn helaeth ar draws y DU ac Ewrop, gan gynnwys ei harddangosfa unigol Phantom, gwaith ffotograffig sy’n archwilio effaith moderniaeth ar bensaernïaeth Dakar, Senegal yn Tate Lerpwl. Dangoswyd ei chyfres London Dustyn Amgueddfa Llundain. Cedwir ei gwaith mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys Tate; Centre Pompidou, Paris; Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain ac oriel gelf Glynn Vivian, Abertawe.
Creodd Rut Blees Luxembourg glawr eiconig Original Pirate Materialgan The Streets ac mae’n ddarllenydd mewn estheteg drefol yn y Coleg Celf Brenhinol.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau